STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Trosedd

MAE CYNGOR CYFREITHIOL YNG NGORSAF YR HEDDLU AM DDIM POB TRO

Yn aml, mae’r profiad o gael eich holi gan yr Heddlu neu eich erlyn trwy’r llysoedd yn un anymunol sy’n peri gofid i bobl. O fewn ein cwmni mae gennym bobl broffesiynol sydd wedi bod yn rhoi cyngor mewn achosion troseddol am dros 25 mlynedd – mae’r cyngor hwn yn amrywio o achosion moduro i amddiffyn unigolion yn llwyddiannus mewn achosion llofruddiaeth. Bydd Cymorth Cyfreithiol ar gael i lawer yn y llys ond mae’n bwysig cofio bod unrhyw gyfweliad gan yr Heddlu, boed hynny pan mae rhywun wedi ei arestio neu gyfweliad gwirfoddol, yn cael ei ariannu gan yr Asiantiaeth Cymorth Cyfriethiol waeth beth yw sefyllfa ariannol yr unigolyn. Mae gennym dîm o Gyfreithwyr a chyn Heddweision sydd wedi eu hyfforddi fel Cynrychiolwyr wedi eu Achredu yn Swyddfa’r Heddlu ac felly rydym yn gallu cynnig gwasanaeth “ galw allan” 24/7. Rydym yn defnyddio Arbenigwyr Forensig rhagorol a Bargyfreithwyr arbennigol fel bo’r angen os yw’r achos yn mynd o flaen y llys. Gallwn hefyd gynnig telerau talu ffafriol os nad ydych yn gymwys ar gyfer Cymorth Cyfreithiol yn y llys.

Peidiwch â gwneud sefyllfa anodd yn waeth trwy beidio cael cyngor o’r safon uchaf o’r cychwyn. Beth bynnag eich sefyllfa, byddwn yn trafod unrhyw gostau gyda chi o flaen llaw a gall sgwrs anffurfiol ar gychwyn achos yn aml osgoi canlyniadau trychinebus ar ddiwedd y broses.

Fel arall, cwblhewch ffurflen ymholiad neu cysylltwch â ni am unrhyw wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

Ffurflen Ymholiad - Trosedd

 

 

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.