14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Rydym yn delio ag achosion teuluol o bob math – ysgariad, gwahanu, trefniadau plant, materion ariannol yn cynnwys anghydfod ynglyn ag eiddo yn dilyn tor-priodas neu wahanu. Gallwn hefyd wneud cais i’r llys am orchymynion megis Gorchymyn Meddiant (Occupation Order) neu Orchymyn Gwrth Aflonyddu (Non-molestation Order). Mae gennym brofiad eang o gynrychioli clientau o flaen y Llysoedd Teulu gyda phob math o achosion yn cynnyws ceisiadau ariannol mewn ysgariad lle mae asedau sylweddol i’w rhannu.Mae gennym gysylltiadau gyda Bargyfreithwyr ag Arbennigwyr ariannol rhagorol sydd eu hangen yn aml wrth drafod achosion fel hyn.
Rydym yn cynnig gwasanaeth cwbwl gyfrinachol a sensitif i’n clientau sydd yn aml yn mynd trwy gyfnod anodd iawn. Gallwn gymryd peth o’r pwysau oddi ar ein clientau trwy gysylltu a thrafod gyda’r ochr arall mewn modd proffesiynol.
Mae’r llywodraeth wedi cyfyngu yn fawr ar yr achosion lle mae Cymorth Cyfreithiol ar gael ar gyfer achosion teuluol. Yn Strain a’i Gwmni rydym yn gwneud y gwaith yma ar sail preifat ond yn gallu cynnig prisiau cystadleuol a chynlluniau talu ar gyfer clientau sydd angen amser i dalu.
Fel arall, cwblhewch ffurflen ymholiad neu cysylltwch â ni am gyfweliad cychwynnol.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ffioedd
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.