14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae agwedd gynyddol o atebolrwydd sifil yn ymwneud a Gweinyddu Ystadau ag achosion Profianaeth. Mewn sefyllfaoedd lle mae Ystad heb gael ei gweinyddu yn gywir, mae’r rhai nad ydynt wedi derbyn yr hyn a ddylent o’r Ystad yn gallu gwneud cais i’r llys er mwyn i’r llys weinyddu’r Ewyllys a’r Ystad yn iawn. Gellir gwneud hyn os ydych yn blentyn neu yn ŵr neu wraig i’r ymadawedig neu yn aelod o’r teulu neu eich bod wedi bod mewn perthynas hir-dymor gyda’r person hwnnw.
Cysylltwch gyda’r cwmni am bris heb ddim rhwymedigaeth. Cyflwynwch i ni amgylchiadau eich achos yn fras a gallwn egluro yr opsiynau sydd ar gael heb godi arnoch. Mae gennym unigolion proffesiynol ar gael sydd â phrofiad helaeth dros 20 mlynedd a sydd yn gallu sicrhau cael gafael ar Arbenigwyr, Bargyfreithwyr a Phriswyr sydd eu hangen yn aml i ddelio gydag achosion cymhleth.
Gallwch lenwi y Ffurflen Gyswllt sydd i’w chael yma ag ebostio’r manylion atom cyn cael ymgynghoriad heb rwymedigaeth.
Yn aml mae pobl yn cael eu hunain mewn anghydfod dros ffiniau, anghydfod gyda chymydog neu angen ad-ennill dyled a mathau eraill o achosion sifil a gallwn dderbyn cyfarwyddiadau i ddod ag achosion o’r math yma. Llenwch y Ffurfen Gyswllt a gallwn drefnu apwyntiad ar eich cyfer.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ffioedd
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.