14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae gan bobl sydd yn dioddef anaf o ganlyniad i ddigwyddiad lle nad oes bai arnynt yr hawl i gael iawndal am eu poen, dioddefaint ag unrhyw golledion ariannol sy’n dilyn. Mae gennym Adran o fewn y cwmni sydd â 25 mlynedd o brofiad mewn delio gyda phob math o hawliadau am iawndal, o anaf whiplash i anafiadau trychinebus sy’n golygu hawlio miliynnau o bunnoedd. Rydym yn delio gyda phob achos fel bo’r angen gan ymateb i ofynion yr unigolyn, dod o hyd i Arbennigwyr Meddygol a Bargyfreithwyr Arbenigol yn y maes ynghŷd ag Arbenigwyr Ail-Sefydlu. Mae’r broses gyfreithiol o wneud hawliad am anaf personol wedi mynd trwy sawl newid ac mae hyn yn parhau. Mae Porth Anaf Personol Ar-lein wedi ei sefydlu ar gyfer achosion bychain a rhagwelir y bydd newidiadau ym mhrosesau y Llys Sirol wrth ddelio gydag ystod o fathau o achosion. Rydym yn dal i gynnig gwasanaeth “Dim Bûdd - Dim Bill” felly os nad ydym yn llwyddo i gael arian i chi ni fydd yn rhaid i chi dalu tuag at unrhyw gostau.
Er mwyn trefnu ymgynghoriad cychwynol am ddim am eich achos, gallwch lenwi a dychwelyd y Ffurflen Gwerthuso Damwain sydd i’w chael i'w brintio yma, neu yn ddigidol isod. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gennych dair mlynedd o ddyddiad y ddamwain i ddechrau achos ond gorau po gyntaf y cychwynir yr achos er mwyn cael y canlyniad gorau bosib.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ffioedd
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
Cyfieithiad i ddilyn yn fuan...
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.