STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Yr Adain Dde Eithafol a Therfysgaeth

Heddlu

Dyddiad: 2020-05-04

Tuedda’r mwyafrif o bobl i gysylltu unrhyw gyfeiriad at yr adain dde eithafol gyda hiliaeth yn hytrach na therfysgaeth.Aelodau o’r grwp asgell dde eithafol “National Action”,grwp sydd wedi ei wahardd, oedd Alice Cutter a Mark Jones, ynghyd a Garry Jack, Daniel Ward a Connor Southern. Holwyd yr aelodau ar fater gwrth-derfysgaeth, a phan ddywedwyd wrth Ward ei fod yn cael ei arestio, atebodd:”Mae hyn yn wallgof”, sydd yn awgrymu nad oedd yn ystyried ei hun yn derfysgwr posibl.

Dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 mae Natonal Action wedi ei wahardd ers 2016 oherwydd ei fod yn fudiad terfysgol, a dyma’r grwp cyntaf i’w wahardd ers cyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Yn yr olaf o sawl treial yn ymdrin a’r achos dan sylw, dyfarnwyd Alice Cutter a’r pedwar aelod arall y cyfeirir atynt uchod, yn euog o droseddau terfysgaeth yn Llys y Goron Birmingham, oherwydd eu bod yn aelodau o fudiad gwaharddedig, h.y.anghyfreithlon.

Beth yw mudiad gwaharddedig?

Dan Ddeddf Terfysgaeth 2000, mae gan yr Ysgrifennydd Cartref hawl i wahardd unrhyw fudiad y credir ei fod yn ymwneud a therfysgaeth, a’i bod felly’n synhwyrol i’w wahardd. Golyga ymwneud a therfysgaeth bod y mudiad yn cyflawni neu’n cymryd rhan mewn gweithgaredd terfysgol, yn paratoi ar gyfer terfysgaeth, yn hyrwyddo neu gefnogi terfysgaeth (sydd yn cynnwys clodfori terfysgaeth mewn modd anghyfreithlon), neu yn ymwneud a therfysgaeth mewn unrhyw ffordd arall.

Pam gwaharddwyd “National Action”?

Disgrifiwyd y mudiad gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd fel “mudiad hiliol, gwrth-semitig a homoffobig sydd yn annog casineb, clodfori trais, ac yn hyrwyddo ideoleg ffiaidd. Cafodd ei wahardd yn dilyn asesiad o fod yn ymwneud a therfysgaeth gan fod y deunydd ymddangosai ar eu gwefan yn aml yn cynnwys lluniau a iaith dreisgar, ac yn hyrwyddo ac annog gweithredoedd terfysgol yn dilyn llofruddiaeth yr A.S. Jo Cox. Amcan ei wahardd oedd atal cynnydd yn rhif yr aelodaeth, atal lledaenu propaganda, a gwarchod pobl ifanc bregus oedd mewn perygl o gael eu dylanwadu gan eu “daliadau gwenwynig”.

Yn ystod yr achos, clywodd y llys am gyfeiriadau Cutter at yr Iddewon, oedd yn cynnwys ffantasiau am ladd a glanhau ethnig. Roedd hi hefyd wedi ymddangos mewn cystadleuaeth Miss Hitler, sbloet hysbysebu i ddenu mwy o aelodau.

Beth oedd y ddedfryd?

Nid yw Alice Cutter na’r gweddill o’r rhai gollfarnwyd wed cael eu dedfryd hyd yn hyn; ond gall y drosedd olygu hyd at 10 mlynedd o garchar.

Sut gallwn helpu?

Cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 neu michael@strainandco.co.uk am help. Gallwn roi cyngor ar bledio ac amddiffyn, a pha ddedfryd sydd yn bosibl mewn ystod eang o amgylchiadau.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.