STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Amdanom Ni

Rydym yn gwmni arbennigol yn achosion llys yn y maes sifil, teulu a troseddol. Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn technoleg gwybodaeth er mwyn cyflawni gwasanaeth cyflawn a phroffesiynnol drwy gogledd Cymru a thu hwnt.

Mae ganddom gyfreithwyr gyda phrofiad eang ym mhob math o waith llys gan gynnwys llys apel, mewn gwaith teulu, troseddol ac anafiadau personol. Mae’n arferiad gan y cwmni osod y trefn ariannu’n unrhyw achos ger bron yn fuan cyn I unrhyw client orfod talu dim. Rydym yn gweithredu ar sail “Dim Budd Dim Bil” sef ni fydd bil I’r client heb arian gael ei dalu I’w rhan ac rydym yn fodlon cymeryd taliadau misol mewn achosion teulu.

Rydym yn barod iawn I drafod unrhyw fater cychwynol ac yn sylweddoli pa mor anodd mae achosion llys neu cyfnodau o wrthdaro personol yn gallu achosi I bobl a’u teuluoedd ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu I geisio helpu ac ymdopi a’r sefyllfaoedd.

Pwy Ydym Ni

Partneriaid


Michael Strain

Cymhwysodd Michael Strain ym 1992, a derbyniodd gymwysterau Hawliau Uwch yn 2003, sy’n ei alluogi i ymddangos yn y Llysoedd Uwch.

Mae’n arbenigo mewn cyfraith troseddol ac anafiadau personol ac y mae wedi delio â holl rychwant achosion troseddol o fân achosion moduro i ymchwiliadau i lofruddiaethau o bwys.

Mae’n delio yn ogystal ag achosion anafiadau corfforol yn cynnwys anafiadau whiplash safonol ac anafiadau mawr catastroffig sy’n werth mwy na £1,000,000.00.

Gall gynnig gwasanaeth cyfangwbl Gymraeg os dymunwch.

Carys Parry

Graddiodd Carys Parry gyda anrhydedd mewn Cymraeg a Ffrangeg ym 1991 cyn cymhwyso fel Cyfreithwraig ym 1996. Gweithiodd fel Cynghorydd Cyfreithiol yn Llysoedd yr Ynadon yng Ngogledd Cymru am 18 mlynedd lle bu’n gweithio fel uwch Gynghorydd Cyfreithiol cyn ymuno a chwmni Martin a Strain ym Mhwllheli yn 2009. Mae’n arbenigo mewn delio gyda materion Troseddol a Theuluol. Mae ganddi brofiad helaeth yn y ddau faes - mae wedi ymdrin ag achosion ariannol cymhleth yn dilyn tor-priodas gan lwyddo i ad-ennill asedau sylweddol i’w chlientau. Mae ei phrofiad helaeth o weithio o fewn y llysoedd wedi rhoi iddi yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i allu ymdrin yn broffesiynol â phob math o achosion troseddol. Mae hefyd yn Gyfreithiwr Dyletswydd yn y llys.

Gall gynnig gwasanaeth cyfangwbl trwy’r Gymraeg os dymunwch.

Cyfreithiwr Cynorthwyol


Rhys Tudur

Graddiodd Rhys Tudur gyda gradd LLB yn y Gyfraith ynghyd a Chyfrifeg o Brifysgol Bangor yn 2013.
Mae wedi cymhwyso ymhellach fel Cynrychiolydd yn Swyddfa’r Heddlu a Chyfreithiwr Dyletswydd yn y Llys gan ddelio â materion troseddol o bob math. Mae wedi gweithio fel cyfreithiwr ym Môn a Gwynedd – Caergybi, Blaenau Ffestiniog, Porthmadog a Phwllheli.
Mae ganddo sêl dros amddiffyn pobl sy’n dioddef angyfiawnder. Ei ddiddordeb pennaf yw gwleidyddiaeth a gweithio i gadw cymunedau gwledig yn hyfyw a llewyrchus. Mae’n Gynghorydd ac yn Gadeirydd Cyngor Tref Nefyn ac yn aelod o Gôr Meibion Carnguwch.

Cyfreithiwr dan Hyfforddiant


Elan Parry

Gwybodaeth yma'n fuan...

Gweithwyr Achos


David Jones

Mae David Jones yn Weithiwr Cyfreithiol Cefnogol. Mae wedi cymhwyso fel cynghorydd yn y ddalfa, wedi gyrfa hir yn yr heddlu a fel milwr. Yn wreiddiol o Fangor, mae Dafydd yn ddwyieithog ac yn cynghori ar bob math o faterion troseddol yn Swyddfa’r Heddlu. Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn casglu tystiolaeth mewn achosion sy’n mynd gerbron y llys.

Staff Cynorthwyol


Iola Roberts

Iola Roberts - Ysgrifenyddes Cyfreithiol - Mae Iola yn fam I ddau o blant ac yn nain i ddau hefyd.Mae hi yn gyfrifol am gofnodi achosion troseddol ac cydymffurfio gyda’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Mae gan Iola brofiad eang wedi bod yn gyflogedig gan y partneriaid ers 13 mlynedd ac yn gyn ysgrifenyddes o fewn y llywodraeth leol. Yn enedigol o Bwllheli mae hi yn adnabod yr ardal yn dda ac yn barod I drafod sefyllfaoedd achos gyda’I thalentau i gyd.

Sian Hicks

Sian Hicks – Ysgrifenyddes Gyfreithiol - Mae Sian y briod ac yn fam I 3 o blant ac yn gweithio gyda’r partneriad oddeutu 10 mlynedd. Mae Sian yn gweithio tuag at cymhwyster canolidol ac yn bennaf yn cefnogi gwaith sifil y cwmni gan gynnwys gwaith anafiadau personol, achosion teulu a throseddol. Mae Sian yn barod iawn I drafod ac yn barod iawn I gyfleu unrhyw wybodaeth yn ol a mlaen gyda chleientau mewn unrhyw achos.

Mae Iola a Sian yn wybodus a chanddynt brofiad helaeth. Gallant ddelio gydag ymholiadau syml dros y ffon neu wrth y cownter. Os na fyddant yn gallu eich helpu, byddant yn pasio neges ymlaen I’r sawl fydd yn ymwneud a’ch achos.



Rydym yn arbenigo mewn:

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.