STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Ymddygiad o reoli a gorfodi.

Youth [Image credit:

Dyddiad: 2021-05-25

Bu ymddygiad o’r math yma yn drosedd ar y llyfrau statud ers rhai blynyddoedd,ond cyrhaeddodd y penawdau yn ddiweddar.

Cyflwynwraig gyda ITV Cymru yw Ruth Dodsworth,gyfarfu â’i chyn-wr Jonathan Wignall yn 2001.Pan ddechreuodd ei fusnes ef fynd ar i lawr,a’i yfed gynyddu,hi oedd y prif enillwr cyflog.Dyna pryd dechreuodd ei ymddygiad newid,a dechreuodd ei rheoli a’i gorfodi.

Dechreuodd galwadau ffon parhaus,gyda 150 ar un diwrnod yn unig.Byddai’n mynd gyda hi i apwyntiadau,gwirio ei ffon,agor ei llythyrau,a hyd yn oed sefyll tu allan i’r ystafell ymolchi tra’r roedd hi i mewn. Ar ol ei arestio,rhyddhawyd ef ar fechniaeth,gyda’g amodau i beidio cysylltu gyda hi,ond gosododd draciwr ar ei char.Cysylltodd gyda’r traciwr trwy app ar ei ffon 250 gwaith o fewn 19 diwrnod.Parhaodd yr ymddygiad am naw mlynedd.

Dywedwyd wrth y llys i Ruth Dodsworth gael ei hun mewn dyledion dybryd,ac yn wynebu cael ei throi o’i chartref am fod biliau heb eu talu. Effeithiodd ei ymddygiad ar ei hiechyd,ac ar ei hunan-hyder yn ogystal.

Ar ddiwrnod cyntaf y treial plediodd Wignall yn euog i ymddygiad o reoli a gorfodi,a stelcio.Dedfrydwyd ef i dair blynedd o garchar.

Beth yw’r drosedd hon?

Rhaid i’r erlyniad brofi bod yr unigolyn :

  1. yn ymddwyn fel hyn gyda pherson arall yn fynych ac yn gyson.
  2. bod yr ymddygiad yn un o reoli neu orfodi.
  3. bod cysylltiad personol rhwng y diffynydd a’r person arall pan oedd yn ymddwyn fel hyn.
  4. bod yr ymddygiad yn cael effaith difrifol ar y person arall.
  5. bod y diffynydd yn gwybod,neu y dylai wybod,am yr effaith difrifol hwn ar y person arall.

Beth yw’r dedfrydau posibl?

Pum mlynedd o garchar yw’r gosb uchaf,a gellir ymdrin a’r drosedd mewn llys ynadon neu lys y goron. Dedfrydwyd Joshua Dalgamio i dair blynedd am ymddygiad o’r fath,yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau treisgar a bygythiadau,dros gyfnod o bedwar mis. Disgrifwyd Jordan Sbeel fel un fu’n rheoli ei phartner ers yn gynnar iawn yn eu perthynas.Plediodd yn euog i glwyfo yn fwriadol,achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol,a rheoli a gorfodi ei phartner.Cafodd ddedfryd o saith mlynedd am bob ymosodiad (y dedfrydau i gyd-redeg),a chwe mis yn gyd-olynol am y rheoli a’r gorfodi.Roedd hon yn ddedfryd drugarog iawn ym marn y Llys Apel,er na wnaethant ymyrryd ymhellach.

Dedfrydwyd JB i flwyddyn ac wyth mis am y drosedd,ynghyd a thri mis am ymosod yn rhywiol.Cafwyd ef yn euog o ymddygiad treisgar blaenorol,a bod yr ymosodiad rhywiol yn rhan o’r patrwm o ymddygiad o reoli.

Sut gallwn helpu?

Sicrhawn bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newidiadau deddfwriaethol,er mwyn gallu cynnig y cyngor cywir i’n clientau. Os dymunwch drafod unrhyw agwedd o’ch achos,cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 neu carys@strainandco.co.uk

[Image credit: “204/365 - Fear not, for I am with you always.” by Www.CourtneyCarmody.com/ is licensed under CC BY-SA 2.0 ]

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.