STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Tystiolaeth Arbenigwr

fingerprint

Dyddiad: 2020-04-02

Defnyddir tystiolaeth arbenigwr er mwyn rhoi i’r llys wybodaeth nad yw’n debygol fod yr ynadon, y barnwr neu’r rheithgor yn ymwybodol ohoni. Gellir cynnig tystiolaeth barn os yw’r cymwysterau gan yr arbenigwr i roi barn o’r fath.

Dyletswydd tyst sydd yn arbenigwr

Mae’n ddyletswydd arno gynorthwyo’r llys trwy roi tystiolaeth wrthrychol a diduedd am faterion o fewn cwmpas ei arbenigedd.Gwybodaeth i’r llys yw hyn yn hytrach nag i’r parti sydd yn rhoi’r cyfarwyddiadau yn yr achos.

Mae Rheolau Trefniadaeth Droseddol yn gofyn i arbenigwr roi gwybodaeth ar rai materion, megis unrhyw wrthdaro posibl, neu apel gafodd ei gwrthod oherwydd bod diffygion yn eu tystiolaeth, dedfrydau neu sylwadau barnwrol gwrthwynebus.

Fydd y llys bob amser yn gwrando ar arbenigwr?

Mae’n bosibl gwneud cais i hepgor tystiolaeth arbenigwr os gellir dadlau bod yr effaith yn fwy niweidiol nag ydyw o werth fel tystiolaeth.Gwelwyd llysoedd hefyd yn gwrthod derbyn tystiolaeth arbenigwr os nad yw’n helpu’r rheithgor i ddod i benderfyniad. Gall llys wrthod tystiolaeth hefyd os, er enghraifft, penderfynir nad yw’r arbenigwr wedi profi ei fod yn hollol annibynnol, neu heb gydymffurfio a’i ddyletswydd i’r llys.

Ni phetruswn herio arbenigwyr alwyd i roi tystiolaeth gan yr erlyniad os oes posiblrwydd y caiff ei wrthod.

Pa fath o arbenigwyr ddefnyddir mewn achosion troseddol?

Mae ystod eang o arbenigedd perthnasol mewn cyfraith droseddol. Gall hyn gynnwys arbenigedd fforensig fel DNA neu olion bysedd neu esgidiau, adnabod wynebau pan gyfyd cwestiwn o adnabyddiaeth o lun llonydd neu luniau Camerau Cylch Cyfyng; arbenigwyr meddygol i ymdrin ag anafiadau, adroddiadau seiciatrig neu seicolegol, neu ddadansoddiad cerddediad.

Sut mae dod o hyd i arbenigwr?

Mae gennym gofrestr o arbenigwyr profedig a dibynadwy ymhob disgyblaeth neu hyfforddiant.Nid yn unig mae tyst gyda arbenigedd yn arbenigwr yn ei faes ei hun; mae ganddo hefyd sgiliau ychwanegol fel ysgrifennu adroddiadau, a phrofiad o roi tystiolaeth o flaen llys.

Mae’n bwysig felly cael yr arbenigwr iawn i roi tystiolaeth yn eich achos, a gallwn ni wneud hynny i chi.

Sut gallwn helpu?

Cysylltwch a Rhys Tudur ar 01758 455 500 i gael cyngor arbenigol ac i ni helpu. Gallwn roi cyngor ar bledio ac amddiffyn, a’r dedfrydau posibl mewn nifer fawr o amgylchiadau.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.