STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Trwyddedau gyrru a thowio.

Trwyddedau gyrru

Dyddiad: 2021-12-01

Cyhoeddwyd cynllun gan y llywodraeth i newid y gyfraith yn ymwneud a thynnu trelar ney garafan.Ar hyn o bryd,rhaid i yrrwr cerbyd gafodd ei drwydded ar ol 1997 sefyll prawf B+E ar gyfer towio car neu drelar,cyn cael yr hawl i dynnu trelar trwm tu ol i gerbyd.Cyhoeddwyd newid nad oedd hyn yn angenrheidiol bellach,ac roedd hyn i fod i ddod i rym ar Dachwedd 15ed,2021,ond ni wireddwyd hyn.

Pam na ddaeth hyn i rym?

Gosodwyd yr offeryn statudol Rheoliadau Cerbydau Modur(Trwyddedau Gyrru)(Newidiad)(Rhif2) ar Fedi 16eg,ond ni chafodd ei gymeradwyo mewn pryd i’w wneud yn weithredol ar Dachwedd 15ed.

Beth sydd yn digwydd yn awr?

Ni ellir newid y math hwn o offeryn statudol unwaith cafodd ei osod ar ffurf drafft,felly rhaid cymryd camau eraill.Rhaid ail-osod y rheoliadau fel drafft Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru)(Newidiad)(Rhif 5) 2021.Er mwyn gweithredu’n gyflymach dywed y llywodraeth ei bod am ddefnyddio’r cynllun brys dan baragraff 14(6) Atodlen 8 Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Dilead)2018.Cynllun archwilio pellach yw’r paragraff hwn ar gyfer offerynau sydd yn newid neu ddiddymu deddfwriaeth eilaidd dan Adran 2(2) Deddf Cymunedau Ewrop (yn cynnwys deddfwriaeth eilaidd yn gweithredu cyfeirebau’r Undeb Ewropeaidd).

Gellir defnyddio’r ddeddfwriaeth hon oherwydd ei bod yn gyfeireb CE oedd yn gosod cyfyngiad ar bwysau trelar roedd gan rhai gyrrwyr yr hawl i’w dowio.Trwy ddefnyddio’r cynllun brys gellir gosod y Rheoliadau’n gynt,gan bod y cyfnod cyhoeddi o 28 diwrnod wedi pasio.Gwneir trefniadau hefyd i sicrhau gellir rhoi’r newidiadau gyflwynir yn y Rheoliadau ar waith cyn gynted ag y byddant yn dod i rym.

Y gyfraith yn y cyfamser.

Os oes arnoch eisiau towio trelar neu garafan trymach na 750kg gyda cherbyd yn pwyso hyd at 3500kg,bydd angen categori B+E ar eich trwydded.Os cawsoch eich trwydded cyn Ionawr 1997,bydd y categori hwn gennych yn awtomatig.Os nad yw’r categori ar eich trwydded,rhaid cael prawf cerbyd a threlar sydd yn cynnwys sgiliau gyrru (prawf ymarferol),sgiliau cwrs caeedig,ac arddagnosiad ymarferol.

Y ddeddf newydd.

Pan gaiff y ddeddf newydd ei phasio ni fydd angen prawf os cawsoch eich trwydded ar ol 1997.Bydd hyn yn arbediad o £110 ar gost prawf.Ychwanegir categoriau B+E yn awtomatig i drwyddedau perthnasol,ac ni fydd angen i ddeiliaid trwyddedau gysylltu’n unigol a’r DVLA.Os byddwch yn towio unrhyw beth rhy drwm heb y categoriau ar eich trwydded cyn newid y ddeddf,mae’n bosibl i chi gael dirwy,ynghyd a 6 phwynt cosb ar eich trwydded.

Sut gallwn helpu? SIcrhawn bod yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newidiadau yn y ddeddfwtiaeth neu’r gyfraith achosion,er mwyn rhoi’r cyngor cywir i chi. Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos, cysylltwch a:

Carys Parry ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.