STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Problem sy'n dreth ar fusnesau

Problem sy'n dreth ar fusnesau

Dyddiad: 2017-10-23

Newid ar fin dod

Mae prif ofynion Deddf Troseddau Ariannol 2017 yn dod I rym ar Fedi 30ain;dylai busnesau fod yn ymwybodol o rai ffeithiau pwysig.

Gofynion newydd

Tra bod osgoi talu treth eisoes yn drosedd, nid oes rhaid I gwmni ar hyn o bryd gymryd camrau I atal person arall rhag cyflawni gweithgaredd anghyf reithiol.

Ar wahan I ambell eithriad, os nad ydych chi’n bersonol yn cymryd rhan, gallwch sefyll o;r neilltu a gwneud dim tra bod rhywun arall yn troseddu.Mae gofynion y Ddeddf yn atal sefyllfa o’r fath mewn rhai agweddau o drethu.

Sut?

Yn ol y Ddeddf gall cwmni ( gan gynnwys partneriaethau) gael ei erlid os cyflawnir trosedd ynglyn a thalu treth gan weithiwr cyflogedig neu unrhywun arall fydd yn gwasanaethu ar ran y cwmni ( asiant a.y.y.b.)

I gael eich cyhuddo rhaid i’r canlynnoll fod yn wir; 1. Osgoi talu treth ( pa un a person yn gwneud y math yma o wasanaeth fu erlid yn dilyn ai peidio) 2.

Person cysylltiedig wedi hwyluso cyflawni’r drosedd honno ( h.y. person yn gysylltiedig a’ch busnes) 3. Diffyg o safbwynt y cwmni I rwystro’r sefyllfa uchod.

Mae yma elfen o rwymedigaeth a chyfrifoldeb llym; hwyrach nad oedd y busnes yn ymwybodol fod unrhyw drosedd yn cael ei chyflawni.

Ystyr Person Cysylltiedig;

gweithiwr cyflogedig, person yn gweithredu fel asiant, neu unrhyw un arall sy’n cynnig gwasanaethu ar ran eich cwmni, ac sy’n gweithredu fel person yn gwneud y math yma o wasanaeth.

Mae amodau’r Ddeddf yn berthnasol I droseddau yn y D.U. a thramor.

Oes yna amddiffyniad?

Oes, os gallwch brofi:

a) bod gennych ddulliau gweithredu I atal y drosedd y disgwylid yn rhesymol I chwi ei gael. b) neu nad oedd yn rhesymol disgwyl I chwi fod wedi paratoi dulliau rhwystro’r drosedd ymhob math o amgylchiadau.

Felly mae’n ddoeth i’ch busnes sicrhau ffyrdd i’ch diogelu er mwyn ceisio rhwystro’r drosedd o osgoi treth

Beth yw’r gosb?

Gall eich cwmni gael dirwy sylweddol. Ar hun o bryd nid oes canllawiau dedfrydu, ond gellir rhagweld y bydd dirwyon yn sylweddol, ac mewn rhai achosion yn ddegau o filoedd o bunnoedd a mwy.

Rhaid hefyd ceisio mesur yr effaith ar eich enw da o ganlyniad I hyn oll, a’r niwed megis colli cytundebau gwaith yn y dyfodol.

Nid yw hyn yn argoeli’n dda. beth allaf wneud I ddiogelu fy nghwmni?

Rhaid i’ch busnes fabwysiadu polisiau a dulliau gweithredu I atal eich staff a gweithwyr eraill rhag cyflawni troseddau sy’n hyrwyddo twill o safbwynt talu treth.

Nid yw’n bosibl prynu rhyw bolisi parod addas I bawb.Mae angen creu cynllun addas eich hun.

• Asesu’r perygl. • Penderfynu ar ymateb yn ol maint y perygl hwnnw. • Sicrhau bod pawb yn ymrwymo gant y cant I ddilyn y polisi. • Dyfalbarhau I ddilyn y rheolau. • Egluro.r polisi yn fanwl a hyfforddi pob gweithiwr ac asiant sy’n gweithio ar eich rhan. • Cadw llygad ac adolygu’r polisi a’r dulliau gweithredu I sicrhau eu bod yn dal yn effeithiol.

Byddwn yn sicr yn cynnwys hyn ar ein rhestr o Bethau i’w Gwneud. Ni ddisgwylir I bopeth fod yn ei le gennygh erbyn Medi 30ain 2017, ond mae rhai gofynion brys gan HMRC.

Disgwylir I chwi weithredu ar fyrder gan ganolbwyntio ar y prif beryglon a’r blaenoriaethau fel bod gennych daflen amser eglur I weithredu’r cynlluniau.

Cymorth

Mae cyfreithiau yn ymwneud a busnesau yn heriol ar y gorau, ond pan mae modd iddynt fynd a’ch cwmni i’r llys a wynebu dirwyon enfawr, gwell gweithredu ymlaen llaw a gwneud popeth o fewn rheswm I sicrhau eich bod wedi eich diogelu.

Crynodeb yn unig yw hyn o ofynion Deddf Troseddau Ariannol 2017; ni fydd yn syndod I chwi eu bod yn llawer mwy cymhleth; felly rhaid gofalu eich bod yn deall yn drylwyr yr hyn sydd angen I chwi ei wneud.

Cysylltwch a Michael Strain neu Carys Parry os ydych yn pryderu.Gwell cael cyngor mewn da bryd na pheryglu popeth trwy anwybyddu’r broblem.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.