STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Newidiadau yn hawliau ynadon i ddedfrydu; a Rhyddhau Cynnar.

Dyddiad: 2023-03-15

Mae trefn dedfrydu yn llysoedd ynadon yn ddihareb o gymhleth,ac mae ar fin newid eto yn dilyn tro pedol gan y llywodraeth.Ym mis Mai 2022 rhoddodd y llywodraeth ganiatad i ynadon garcharu oedolyn am hyd at 12 mis am drosedd unigol neillffordd;cyn hynny,6 mis oedd yr uchafswm.

Diben y newid hwn oedd gostwng nifer yr achosion oedd yn mynd ymlaen i lys y goron.Ni wyddom os gwnaeth y newid hwn ateb y diben,ac efallai na chawn byth wybod,gan bydd y polisi’n newid ar gyfer pob cyhuddiad ar neu ar ol Mawrth 30ain,a chwtogi’r gosb uchaf unwaith eto i 6 mis o garchar.

Pam y newid?

Ymddengys mai diben y newid yw arafu’r cyflymder mae carcharorion yn cyrraedd carchardai.Bydd anfon diffynyddion i lys y goron eto yn lleihau pwysau ar garchardai,o leiaf am ychydig o fisoedd.Mae’r newid polisi hwn yn fater brys gan fod celloedd heddlu eisoes yn cael eu defnyddio I garcharu dros dro.

Rhyddhau Cynnar.

Cyhoeddwyd hefyd ymestyn rhyddhau cynnar o’r carchar gyda tag electroneg o 135 i 180 diwrnod.Bydd y mesur hwn yn rhyddhau 400 i 600 o lefydd mewn carchardai,a bydd yn dod i rym ar Fehefin 2il 2023.

Sut gallwn helpu?

Sicrhawn ein bod yn gyfarwydd a phob diweddariad yn y ddeddfwriaeth ac yn y gyfraith achosion er mwyn rhoi’r cyngor gorau i chi.Os dymunwch drafod unrhyw agwedd o’ch achos chi,cysylltwch,os gwelwch yn dda,gyda Carys Parry ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.