STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Heddwas,taser a dynladdiad.

[Image credit: Police issue X26 TASER-white.jpg

Dyddiad: 2021-08-13

Dedfrydwyd yr heddwas Benjamin Monk am ddynladdiad Dalian Atkinson,fu farw yn 2016.

Cyn-beldroediwr oedd Dalian Atkinson chwaraeodd i nifer o glybiau yn cynnwys Manchester United ac Aston Villa,cyn ymddeol o’r gem yn 2001.Ym mis Awst 2016 roedd Mr Atkinson yn dioddef o ddiffyg ar yr arennau,ac ymddangosai fod ganddo broblemau iechyd meddwl.Galwyd yr heddlu i gartref tad Mr Atkinson oherwydd ei fygythiadau i ladd ei dad.Roedd dirywiad dramatig yn ei gyflwr iechyd meddwl;honnai,er nad oedd hyn yn wir,ei fod wedi lladd aelodau eraill o’r teulu,ac roedd bellach mewn rhyw fath o gyflwr seicotig.

Benjamin Monk oedd un o’r plismyn yn bresennol yn dilyn galwad gan gymydog.Nid oedd ymddygiad Mr Atkinson yn nodweddiadol ohono,ac roedd yn ymosodol.Ceisiodd Monk ei dawelu a chamu’n ol;taniodd ei wn taser,ond ni chafodd unrhyw effaith ar Mr Atkinson oedd yn dal i gamu ymlaen.Taniwyd y taser yr eilwaith,ond eto heb unrhyw effaith.Fel roedd Mr Atkinson yn camu ymlaen at y plismon eto,taniwyd y taser am y trydydd tro,a syrthiodd Mr Atkinson i’r llawr.

Cafodd Monk ddedfryd o lofruddiaeth a phlediodd yn ddieuog.Yn ei dreial,cytunodd y rheithgor bod defnyddio taser deirgwaith yn rhesymol a chyfreithlon,er mwyn ceisio dal Mr.Atkinson yn ol,a chadw rheolaeth arno.Rhoddwyd tystiolaeth byddai deunydd rhesymol o’r taser yn golygu dal cylched trydanol yn fwriadol am rhwng pump a deg eiliad.Mae’r taser yn achosi anabledd niwro-gyhyrol.

Ar ol i Mr Atkinson ddisgyn,roedd angen ei gadw i lawr a’i reoli o hyd,a gellid defnyddio grym rhesymol i wneud hynny.Ond daliodd Monk ei fys ar y taser am 33 eiliad,ac yna ciciodd Mr Atkinson yn ei ben tra’r oedd yn dal ar lawr.Achos yr erlyniad oedd bod y naill weithred neu’r llall,neu’r ddwy weithred gyda’i gilydd yn gyfystyr a defnyddio grym afresymol. Cafodd y rheithgor Monk yn euog o ddynladdiad yn hytrach na llofruddiaeth.Cyn penderfynu ar y ddedfryd addas,rhaid oedd i’r barnwr benderfynu beth oedd y grym yr oedd ef yn sicr oedd y rheithgor wedi benderfynu oedd yn anghyfreithlon.Daeth i’r casgliad,ar sail llawer o dystiolaeth,na allai fod yn sicr oedd Mr Atkinson wedi dioddef cerrynt trydanol am gyfnod sylweddol hirach nag oedd yn dderbyniol yn gyfreithlon.Er bod y taser wedi ei bwyso am 33 eiliad,roedd yn debygol bod saeth y taser wedi datgysylltu.Roedd ei gicio yn ei ben tra ar lawr yn mynd y tu hwnt i ddefnyddio grym rhesymol.Nid oedd y dystiolaeth am sawl cic a gafodd yn gyson,ond roedd tystiolaeth fforensig glir o’r olion esgidiau bod o leiaf ddwy gic.Cytunodd arbenigwyr yr erlyniad a’r amddiffyniad mai cymhedrol oedd y cicio;ni achoswyd unrhyw niwed difrifol o’r herwydd,ac ni fyddent wedi achosi marwolaeth person iach.Roedd y cicio yn ffactor gyfrannodd at ei farwolaeth,oherwydd i hyn ei wneud yn fwy anymwybodol,a hyn wedyn yn effeithio ar ei allu i gadw ei bibell wynt yn glir,ac anadlu’n iawn.

Yn ol y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Camymddygiad yr Heddlu,dedfryd Monk oedd y gyntaf mewn deng mlynedd ar hugain o heddwas yn cael dedfryd o ddynladdiad,tra’n ymgymeryd a’i ddyletswyddau fel plismon.Bu deg achos arall o lofruddiaeth neu ddynladdiad yn erbyn plismyn ers 1990,ond cafwyd pob un yn ddieuog,neu gollyngwyd yr achos.

Cafodd heddwas arall ei chyhuddo o ymosod yn yr un achos,am iddi daro Mr Atkinson gyda’i phastwn,ond methodd y rheithgor ddwyn rheithfarn.Cafodd Monk ei wahardd o’i waith ers 2019,ac yn awr prysurir ymlaen gyda’g achos camymddygiad.Cafodd ddedfryd o 8 mlynedd o garchar,a bydd rhaid iddo dreulio dwy ran o dair o’r amser cyn cael ei ryddhau ar drwydded.

Sut gallwn helpu?

Sicrhawn bod yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth ac yng nghyfraith achosion,er mwyn gallu rhoi’r cyngor gorau posibl i’n cleientiaid.Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos,cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk.

[Image credit: Police issue X26 TASER-white.jpg” by Junglecat is licensed under CC BY-SA 3.0 ]

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.