STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Gwaredu Sbwriel yn Anghyfreithlon

Dyddiad: 2017-10-23

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn tynhau rheolau ynglyn a chael gwared a sbwriel yn anghyfreithlon

Yn ol Asiantaeth yr Amgylchedd mae perchnogion tir ac eiddo wedi cael colledion o filiynau o bunnau llynedd o ganlyniad I bobl yn taflu sbwriel yn anghyfreithlon.

Gall y golled ariannol sydd yn deillio o’r gost o ail~symud gwastraff yn gyfreithiol wedi iddo gael ei adael mewn caeau ac eiddo masnachol gwag, fod hyd yn oed yn fwy os yw’r tir yn cael ei lygru neu fod taliadau yswiriant yn codi o ganlyniad.Mae sbwriel o;r fath yn achosi perygl tan difrifol.

Beth sydd yn cael ei wneud?

Er mwyn osgoi’r broblem mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn apelio at berchnogion tir ac eiddo, at asiantiaid eiddo masnachol,at gymdeithasau busnes ac at awdurdodau lleol.Eu bwriad yw rhoi rhybudd o’r peryglon sydd yn cael eu creu gan y drwgweithredwyr hyn wrth daflu sbwriel,a rhoi cyngor iddynt hwy, i’w clientau a’u haelodau sut I ddiogelu eu hunain yn well.Mae’n debygol bydd hyn yn arwain at fwy o ymholiadau ac erlyniadau troseddol.

Dywedodd Jamie Fletcher o’r Asiantaeth:

“Mae troseddwyr sbwriel yn gweithr edu trwy’r wlad, yn cynnig gwaredu gwastraff yn rhad, ac yna yn ei luchio mewn caeau a siediau gwag. Y tuedd yw symud I ardal newydd fel mae’r asiantaethau gorfodaeth yn dod yn ymwybodol o’u gweithgareddau.Gwyddom y byddant yn ein targedu eto ymhen dim, felly anfonwn allan neges cryf. Nid oes croeso i’r troseddwyr hyn yma, a gwnawn bopeth o fewn ein gallu i’w hatal a’u dal.Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.Gweithiwn yn agos gyda phartneriaid i rannu gwybodaeth am weithgareddau troseddol wrth daflu gwastraff.Anogwn bawb i wneud eu rhan;iI berchnogion tir ac eiddo fod ar eu gwyliadwriaeth a diogelu eu hunain yn well,ac i bob busnes, cyfundrefn ac unigolyn drafod ei sbwriel yn gyfrifol,fel nad yw yn mynd I ddwylo troseddwyr yn y lle cyntaf.”

Dyma’r cyngor I berchnogion tir ac eiddo:

  1. Archwilio tir ac eiddo gwag yn rheolaidd a sicrhau ei fod yn ddiogel.
  2. Archwilio yn drwyadl unrhyw denantiaid newydd , neu rai tebygol o fod eisiau rhentu gennych yn y dyfodol.Mae’n ofynnol i’r perchnogion hyn sicrhau bod unrhyw un sydd yn rhentu eu tir/eiddo yn cadw at y rheolau Gallant fod yn cyflawni trosedd drwy adael I wastraff gael ei gadw ar dir neu eiddo heb y caniatad gofynnol,a hwythau.n agored I gael eu herlyn.
  3. Bod ar eu gwyliadwriaeth a rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad anarferol.

Newid ar y Ffyrdd

Mewn datblygiad perthnasol mae’r Asiantaeth Amgylchedd ac Asiantaeth Safonau Gyrrwyr a Cherbydau (DVSA) wedi cytuno’n swyddogol I weithio ar y cyd ar draws Lloegr I atal cario gwastraff anghyfreithlon a gwella diogelwch ar y ffyrdd.Yn unol a memorandwm dealltwriaeth bydd Asiantaeth yr Amgylchedd a’r DVSA ar y cyd yn defnyddio’u grym gorfodi I fynd i’r afael a’r broblem o symud gwastraff i safleoedd anghyfreithiol, neu i safleoedd trwyddedig nad ydynt yn cael eu rhedeg yn briodol.

Dyma’r cytundeb:

  1. Gweithwyr o’r DVSA yn cael eu lleoli o fewn Asiantaeth yr Amgylchedd I sicrhau dulliau effeithiol o gydweithredu.
  2. Rhannu gwybodaeth er mwyn gwneud atal cerbydau yn cario sbwriel ar ochr y ffordd yn fwy effeithiol ar hyd a lled y wlad.
  3. Rhoi gwybodaeth I dimau gorfodaeth am bobl yn gweithio yn y diwydiant gwaredu sbwriel.
  4. Adnabod gweithredwyr anghyfreithlon neu risg uchel yn y maes cludiant gwastraff.
  5. Lleihau nifer y rhai sydd yn gwrthod cydymffurfio mewn modd difrifol a thro ar ol tro ar ffyrdd Lloegr.

Cyngor I fusnesau:

Credir fod miloedd o adeiladau masnachol gwag yn y wlad sydd yn eiddo I fusnesau a chymdeithasau, yn cynnwys cwmniau rheoli cyllid ac awdurdodau lleol.Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn cynghori busnesau a chymdeithasau eu bod yn gyfrifol am sicrhau trafod eu gwastraff yn y modd priodol.Mae unrhyw un sydd yn cynhyrchu, cadw neu drafod gwastraff yn gorfod sicrhau nad yw’r gwastraff yn niweidio iechyd y cyhoedd nac yn llygru’r amgylchedd o dan y Ddeddf Dyletswydd Gofal (Duty of Care)

Mae busnesau cyfreithlon a’r trysorlys yn colli cymaint a £1 biliwn y flwyddyn o ganlyniad I droseddau yn ymwneud a gwastraff..Buddsoddwyd £65.2 miliwn gan Asiantaeth yr Amgylchedd ers Ebrill 2011 i ymdrin a’r broblem. Mae gangiau troseddol sydd yn ymwneud a gweithgareddau lluchio gwastraff anghyfreithiol yn cael eu dilyn a’u herlid gan uned arbenigol yr Asiantaeth sydd yn sicrhau cymryd y camau angenrheidiol yn eu herbyn.

Beth ddylech chi ei wneud?

Mae trosedd a rheolaeth amgylcheddol yn adran arbenigol o’r gyfraith, ac os ydych angen cyngor am eich dyletswydd gyfreithiol neu angen rhywun i’ch cynrychioli os yn wynebu ymchwiliad neu erlid, mae ein cyfreithwyr yma i’w roi I chi.

Gall cosb am droseddau amgylcheddol fod yn uchel iawn, weithiau yn gannoedd o filoedd o bunnau, ac yn arwain I garchar mewn rhai achosion. Er enghraifft, yr wythnos ddiwethaf cafodd United Utilities ddirwy o £666,000 a chostau o £32,000 ar ol pledio’n euog I droseddau llygredd yn Llys y Goron Manceinion.

Peidiwch ag anwybyddu a chymryd eich siawns.Os oes achos yn eich erbyn cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455500 I drefnu apwyntiad.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.