STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Diwedd i ryddhad awtomatig i rai unigolion ddedfrydwyd am droseddau terfysgol.

Diwedd i ryddhad awtomatig i rai unigolion ddedfrydwyd am droseddau terfysgol.

Dyddiad: 2020-02-05

Dydd Sul, Chwefror 1af 2020 gwisgodd Sudesh Amman fest hunan-leuddiol ffug, a thrywanodd ddau o bobl yn Streatham.Dim ond yn ddiweddar rhyddhawyd Amman o ddedfryd carchar am ledaenu deunydd eithafol; rhyddhawyd ef ar ôl treulio hanner ei ddedfryd. Roedd Usman Khan,un o’r ymosodwyr ar Bont Llundain, hefyd wedi ei ryddhau’n gynnar o’r carchar. Mae’r llywodraeth yn awr yn awgrymu deddfwriaeth frys i atal rhyddhau carcharorion euog o derfysgaeth ar ôl treulio hanner eu dedfryd.

Beth yw’r sefyllfa bresennol?

Er bod rhaid i’r Bwrdd Parol ymyrryd cyn rhyddhau rhai carcharorion, rhyddheir llawer yn awtomatig ar ôl treulio hanner y cyfnod. Mae llawer o droseddwyr terfysgaeth eisoes yn gwneud dedfryd estynedig, neu’n cael carchar am oes. Rhaid i’r Bwrdd Parol adolygu eu sefyllfa eisoes, felly ni fyddai’r argymhellion newydd yn effeithio arnynt hwy.

Beth sydd yn cael ei argymell?

Mae’r llywodraeth yn ceisio rhwystro rhyddhau terfysgwyr hanner ffordd trwy’r cyfnod. Ni fyddai’r carcharorion hyn yn cael eu rhyddhau nes treulio dwy ran o dair o’r ddedfryd ac yn dilyn asesiad risg gan y Bwrdd Parol. Os yw’r risg yn rhy uchel, ni fyddai rhyddhad hyd nes i’r carcharor dreulio’r cyfnod llawn.Pan wneir newidiadau o’r fath, dim ond dedfrydau ar neu ar ôl dyddiad penodol yn y dyfodol fydd yn dod dan y rheolau newydd. Yn yr achos hwn,bwriedir i’r newidiadau fod ar gyfer troseddwyr presennol yn ogystal a rhai yn y dyfodol, gan olygu gallai carcharorion sydd eisoes yn y carchar wynebu blynyddoedd yn ychwanegol yno.

Dywedodd Robert Buckland, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, fod angen gweithredu ar frys i newid rheolau rhyddhau awtomatig.

A yw’n gyfreithlon gwneud cyfraith yn ôl-weithredol?

Mae Lord Carlisle, cyn-adolygwr deddfwriaeth terfysgaeth, yn amau a ellir gorfodi’r newidiadau i’r amodau rhyddhau ar droseddwyr sydd eisoes wedi eu dedfrydu. Mae ef yn credu byddai deddfwriaeth newydd o’r math yma yn sicr o gael ei herio.

Fyddai ei herio yn llwyddiannus?

Mae Erthygl 7 Deddf Hawliau Dynol yn datgan na ellir eich cael yn euog o drosedd nad oedd yn drosedd pan gyflawnwyd hi. Os cewch ddedfryd am drosedd ni ellir rhoi cosb lymach na’r gosb arferol ar y pryd, hynny yw pan gyflawnwyd y drosedd.Yr ail ran sydd yn bwysig yn y sefyllfa bresennol. Adeg cyflawni’r drosedd, ac adeg y ddedfryd, byddai’r troseddwr wedi cael gwybod byddai’n cael ei ryddhau yn awtomatig ar ôl treulio hanner ei ddedfryd yn y carchar. Byddai newid yn y gyfraith yn golygu treulio mwy o amser dan glo.Ymddengys bod Robert Buckland yn dadlau i’r gwrthwyneb mai cyfeirio at y dull o weithredu’r ddedfryd yn hytrach na hyd y ddedfryd, fyddai’r newidiadau. Hwyrach bod hyn yn golygu canolbwyntio ar benderfynu ai cosbi’r troseddwr, ynteu gwarchod y cyhoedd fyddai’r ddedfwriaeth newydd.

Yn 2004 Tŷ’r Arglwyddi fu’n ymdrin ag achos Uttley. Roedd ef wedi cyflawni nifer o droseddau rhyw yn y gorffennol, ond dim ond 12 mlynedd yn ddiweddarach y cafodd ei erlyn. Erbyn hynny, roedd y drefn dedfrydu wedi newid. Dan yr hen drefn, byddai wedi treulio dwy ran o dair o’i amser yn y carchar; dan y drefn newydd, dwy ran o dair yr un modd, ond byddai hefyd yn cael ei ryddhau ar drwydded. O ganlyniad, byddai dan oruchwyliaeth, gyda rhai cyfyngiadau pendant, ac mewn perygl o gael ei anfon yn ôl i’r carchar.Dadl Uttley oedd nad oedd rhyddhau ar drwydded yn cydfynd a’i hawliau dan Erthygl 7.

Hawdd gweld sut mae achos Uttley yn debyg i ddadl bosibl gan garcharor euog o droseddau terfysgol yn wynebu cyfnod hirach dan glo.Aflwyddiannus fu Uttley. Dywedodd y Llys, gan fod y gosb hwyaf am droseddau Uttley yn dal yr un fath, nad oedd modd dweud bod dedfryd, gyda’r elfen newydd o drwydded, yn gosb lymach nag a fyddai wedi ei rhoi cyn hyn.

Ond mae achos Uttley yn berthnasol iawn ar hyn o bryd, a bydd ansicrwydd hyd nes bydd llysoedd yn creu rheol ar gyfer y ddarpariaeth benodol. Rydym yn ymwybodol iawn o’r sialensau cyfreithiol posibl, a dylai unrhyw un sydd mewn sefyllfa o’r fath, gysylltu a ni ar fyrder am gyngor.

Oes unrhyw argymhellion eraill?

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder hefyd y byddid yn adolygu’r dedfrydau hwyaf presennol, ynghyd a’r fframwaith dedfrydu ar gyfer troseddau terfysgol, gan olygu, er enghraifft, dedfryd leiaf orfodol am rai troseddau; mae 14 blynedd wedi ei argymell am drosedd o baratoi gweithgaredd terfysgol neu am fod yn rheolwr ar griw o frawychwyr.Yn ogystal ag adolygu dedfrydau, bydd y llywodraeth yn trefnu archwilio carchardai a phrofiannaeth, gan ddefnyddio dulliau monitro llymach, yn cynnwys synhwyrydd celwyddau,i wneud asesiadau risg.

Mae adolygiad annibynnol o Drefniadaeth Aml-asiantaeth Gwarchod y Cyhoedd eisoes wedi ei gyhoeddi, fydd yn cynnwys trafod cynlluniau cyn rhyddhau o garchar, a thrin troseddwyr ar ôl eu rhyddhau i’r gymuned.

Sut gallwn helpu?

Os am gyngor arbenigol, cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500, a gadewch i ni helpu. Gallwn roi cyngor ar sut i bledio, dulliau amddiffyn a dedfrydau posibl mewn ystod eang o amgylchiadau.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.