STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Cyflenwi morffin - dedfrydu anodd.

nodwydd a powder gwyn

Dyddiad: 2023-11-06

Cyflenwi morffin - dedfrydu anodd.

Mae canllawiau dedfrydu ar gael fel arweiniad i’r llysoedd wrth benderfynu ar y gosb addas ar gyfer y rhan fwyaf o droseddau yn ymwneud a chyffuriau.Cyfeiria’r canllawiau at y cyffuriau mwyaf cyffredin fel cocen a chanabis,ond nid yn benodol at rai nad ydynt yn ymddangos mor aml yn y math hwn o droseddu.Un o’r cyffuriau hyn yw morffin.

Beth yw’r camau i’w cymryd felly?

Mae’r canllaw dedfrydu’n dynodi:”Pan na restrir y cyffur (fel fentanyl neu’r hyn sydd yn ei dynhau) yn y tabl isod,dylai dedfrydwyr ddisgwyl derbyn tystiolaeth gan arbenigwyr i’w helpu i benderfynu cryfder y cyffur dan sylw,a chymharu’r mesur ddefnyddiwyd yn yr achos gyda’r mesur ddisgrifir yn y canllawiau,o ran faint o niwed achosir.Yn aml ni fydd yn bosibl gweithio allan yn union,ond atgoffir llysoedd,yn achos cyffuriau arbennig o gryf,y gall dogn fach iawn fod mor gryf a dogn fawr o’r cyffuriau restrir yn y tabl.”

Mae barn arbenigol ynglyn a morffin yn awgrymu:

1.Mae priodoleddau cryf mewn morffin i leddfu poen,ond rhaid ei ddefnyddio’n ofalus oherwydd gall achosi lleihad yn y gallu i anadlu,a hyn mewn rhai achosion yn achosi marwolaeth.

2.Gall morffin a chyffuriau opioid eraill achosi edema/dwr yn yr ysgyfaint,a hwn yn ymddangos fel ffroth yn y trwyn a’r geg.

3.Mae morffin yn arbennig o wenwynig i rai sydd heb ei gymryd yn ddiweddar h.y.rhai sydd heb gynefindra ffarmacolegol i’r cyffur.

4.Mae’r cyffuriau hyn hefyd yn arbennig o wenwynig yn y nos,pan mae anadlu yn naturiol yn is.

5.Yn ogystal a bod yn gyffur ynddo’i hun,morffin yw’r prif fetabolyn plasma yn y cyffur diamorffin (a elwir hefyd yn diacetylmorffin),a hwnnnw’n brif gynhwysyn heroin.

Gan mai morffin yw prif fetabolyn plasma diamorffin,a hwnnw’n brif gynhwysyn heroin,byddai’n gyfreithlon i farnwr ddefnyddio pwysau mynegol heroin fel canllaw wrth gatagoreiddio’r niwed. Os ydych yn wynebu ymchwiliad neu erlyniad am unrhyw drosedd honedig yn ymwneud a chyffuriau,mae’n hanfodol cael cymorth cyfreithiol cyn gynted a phosibl.Mae ymyrraeth yn gynnar yn sicrhau gallu casglu’r holl wybodaeth hanfodol er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl.

Sut gallwn helpu?

Sicrhawn bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth neu’r gyfraith achosion er mwyn rhoi’r cyngor gorau posibl i chi.Os dymunwch drafod unrhyw agwedd o’ch achos,cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.