STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Creulondeb at blant – newidiadau i’r dedfrydau

Plentyn gyda'i ddwylo ar ei glustiau a rhieni yn ffraeo yn y cefndir

Dyddiad: 2023-03-07

Yn dilyn ymholiadau, cyhoeddodd y Cyngor Dedfrydu eu bod yn diweddaru canllawiau ar gyfer troseddwyr, yng Nghymru a Lloegr, sydd yn euog o greulondeb tuag at blant, gan gynnwys achosi neu ganiatau marwolaeth neu anaf difrifol.

Pam adolygu’r canllawiau?

Yn ôl Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dyfarnu a’r Llysoedd (PCSC) 2022, mae’r uchafswm statudol ar gyfer troseddau gyflawnwyd ar neu ar ôl Mehefin 28ain 2022 wedi codi o 10 mlynedd i 14 blynedd o garchar, am greulondeb i blentyn, ac am achosi neu ganiatau i blentyn neu oedolyn bregus ddioddef niwed corfforol difrifol; a’i godi o 14 blynedd i garchar am oes am achosi marwolaeth plentyn neu oedolyn bregus.

Mae’r canllawiau Newydd yn adlewyrchu’r newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth, ac yn cyflwyno lefel newydd uchel iawn euogrwydd o’r troseddau mwyaf difrifol, ac yn adlewyrchu’r uchafswm dedfrydau newydd gyflwynwyd gan y ddeddf uchod:

  1. Achosi neu ganiatau I blentyn farw, neu ddioddef niwed corfforol difrifol
  2. Creulondeb tuag at blant, yn cynnwyseu cam-drin, eu gadael neu eu esgeuluso.

Adolygwyd y canllaw am achosi neu ganiatau marwolaeth plentyn i gynnwys graddfa dedfrydu hyd at 18 mlynedd o garchar. Mae’r dedfrydau newydd am achosi neu ganiatau i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol, ac am greulondeb, yn cynyddu i 12 mlynedd o garchar.

Wrth gyflwyno’r lefel newydd “euogrwydd uchel iawn”, mae’r canllawiau’n cymryd i ystyriaeth yr uchafswm dedfrydau statudol uwch, ac yn cynorthwyo’r llysoedd i fod yn gyson wrth ddedfrydu’r achosion mwyaf difrifol. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r canllawiau ar gyfer y ffactorau lefelau uchel canolig a llai o euogrwydd, y ffactorau niweidio, na’r lefelau dedfrydu achosion nad ydynt yn y categori newydd euogrwydd uchel iawn. Daw’r canllawiau newydd i rym ar Ebrill 1af 2023, ar gyfer troseddau gyflawnwyd ar neu ar ôl Mehefin 2022.

Beth fydd yr effaith cyffredinol?

1. Achosi neu ganiatau i blentyn bregus farw, neu ddioddef niwed corfforol difrifol:

O ystyried bod mwyafrif o droseddwyr eisoes yn cael eu carcharu’n syth, ni ragweli’r newid yn y cyfartaledd. Mae’n debygol bydd nifer bach iawn o’r troseddwyr mwyaf euog o’r ddwy drosedd yn cael dedfryd carchar am gyfnod hirach.

2. Creulondeb tuag at blant, yn cynnwys eu cam-drin, gadael neu esgeuluso:

Roedd y dadansoddiad yn awgrymu effaith bach iawn, o bosibl, ar adnoddau carchardai a’r gwasanaeth profiannaeth, gan byddai rhai sydd ar hyn o bryd yn y categori “euogrwydd uchel” yn cael eu carcharu am gyfnod hirach, os bydd dyfarnwyr yn teimlo bod categori “euogrwydd uchel iawn” yn fwy addas. Mae man cychwyn y categori newydd hwn dair blynedd yn uwch ar gyfer lefelau niwed 1 a 2, a dwy flynedd am niwed lefel 3, sydd yn adlewyrchu’r cynnydd yn y ddedfryd statudol uchaf. Ond, oherwydd nad oes unrhyw arwydd bod y canllawiau’n arwain at newid yng nghanlyniadau dedfrydu troseddau creulondeb tuag at blant, disgwylir i’r mwyafrif o droseddwyr ddal i gael gorchymyn dedfryd ataliedig neu orchymyn cymunedol, yn hytrach na’u rhoi yn y carchar yn syth, gan nad oes fawr o newid yn y canllaw. Golyga hyn mai cyfran fach o achosion ddylai gael eu effeithio gan y canllawiau disgwyliedig.

Sut gallwn helpu?

Sicirhawn ein bod yn gyfarwydd â phob diweddariad yn y ddeddfwriaeth a chyfraith achosion, er mwyn gallu rhoi’r cyngor gorau i chi. Os dymunwch drafod unrhyw beth ynglyn â’ch achos chi, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Carys Parry ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk.

Image credit: “child-crying-asking-for-help-post” by scarysideofearth is licensed under CC BY 2.0.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.