STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Argyfwng ymddiriedaeth yn yr Heddlu?

police officers talking to a woman in her door

Dyddiad: 2023-06-12

Roedd penawd tebyg i’r canlynol mewn sawl papur newydd yn ddiweddar:

‘”Mae ymddiriedaeth yn yr heddlu yn fregus iawn yn ol yr arolygwyr.”

Adroddiad damniol gan Andy Cooke,Prif Arolygwr yr Heddlu,yn Safle Plismona 2022,sbardunodd y math hwn o benawd.

  • rhaid I’r heddlu ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i’r cyhoedd;
  • mae heddluoedd yn methu yn eu hymdrech i gael y pethau sylfaenol yn iawn wrth wneud eu hymoliadau ac ymateb i’r cyhoedd,a rhaid iddynt ganolbwyntio ar blismona bro effeithiol.
  • mae angen cryn adrefnu ar elfennau difrifol yn arweinyddiaeth gwasanaeth yr heddlu,ac yn nhrefniadaeth y gweithlu -fel archwilio mwy trylwyr ar brosesau recriwtio,yn cynnwys penodi prif swyddogion.

Mae’r adroddiad yn cynnwys tri pheth i’r Llywodraeth a’r prif gwnstabliaid,yn cynnwys:

  • adolygu’r ddeddfwriaeth i wneud dull arolygu’r HMICFRS yn fwy eglur,ac egluro’i bwer i arolygu digwyddiadau plismona gan yr heddlu a chomisiynwyr trosedd.
  • ailsefydlu rhan arolygwyr wrth ddewis ac apwyntio prif swyddogion.
  • ymchwil newydd i werth ataliol atal ac archwilio unigolion,a’r rhesymau pam mae cymaint o anghyfartaledd yn y defnydd ohono.

Heb ymatal o gwbl,dywedodd Andy Cooke:

“Roeddwn yn blismon am 36 mlynedd cyn cymryd y swydd hon.Nid oes gennyf amheuaeth am ymroddiad a dewrder mwyafrif helaeth swyddogion yr heddlu a’r gweithlu.Ond mae gwendidau amlwg a chyson ar draws y gwasanaeth heddlu yn Lloegr a Chymru,ac o ganlyniad i nifer o sgandalau dychrynllyd,mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn fregus iawn.

Galwaf am ddiwygio sylweddol er mwyn rhoi mwy o bwer i arolygwyr yr heddluoedd er mwyn sicrhau gallu gwneud popeth sydd yn anghenrheidiol i helpu heddluoedd i wella.Buom yn gofyn am gymorth nifer o weithiau dros y blynyddoedd.Dim ond hyn a hyn o weithiau mae posibl dweud yr un peth mewn geiriau gwahanol,a daeth yr amser yn awr i’r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth newydd i gryfhau ein argymhellion.Rhaid i newid ddechrau ar y top.Rhai i brif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throsedd wneud mwy i sicrhau effeithiolrwydd eu heddluoedd,a chanolbwyntio ar eu blaenoriaethau.Nid prif waith yr heddlu yw ymateb i greisis iechyd meddwl unigolyn,na chynnal cyfiawnder cymdeithasl.Eu swydd yw cynnal y gyfraith.

Rhaid i heddluoedd ddangos proffesiynoldeb.a chael y pethau sylfaenol yn gywir wrth ymchwilio i drosedd,ac ymateb yn briodol i alwadau 999.Dyna’r peth pwysicaf i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu,a dyna’r ffordd ymlaen i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd.Mae egwyddor sylfaenol plismona drwy gydsynio dan fygythiad,ac ar yr egwyddor hon y codwyd ein gwasanaeth heddlu,ac mae’n hen bryd gweithredu.”

Fel cyfreithwyr sydd yn ymwneud yn ddyddiol a gweithgareddau plismyn unigol,cadwn lygad barcud ar ddatblygiadau plismona,er mwyn deall pa effaith all hyn gael ar achosion y rhai yr ydym ni yn eu hamddiffyn.

Rydym yn dal i boeni bod lefelau ariannu presennol yn golygu efallai nad oes ymchwilio iawn i droseddau,a’r perygl,o ganlyniad,i’r person anghywir gael ei gyhuddo,oherwydd nad oedd yr ymchwiliad yn ddigonol.

Sut gallwn helpu?

Trwy sicrhau gwybodaeth fanwl o unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth neu gyfraith achosion,gallwn roi’r cyngor gorau posibl i chi. Os hoffech drafod eich achos,cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 or office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.