STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Alun Jones Williams, Bwncath, Yn Ddieuog

Dyddiad: 2024-04-17

Gerbron ei Hanrhydedd y Barnwr Nicola Saffman yn eistedd yn Llys y Goron Caernarfon ar y 17eg o Ebrill 2024 cafwyd Alun Williams yn ddieuog o’r drosedd yn ei erbyn, wedi i’r Erlyniad gynnig dim tystiolaeth yn ei erbyn

Dywedodd Alun Jones Williams:

“Rwyf yn hynnod falch o gael fy nghanfod yn ddieuog o’r diwedd. Mae’n ryddhad i mi bod cyfiawnder wedi ennill y dydd.

Cefais fy nal yn y ddalfa am dros ddeg awr ar hugain gan bod cyhuddiad brys di-sail yn cael ei roi yn fy erbyn. Yna, cefais fy nhywys yn ddi fechniaeth gerbron Llys. Nid oedd archwiliad cywir o’r dystiolaeth, ac mae fy enw da yn deilchion o’r herwydd.

Mawr yw fy niolch i Michael Strain, staff Strain a’i Gwmni, ac Elen Owen fy Margyfreithwraig am eu cadernid, gwaith di flino a chefnogaeth.

Ond, yn fwyaf oll, mae fy niolch yn enfawr i fy nheulu a fy ffrindiau sydd wedi rhoi cariad a chefnogaeth i mi drwy’r hunllef parhaus yma dros y chwe mis diwethaf.

Byddwn i ddim yn dymuno’r profiad afiach yma ar neb. Fydd fy mywyd byth yr un fath eto ar ôl hyn.

Rwyf am gymryd amser gyda fy nheulu a fy ffrindiau i geisio dod yn ôl ataf fy hun, ac i drio rhoi’r mater yma tu ôl i mi. Yn sicr, fydd y profiad dirdynnol hwn yn aros efo mi tra byddaf fyw.

Diolch i chi gyd am y gefnogaeth sydd wedi ei ddangos i mi a fy nheulu dros y cyfnod arteithiol hwn.”

Datganiad i’r wasg gan Alun Jones Williams

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.