STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Adolygu Diogelwch ar y Ffyrdd. Mwy o Ddeddfau Newydd?

Adolygu Diogelwch ar y Ffyrdd. Mwy o Ddeddfau Newydd?

Dyddiad: 2019-07-30

Cyhoeddodd y Llywodraeth gynlluniau newydd i wneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb. Mae’r cynlluniau’n cynnwys nifer o newidiadau i bob oedran, a hefyd i yrrwyr arbenigol fel gyrrwyr cerbydau trymion (HGV), a beiciau modur.

PLANT

Rhoddwyd grant o £225,000 gan yr Adran Trafnidiaeth i Good Egg Safety i ddatblygu cwrs ar gyfer dysgu gosod seddau plant yn y car. Daw hyn mewn ymateb i wybodaeth nad yw’r rhan fwyaf o rieni yn gwybod sut i osod y sedd yn gywir yn eu car. Bydd mwy o arian ar gael ar gyfer datblygu adnoddau addysgol i ysgolion, ac ymchwilio i ddiogelwch ar y ffordd i blant ag anghenion arbennig.

OEDOLION IFANC

Dyma’r grwp oedran risg uchaf ar ein ffyrdd; felly mae’r Adran Trafnidiaeth yn ystyried sut i wneud gyrrwyr ifanc yn fwy diogel. Mae hyn yn cynnwys trafod nifer o gynlluniau dysgu a thrwyddedu newydd, defnydd posibl o Gynlluniau Dysgwyr Graddoledig cyn y prawf gyrru, a Thrwyddedau Gyrru Graddoledig ar ol y prawf.Defnyddir y cynlluniau a’r trwyddedau hyn eisoes yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia. Gyda’r cynllun cyn y prawf rhaid i ddysgwr gwblhau rhai gofynion cyn cael sefyll y prawf, fel arfer nifer penodol o oriau o wersi gyrru.Golyga’r cynllun ol-brawf gyfyngiadau ar y drwydded newydd am rai blynyddoedd, neu hyd nes cyrraedd oed arbennig. Yng Nghaliffornia, er enghraifft, ni chaiff gyrrwyr dan 18 oed yrru wedi iddi nosi heb rhywun profiadol wrth eu hochr; ac ni chant gario teithwyr dan 20 oed heb oruchwyliwr, na defnyddio ffon symudol, yn cynnwys mathau nad oes rhaid i chi eu dal yn eich llaw. Daeth un newid tebyg yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar gyda dileu trwydded gyrrwyr newydd, sydd yn golygu bod rhaid iddynt ail-sefyll y prawf gyrru. Mae hyn yn digwydd os cafwyd chwe phwynt cosb ar eu trwydded o fewn dwy flynedd i’w prawf gyrru. Bydd profion gyrru yn dal i gael eu diweddaru mewn ymateb i newidiadau technolegol, yn yr un modd a’r penderfyniad i gynnwys gyrru yn unol a chyfarwyddiadau lloeren (sat nav) yn y prawf.

OEDOLION

Bydd ymgynghoriad gan y Llywodraeth ar y defnydd o bwyntiau cosb, yn ogystal a’r ddirwy bresennol, i bobl nad ydynt yn defnyddio gwregys diogelwch.Daw hyn yn dilyn tystiolaeth mai pobl heb wregys diogelwch oedd 27% o’r rhai laddwyd mewn damweiniau ffyrdd yn 2017. Mae teclyn prawf anadl cludadwy yn cael ei ddatblygu i alluogi’r heddlu i gymryd sampl ar ochr y ffordd fydd yn ddigon da ar gyfer achos llys. Ar hyn o bryd ceir y prawf cyntaf ar ochr y ffordd, ond rhaid cymryd prawf swyddogol yng ngorsaf yr heddlu.Byddai hyn yn rhyddhau plismyn yn gynt i wneud dyletswyddau eraill. Mae’r Llywodraeth yn ymchwilio hefyd i weld pa mor ymarferol fyddai “cloeon alcohol”. Gyda’r ddyfais hon ni wnaiff cerbyd gychwyn nes bydd rhywun sydd heb ormod o alcohol yn ei gorff chwythu i diwb arbennig.Byddai’r ddyfais hon yn cael ei rhoi i rai gafwyd yn euog o yfed a gyrru, er mwyn ceisio eu hatal rhag ail-droseddu. Maent hefyd yn ystyried troseddau newydd i feicwyr, er mwyn gallu ymdrin a rhai sydd yn achosi niwed difrifol yn yr un modd a rhai sydd yn gwneud hynny wrth yrru cerbyd.

YR HENOED

Dyma’r garfan ail-fwyaf risg uchel ar ein ffyrdd. Bydd y Llywodraeth yn dal i ariannu Canolfannau Symudedd ( Mobility Centres) i bobl na allant yrru, y rhan fwyaf fel arfer yn 65 oed neu drosodd.Bydd profion diogelwch yn cael eu diweddaru; defnyddio doliau, yn cynnwys rhai ar ffurf corff benywaidd, i wneud profion ar wrthdrawiad all ddigwydd i’r henoed. Ymdrech yw hyn i leihau’r anafiadau i’r bobl yma trwy gynllunio ceir yn wahanol. Cychwynir ymgynghoriad hefyd i benderfynu ddylid cael prawf llygaid gorfodol i bobl dros 70 oed, ac yna bob tair blynedd pan adnewyddir eu trwydded.

GYRRWYR CERBYDAU TRYMION

Mae’r rhai sydd yn ennill eu bywoliaeth yn gyrru cerbydau trymion dan reolaeth dynn eisoes gyda’r deunydd tacograff, ynghyd a phrofion mwy llym. Bydd ymgynghoriad ar wahardd teiars sydd dros ddeg oed, yn ogystal a newidiadau i’r bariau diogelwch ar ochr lori, sydd yn arbed cerddwyr a beicwyr os yw’r lori yn newid cyfeiriad pan gyferbyn a rhywun sydd yn cerdded neu ar gefn beic.

GYRRWYR BEIC MODUR

Datblygir cynllun hyfforddi newydd i yrrwyr beic modur, yn cynnwys prawf theori gorfodol cyn cael gyrru ar y ffordd, a newidiadau i’r Ymarfer Sylfaenol Gorfodol (CBT) presennol.Mae cynlluniau hefyd i ymestyn yr ymarferion yn dilyn prawf gyrru, a chael mwy o feicwyr i ddilyn y Cynllun Gyrrwr Uwch.Mae gwell cyfarpar i amddiffyn beicwyr yn cael ei ddatblygu hefyd, ac mae’r system SHARP o ddosbarthu helmedau yn parhau ac yn gwella. Mae’r Llywodraeth yn gweithio ar y cyd hefo’r diwydiant Prydeinig sydd yn cynhyrchu dillad amddiffyn, er mwyn deall sut i annog beicwyr i wisgo’r cyfarpar gorau.

Sut gallwn helpu? Os ydych angen cyngor arbenigol ynglyn ag unrhyw ymchwiliad troseddol neu erlyniad cysylltwch a Bethan Williams ar 01758 455 500, a gadewch i ni helpu.Gallwn roi cyngor ar holl agweddau eich achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.