14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
A oes trosedd benodol?
Un drosedd benodol oedd yn arfer bod, sef ymosod ar blismon; trosedd ynadol yw hon, gydag uchafswm cosb o 6 mis o garchar.Mae’n bosibl cyhuddo’r troseddwr o drosedd mwy difrifol, fel gwir niwed corfforol neu niwed corfforol difrifol, os yw’r niwed i’r heddwas yn un mwy difrifol.Bydd yr opsiwn hwn yn parhau. Ond cyhuddiad o ymosod cyffredin roddid am y rhan fwyaf o ymosodiadau lefel is ar weithwyr argyfwng, trosedd gydag uchafswm cosb o 6 mis o garchar.
Beth sydd yn newid?
Pasiwyd deddf newydd fydd yn creu categori newydd o drosedd ynadol, sef ymosod ar aelod o’r gwasanaethau argyfwng wrth ei waith.Pe byddech yn ffraeo a’ch cymydog ac yn ymosod arno, ac yntau yn digwydd bod yn blismon, ni fyddai’r rheolau newydd yn dod I rym oherwydd na fyddai’r plasmon wrth ei waith ar y pryd.Ond byddai’r rheolau yn cael eu gweithredu pe byddech yn ymosod ar blismon oedd yn rhinwedd ei swydd yn eich arestio chi. Daw Deddf Ymosod ar Weithwyr Argyfwng ( Troseddau) 2018 i rym ym mis Tachwedd. Pwy fydd yn cael eu gwarchod?
Ystyr “gweithiwr argyfwng “ yw: a) Swyddog heddlu. b) Person ( ar wahan i’r uchod) gyda pwerau heddwas, neu gyflogir mewn ffordd arall i ddiben plismona, neu i gyflenwi gwasanaeth ar gyfer dibenion plismona. c) Swyddog Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol. ch) Swyddog carchar. d) Person ( ar wahan i swyddog carchar) gyflogir i wneud dyletswyddau mewn sefydliad carcharu, tebyg i ddyletswyddau swyddog carchar. dd) Swyddog gwarchod carcharor ( yn y ddalfa)’ e) Swyddog gwarchod yn hebrwng carcharor.
A’r canlynol pan yn cyflawni eu gwaith ( yn rhinwedd eu swydd): f) Dynion tan ff) Aelodau o dimau chwilio ac achub. g) Aelodau o’r : 1) Gwasanaeth Iechyd 2) Gwasanaethau yn cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd.a’u gweithwyr yn dod wyneb yn wyneb ag aelodau o’r cyhoedd sydd yn derbyn eu help, neu ag unrhyw aelodau eraill o’r cyhoedd.
Ni does unrhyw wahaniaeth os telir cyflog am y gwaith ai peidio. Beth yw’r gosb?
Bydd y gosb uchaf yn cynyddu o 6 mis i 12 mis o garchar. Oes effeithiau pellach? Bydd y ddeddfwriaeth yn creu ffactor statudol all wneud y sefyllfa yn un fwy difrifol; hynny yw os bydd y cyhuddiad am drosedd wahanol ( fel gwir niwed corfforol er enghraifft) a’r dioddefwr yn weithiwr argyfwng, bydd hyn yn ffactor ychwanegol, ac yn haeddu dedfryd drymach.Mae’r canllawiau dedfrydu presennol yn cydnabod yr elfen o waethygu’r sefyllfa os yw’r ymosodiad ar rhywun sydd yn rhoi gwasanaeth i’r cyhoedd, ond mae’r ddeddfwriaeth yn gosod sail stadudol i’r sefyllfa.
Pam mae hyn yn digwydd?
Bu cynnydd mewn ymosodiadau ar weithwyr argyfwng yn ddiweddar. O fewn y flwyddyn ddiwethaf honnir bod 26000 o ymosodiadau ar yr heddlu, a 17000 ar weithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd, yn ol ystadegau’r llywodraeth. Gwelwyd cynnydd o 18% mewn ymosodiadau ar ddynion tan yn y 2 flynedd flaenorol, a chynnydd o 70% mewn ymosodiadau ar swyddogion carchar yn ystod y 3 blynedd hyd at 2017. Cynigiwyd deddf newydd o ganlyniad i’r cynnydd hwn, ac am y tro cyntaf bydd trosedd benodol yn bod er mwyn gwarchod pobl yn dilyn eu gwaith fel gweithwyr argyfwng Cawn weld maes o law a fydd y ddedfryd yn atal yr ymosodiadau; mae mwyfrif y sylwebyddion yn amheus.
Sut gallwn ni helpu?
Mae ein gwybodaeth am y newidiadau deddfwriaethol diweddaraf yn drylwyr, a gallwn roi cyngor bob cam o swyddfa’r heddlu i’r llys.Mae’n rhaid cael cyngor yn gynnar wrth ymdrin a’r achos, felly os hoffech drafod, cysylltwch, os gwelwch yn dda, a Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.