14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Bu ymddygiad o’r math yma yn drosedd ar y llyfrau statud ers rhai blynyddoedd,ond cyrhaeddodd y penawdau yn ddiweddar.
Cyflwynwraig gyda ITV Cymru yw Ruth Dodsworth,gyfarfu â’i chyn-wr Jonathan Wignall yn 2001.Pan ddechreuodd ei fusnes ef fynd ar i lawr,a’i yfed gynyddu,hi oedd y prif enillwr cyflog.Dyna pryd dechreuodd ei ymddygiad newid,a dechreuodd ei rheoli a’i gorfodi.
Dechreuodd galwadau ffon parhaus,gyda 150 ar un diwrnod yn unig.Byddai’n mynd gyda hi i apwyntiadau,gwirio ei ffon,agor ei llythyrau,a hyd yn oed sefyll tu allan i’r ystafell ymolchi tra’r roedd hi i mewn. Ar ol ei arestio,rhyddhawyd ef ar fechniaeth,gyda’g amodau i beidio cysylltu gyda hi,ond gosododd draciwr ar ei char.Cysylltodd gyda’r traciwr trwy app ar ei ffon 250 gwaith o fewn 19 diwrnod.Parhaodd yr ymddygiad am naw mlynedd.
Dywedwyd wrth y llys i Ruth Dodsworth gael ei hun mewn dyledion dybryd,ac yn wynebu cael ei throi o’i chartref am fod biliau heb eu talu. Effeithiodd ei ymddygiad ar ei hiechyd,ac ar ei hunan-hyder yn ogystal.
Ar ddiwrnod cyntaf y treial plediodd Wignall yn euog i ymddygiad o reoli a gorfodi,a stelcio.Dedfrydwyd ef i dair blynedd o garchar.
Rhaid i’r erlyniad brofi bod yr unigolyn :
Pum mlynedd o garchar yw’r gosb uchaf,a gellir ymdrin a’r drosedd mewn llys ynadon neu lys y goron. Dedfrydwyd Joshua Dalgamio i dair blynedd am ymddygiad o’r fath,yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau treisgar a bygythiadau,dros gyfnod o bedwar mis. Disgrifwyd Jordan Sbeel fel un fu’n rheoli ei phartner ers yn gynnar iawn yn eu perthynas.Plediodd yn euog i glwyfo yn fwriadol,achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol,a rheoli a gorfodi ei phartner.Cafodd ddedfryd o saith mlynedd am bob ymosodiad (y dedfrydau i gyd-redeg),a chwe mis yn gyd-olynol am y rheoli a’r gorfodi.Roedd hon yn ddedfryd drugarog iawn ym marn y Llys Apel,er na wnaethant ymyrryd ymhellach.
Dedfrydwyd JB i flwyddyn ac wyth mis am y drosedd,ynghyd a thri mis am ymosod yn rhywiol.Cafwyd ef yn euog o ymddygiad treisgar blaenorol,a bod yr ymosodiad rhywiol yn rhan o’r patrwm o ymddygiad o reoli.
Sicrhawn bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newidiadau deddfwriaethol,er mwyn gallu cynnig y cyngor cywir i’n clientau. Os dymunwch drafod unrhyw agwedd o’ch achos,cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 neu carys@strainandco.co.uk
[Image credit: “204/365 - Fear not, for I am with you always.” by Www.CourtneyCarmody.com/ is licensed under CC BY-SA 2.0 ]
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.