14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae llawer o gamddealltwriaeth ynglŷn a thystiolaeth amgylchiadol, a llawer yn methu deall sut gellir dwyn achos gerbron llys heb dystiolaeth sylfaenol o dorcyfraith.Dyma ddefnyddio dwy enghraifft o fwrgleriaeth i ddangos hyn. Gall troseddw fwrglera mewn sawl ffordd wahanol., ond yr honiad mwyaf arferol yw ei fod wedi torri i mewn i adeilad trwy dresmasu, a dwyn rhywbeth nad oedd yn eiddo iddo.
Enghraifft 1:
Mae David yn torri i mewn i dy; caiff ei weld gan gymydog, ac mae hwnnw’n galw’r heddlu. Pan gyrhaeddant caiff David ei arestio i mewn yn y tŷ. Mae gemwaith ganddo yn ei fag, ac roedd ar fin dwyn ychwaneg o eitemau gwerthfawr.Dyma achos clasurol o fwrglera, gyda thystiolaeth uniongyrchol bod David yn y tŷ, ac wedi dwyn rhywbeth.
Enghraifft 2:
Mae cymydog yn clywed sŵn larwm tŷ ac yn mynd i ymchwilio. Wrth weld dyn (David) yn ymddwyn yn amheus yn is i lawr y stryd, mae’r cymydog yn ymaflyd ynddo. Pan mae’r heddlu’n cyrraedd, canfyddant bod gemwaith gan David, rhai y gellir eu olrhain i dy lleol lle bu bwrglera.Yn yr achos hwn, nid oes tystiolaeth uniongyrchol i David dorri i mewn i’r tŷ, sydd yn elfen hanfodol o drosedd bwrglera.Ond mae’r ffaith ei fod yn yr ardal ac eiddo wedi ei ddwyn yn ei feddiant ( cyfeirir at hyn yn gyfreithiol fel meddiant diweddar) yn dystiolaeth amgylchiadol gref bod David wedi torri i mewn i’r eiddo.Sut byddai’r gemwaith ganddo onibai ei fod wedi torri i mewn i’r tŷ a’u dwyn; (hwyrach bod rhesymau eraill, ond bydd rhaid i David egluro hynny pan fydd yr heddlu yn ei holi).
Dyma’r eglurhad cyfreithiol am dystiolaeth amgylchiadol: “Er mwyn profi bod tystiolaeth amgylchiadol yn gredadwy, ni ddylid bod unrhyw bosiblrwydd o gyd-ddigwyddiad.Rhaid dileu, gam wrth gam,ac yn eu trefn, unrhyw bosibliadau eraill.
Bydd yr erlyniad yn ceisio profi gwahanol ddigwyddiadau ac amgylchiadau na ellir eu hegluro yn rhesymol ond drwy euogrwydd y diffynydd. Gall yr amgylchiadau hynny gynnwys cyfle, bod yn agos i’r lle bu’r digwyddiad tyngedfennol, cyfathrebu rhwng pobl oedd yn rhan o’r digwyddiad, tystiolaeth wyddonol a chymhelliad.Gall ymddygiad y diffynydd ar ôl y digwyddiad hefyd fod yn dystiolaeth o’i euogrwydd; er enghraifft, tystiolaeth o ddianc, creu neu gelu tystiolaeth, dweud celwydd, neu bod ag eiddo wedi ei ddwyn yn ei feddiant, na ellir ei egluro.”
Gwaith y rheithgor yw penderfynu a yw’r ffeithiau sydd ganddynt yn ddigon i’w hargyhoeddi bod y diffynydd yn euog. (Mc Greevy v DPP(1973) 1 WLR 276) Ond rhaid bod yn ofalus, oherwydd gyda thystiolaeth amgylchiadol mae’n ofynnol bob amser: “archwilio’n fanwl, oherwydd,yn un peth, gall rhywun ddyfeisio tystiolaeth fel hyn er mwyn codi amheuaeth am unigolyn arall.Hefyd, cyn penderfynu ar sail tystiolaeth amgylchiadol bod y cyhuddedig yn euog, rhaid sicrhau nad oes amgylchiadau eraill yn cyd-fodoli allai wanhau neu ddinistrio’r casgliadau.” (Teper [1952] UKPC 15).
Trafodwyd achos Teper a McGreevy yn Kelly [2015] EWCA Crim 817 gyda’r datganiad hwn gan Pitchford LJ: “Diben yr arweiniad roddir ynglŷn a derbyn tystiolaeth amgylchiadol yw wynebu’r perygl o anghyfiawnder, hynny yw: 1) bod hapddyfalu yn digwydd yn hytrach na chasgliad sicr o euogrwydd, a 2) bod rheithgor yn anwybyddu tystiolaeth (os derbynnir hi) sydd yn tueddu i leihau neu, hyd yn oed, ddileu dod i’r casgliad bod diffynydd yn euog.Ond, fel yr eglurodd Tŷ’r Arglwyddi yn achos McGreevy, ni ellir gosod tystiolaeth amgylchiadol mewn unrhyw gategori penodol sydd angen arweiniad o safbwynt pwysau a safon tystiolaeth i brofi’r gwir.Mae’r cwestiwn terfynol i’r rheithgor yn union yr un fath os oes tystiolaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol. A yw’r erlyniad wedi llwyddo i brofi’r holl dystiolaeth fel bod y rheithgor yn sicr bod y diffynydd yn euog.Gwaith y barnwr yn y treial yw penderfynu beth yw’r ffordd orau i gynorthwyo’r rheithgor i roi dedfryd gyfiawn yn unol a’r dystiolaeth.
Diweddglo
Gwelir o’r dadansoddiad uchod bod tystiolaeth amgylchiadol yn gallu bod yn dystiolaeth gref a grymus yn erbyn unigolyn gyhuddir o drosedd; ond rhaid dadansoddi’r dystiolaeth hon bob amser yn y modd mwyaf gofalus.Fel arbenigwyr ar gyfraith droseddol, rydym yn ymwybodol iawn o beryglon tystiolaeth amgylchiadol, a gofalwn sicrhau deall yn union pa mor berthnasol yw yn yr achos dan sylw, ac nad yw rhywun yn gor-amcangyfrif ei phwysigrwydd.
Sut gallwn helpu?
Cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 am gyngor arbenigol, a gadewch i ni helpu. Gallwn roi cyngor ar bledio, amddiffyn a dedfrydau posibl mewn nifer eang o amgylchiadau.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.