14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cyhoeddi adroddiad ar droseddwyr yn dioddef o anhwylder meddwl o fewn y system cyfiawnder troseddol,gan roi datganiad ar addasu dedfrydau cymunedol ar gyfer y troseddwyr hyn.
Mae’r adroddiad yn datgan bod miloedd o bobl yn y carchar am nad oedd llefydd eraill mwy diogel ar gael,megis canolfan i roi triniaeth iechyd meddwl (MHTR) i rai sydd ei angen. Mae’r Coleg Brenhinol yn gwneud cais i’r llywodraeth am £12 miliwn i sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael i’r sawl sydd eu hangen.
Dywedodd yr Athro Pamela Taylor,awdur yr adroddiad:
”Mae gormod o bobl gyda salwch meddwl ,ag sydd yn dod i gysylltiad a chyfiawnder troseddol yn cael eu esgeuluso gan system sydd yn anwybyddu anghenion Triniaeth Iechyd Meddwl (MHTR). Gallai eu hanfon i garchar am droseddau bychain fod yn beryglus i’r cleifion troseddol,yn ogystal a niweidio’r gymuned ehangach hefyd.Mae graddfa ail-droseddu yn uchel pan gaiff pobl eu rhoi dan glo am gyfnodau byr tra bod eu problemau heb eu datrys,neu yn cynyddu.”
Mae tystiolaeth o gysylltiad rhwng rhai anhwylderau meddwl ag ymddygiad troseddol,a bod anghyfartaledd rhwng nifer y bobl yn y carchar gyda anhwylder meddwl,o’i gymharu a gweddill y boblogaeth.
Amcangyfrifid yn yr adroddiad bod 1,600 o bobl wedi cael dedfryd o garchar am lai na 12mis,fyddai wedi bod yn addas i dderbyn triniaeth iechyd meddwl.Byddai canlyniad gwell i’r troseddwr pe byddai’r angen hwn wedi ei nodi. Gallai 6,400 o garcharorion eraill, yn y carchar am fwy na 12 mis,fod wedi bod yn addas am driniaeth gyffelyb.I gymryd lle cyfnod byr o garchar,mae’n well ystyried gorchymyn cymunedol gyda gofynion.Dengys ymchwil bod dwy ran o dair y rhai sydd yn cael dedfrydau byr yn ail-droseddu o fewn 12 mis,o’i gymharu a un rhan o dair o ddynion a 15% o ferched sydd yn cael gorchymyn cymunedol gyda thriniaeth iechyd meddwl yn ogystal.
Mae arbed arian i’w ystyried gan ei bod yn ddrutach cadw rhywun yn y carchar na rhyddhau’r person hwnnw ar ddedfryd gymunedol.
Mae llai o ymchwil ar gael am droseddwyr gyda anhwylder meddwl sydd dan oruchwyliaeth,ond credir bod y nifer yn uchel oherwydd nad yw’r anghenion yn cael eu trafod.
Bu MHTR ar gael fel opsiwn dyfarniad ers peth amser yng Nghymru a Lloegr.Dim ond ar unigolyn sydd a’r gallu meddyliol i ddeall yr achos llys gellir gosod y gofynion hyn;rhaid iddo allu deall y ddedfryd awgrymir,a chytuno a’r gofynion,cyn eu gosod.Ni ddylid camgymryd y gofynion a gorchymyn triniaeth gymunedol dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl,sydd yn ofal gorfodol mewn ysbyty.
Gall MHTR gynnig fframwaith ar gyfer derbyn therapi,profiannaeth a chymorth gwasanaethau cymdeithasol,ac mae’n bosibl ei osod fel rhan o orchymyn cymunedol am uchafswm o dair blynedd.Addasir unrhyw ddedfryd gymunedol i ateb gofynion y troseddwr a’r gymuned,a lleihau’r perygl o ail-droseddu.
Er mwyn rhoi. MHTR mae angen presenoldeb,ac ni fyddai’n arferol i benodi triniaeth arbenigol.Byddai’r clinigwr yn cyfarfod y troseddwr,yn gwneud asesiad llawn o’i iechyd meddwl a’r anghenion cymdeithasol perthnasol,ac yn trin yr anhwylder.
Yn ol yn 2009,yn ol achos Khan,ychydig o gydnabyddiaeth oedd i argaeledd a gwerth MHTR,ac ymdrechwyd i gynyddu’r nifer sydd yn derbyn triniaeth.Roedd rhan o’r ymdrech yn cynnwys CTSR mewn ardaloedd peilot,sydd yn awr i’w ymestyn mewn ail don.Mae’r rhaglen yn caniatau i ymarferwyr gofal sylfaenol a seicolegwyr clinigol gynnig ymyriad seicolegol personol fel rhan o’r cynllun triniaeth.Bwriad y rhaglen yw gwella’r cyflwr iechyd meddwl,a’r problemau cymdeithasol sydd dan wraidd y sefyllfa,trwy ddatblygu ffyrdd i wella sgrinio,asesu a rhoi triniaeth,ac i ehangu partneriaeth a chyfathrebu lleol rhwng y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyfiawnder troseddol.
Bwriad CTSR yw lleihau ail-droseddu trwy gynnig rhywbeth heblaw dedfryd carchar am gyfnod byr. Mae canlyniad asesiad rhagarweiniol o’r rhaglen yn awgrymu bod cynnydd yn y defnydd o Driniaeth Iechyd Meddwl (MHTR). Darparodd y protocol lwybr mwy eglur i’w defnyddio,a chyflwyno gweithwyr ymroddedig i’r llys i gynorthwyo i adnabod ac asesu yr unigolion cymwys i gael y driniaeth. Daethpwyd i’r casgliad bod y llwybr gymerwyd wedi cau bwlch yn y gwasanaeth sydd ar gael i droseddwyr gyda phroblemau iechyd meddwl,yn ogystal a chau bwlch yn y gwasanaethau ar gyfer rhai gyda phroblemau iechyd meddwl mwy difrifol.
Sicrhawn bod yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth ac yng nghyfraith achosion,er mwyn gallu rhoi’r cyngor gorau posibl i’n cleientiaid.Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos,cysylltwch a Rhys Tudur ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.