14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae gwefannau cymdeithasol fel Gweplyfr, Trydar ac Instagram yn dod yn fwy a mwy poblogaidd, ac mae’n bwysig oedi ac ystyried ein defnydd ohonynt. Mae angen sicrhau eich bod chi a’ch plant yn rheoli’r wybodaeth bersonol ddatgelwch ar wefannau cymdeithasol, a hefyd eich ymddygiad ar y gwefannau hyn.
Cadwch reolaeth ar y manylion ddatgelwch ar-lein.
Byddwch yn ymwybodol o’r twyll all ddigwydd trwy ddulliau seiber. Gall twyllwyr ddefnyddio’r wybodaeth i ddwyn enw/hunaniaeth.Gall dweud wrth bawb eich bod ar fin mynd ar wyliau roi syniad ym mhen lleidr.Mae’n syndod faint o fanylion personol ddatgelwn dros gyfnod o amser.
Os oes gennych blant, rhaid meddwl hefyd am y perygl o bobl yn cysylltu a nhw ,eu paratoi er mwyn creu perthynas emosiynol, ac yna eu cyfarfod i’w camdrin yn rhywiol.
Wrth chwarae llawer o gemau ar-lein gall defnyddwyr anfon negeseuon y naill at y llall –wyddoch chi a phwy mae eich plentyn yn siarad?
Cadwch reolaeth ar eich ymddygiad.
Cyflawnir llawer o droseddau yn fyrbwyll oherwydd gwylltio ar y foment, neu effaith alcohol, ac yn y cyflwr hwnnw teipio geiriau na ellir eu dileu wedyn.
Gall anfon negeseuon dilornus ar-lein fod yn drosedd dan Ddeddf Gohebiaethau Maleisus 1988 a’r Ddeddf Gohebiaethau 2003, ac mae’r gosb yn sylweddol.
Gall rhywbeth oeddech chi yn feddwl oedd yn ddim ond tynnu coes fod mewn difrif yn sarhaus; a rhywbeth fwriadwyd i nifer fach ei weld, gael ei ddatgelu i filoedd o bobl.
Gall rhoi portread neu adroddiad ffug ar wefan gymdeithasol fod yn drosedd hefyd mewn rhai amgylchiadau.
Beth am ryddid llefaru?
Nid yw hyn yn hawl di-amod; gellir ei gyfyngu pan fo angen.
All hyn byth ddigwydd i mi.
Cofiwch am achos Maes Awyr Robin Hood. Cyfeiriodd gwr ifanc, o ran hwyl yn ei dyb ef, at roi’r maes awyr ar dan os byddai tywydd gwael yn ei rwystro rhag hedfan.Y canlyniad oedd ymddangos gerbron llys, ei gael yn euog gan ynadon, ac yn euog wedyn pan aeth yr achos i apel .Cafodd y ddedfryd ei dileu yn y diwedd pan wnaed ail apel yn yr Uchel Lys.Erbyn hynny roedd eisoes wedi colli ei swydd o ganlyniad i’w gollfarn.
Ar y llaw arall, nid yw dweud rhywbeth amhoblogaidd neu annymunol o reidrwydd yn anghyfreithlon; rhaid ystyried pa mor sensitif yw pobl, ochr yn ochr a rhyddid i lefaru; mae gennym, fel cyfreithwyr, le i bryderu am adroddiadau welwn am nifer o achosion. Oherwydd bod rhai pobl mor groen-denau, mae rhai yn pledio’n euog i drosedd, pan nad ydynt yn euog mewn gwirionedd.Ewch am gyngor cyfreithiol bob amser.
Sut gallwn helpu?
Os ydych angen cyngor am unrhyw fater troseddol posibl, cysylltwch, os gwelwch yn dda, a Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.