STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Troseddau yn ymwneud a budd-daliadau gwladol

Troseddau yn ymwneud a budd-daliadau gwladol

Dyddiad: 2018-11-08

Caiff dwy drosedd yn ymwnwud a thwyll budd-daliadau eu herlyn; un yn cynnwys anonestrwydd, a’r llall ddim. Y drosedd anonest: Mae’n drosedd cyflwyno cais yn anonest i gael budd-dal; mae hyn yn cynnwys bod yn anonest drwy beidio rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw newid yn eich amgylchiadau, yn ogystal a gwneud cais sydd o’r dechrau yn anonest. Trosedd heb yr elfen o anonestrwydd: Mae’n drosedd gwneud datganiad nad yw’n gywir er mwyn cael budd-dal; eto gall hyn fod yn un ai’r cais cychwynnol, neu peidio datgan yn syth unrhyw newid yn eich sefyllfa.

Beth yn union yw ystyr hyn?

Dyma’r eglurhad a roddir: 1.Anonestrwydd: Mae’r ystyr arferol i’r gair pan gyfeiria at drosedd; ond o safbwynt y drosedd lai nid oes raid bod anonestrwydd, ond rhaid profi fod y troseddwr yn ymwybodol o’r newid yn ei amgylchiadau, ond eto heb roi gwybodaeth am hynny yn syth. Ymchwiliodd y Goruchaf Lys i’r prawf anonestrwydd yn ddiweddar, ac o ganlyniad mae’n debygol bydd yn awr yn haws erlid pobl am y drosedd anonest.

  1. Newid amgylchiadau: Rhaid profi bod y troseddwr yn gwybod bod newid, ac y byddai’r newid hwn yn effeithio ar ei fudd-dal. Gall y newid ddigwydd wrth ddechrau byw gyda phartner, cael gwaith, neu unrhyw newid yn eich sefyllfa ariannol. 3.Rhoi gwybodaeth yn syth: ni ddylid oedi dim os oes unrhyw newid yn eich sefyllfa.Gwaith yr erlyniad yw profi na roddwyd gwybod yn syth. Felly mae’n hanfodol ymchwilio’r amgylchiadau cysylltiedig yn drwyadl, nid yn unig i liniaru’r drosedd, ond hefyd fel modd o amddiffyn. A oes troseddau eraill?

Mae troseddau eraill yn ymwneud a thwyll a chyfrifyddu anwir wrth wneud cais am fudd-dal, ond nid yw’r erthygl hon yn ymdrin a hwy.

Beth yw’r ddedfryd bosibl?

Llys Ynadon sydd yn delio a’r drosedd os nad oes anonestrwydd, a’r gosb fwyaf yw 3 mis o garchar. Gellir delio a’r drosedd anonest mewn Llys Ynadon neu Lys y Goron, ac mae’r gosb hwyaf yn 7 mlynedd. Wrth benderfynu ar y ddedfryd, y prif ffactorau yw pa mor hir y derbyniwyd gormod o fudd-dal, gwerth y taliadau hynny, ac a oedd yn gais anonest o’r cychwyn a’i peidio.Mae carchar yn fwy tebygol os oedd y cais am swm mawr o arian dros gyfnod hir, a’r cais hwnnw wedi ei wneud yn anonest o’r cychwyn.

Sut gallwn helpu?

Yn aml mae gwaith papur dibendraw wrth ymdrin ag erlyniadau am droseddau budd-daliadau. Mae gennym lawer o brofiad o drafod tystiolaeth o’r fath,ac mae’n bosibl i ni fedru profi bod gwerth y gor-daliadau yn llai, a hynny’n cael effaith uniongyrchol ar y ddedfryd debygol.Gallwn hefyd asesu unrhyw amddiffyniad sydd ar gael i chi. Mae cyngor arbenigol yn hanfodol, ac os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos, cysylltwch, os gwelwch yn dda, a Carys Parry ar 01758 455 500 neu office@strainandco. co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.