14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Cyfeirio mae hyn at drafodaeth rhwng partion mewn ymchwiliad i drosedd. Digwydd hyn ar ol i’r unigolyn dan amheuaeth gael ei gyfweliad cyntaf gyda’r heddlu, a chyn iddo gael ei gyhuddo’n ffurfiol. Proses gwirfoddol yw hwn, a gellir ei derfynu unrhyw bryd. Nid cyfeirio mae at drafodaeth rhwng partion trwy gynnal cyfweliadau pellach gan yr heddlu. Os nad yw unigolyn dan amheuaeth am drafodaeth ar y pryd, ni ddylai hyn effeithio’n anffafriol arno ymhellach ymlaen yn yr achos.
Mae’r Cod ar gyfer Gwasanaeth Erlid y Goron yn annog trafod cyn cyhuddiad, a gall gael effaith ar benderfyniad cyhuddo.(paragraff 3.4 Cod i Wasanaeth Erlyn y Goron).Gall gynnwys, ymysg pethau eraill:
a) Rhoi cyfle i’r un dan amheuaeth roi sylwadau ar unrhyw ymholiadau pellach fwriedir eu cynnal.
b) Sicrhau a wyr am unrhyw ymholiadau pellach y gellid eu gwneud.
c) Gofyn a yw’n ymwybodol o ddeunydd digidol perthnasol i’r honiad, neu sut i gael mynediad iddo.
ch) Trafod ffyrdd o oresgyn rhwystrau i gael tystiolaeth posibl, fel datgelu cod mynediad i seiffro.
d) Cytuno i ymchwiliad “gair allweddol” i unrhyw ddeunydd digidol mae’r unigolyn dan amheuaeth yn ddymuno.
dd)Cael ei ganiatad i weld ei gofnodion meddygol.
e) Cael enwau a manylion cyswllt unrhyw dystion posibl ganddo.
f) Gwneud yn eglur a gytunwyd ar unrhyw dystiolaeth arbenigol neu fforensig. Os na wnaed hynny, gofyn tybed yw cynrychiolwyr yr un dan amheuaeth yn bwriadu cyfarwyddo eu harbenigwyr eu hunain, yn ogystal ag amcan o’r amser fydd hyn yn gymryd.
Pryd mae’n addas cynnal y drafodaeth?
Gall ddigwydd unrhyw bryd mae’r partion yn cytuno bod hyn am helpu’r ymchwiliad. Os nad oes gan yr unigolyn dan amheuaeth rhywun i’w gynrychioli, dylid gofalu ei fod yn deall bod ganddo hawl i gael cyngor cyfreithiol cyn dechrau trafodaeth cyn cyhuddo. Dylid rhoi digon o amser iddo gael y cyngor hwn, os mai dyna ei ddymuniad. Os gwrthododd wneud unrhyw sylw yn ei gyfweliad, nid yw hyn yn rhwystr i gynnal y drafodaeth.
Beth yw’r manteision?
Cafodd ein cyfreithwyr hyfforddiant i ymdrin a’r canllawiau newydd hyn,ac mewn achosion addas, byddant mewn cyswllt a’r heddlu cyn i’r cyhuddiad gael ei wneud, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau. Sut gallwn helpu? Os ydych angen cyngor cyfreithiol arbenigol cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 neu michael@strainandco.co.uk
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.