14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mewn achos diweddar, y dasg a wynebai’r Uchel Lys oedd ystyried goblygiadau rhyddid i lefaru yng nghyd-destun troseddau trefn gyhoeddus.
Ymwnelai’r achos a Syr Iain Duncan Smith gafodd ei sarhau tra’n cerdded ar y stryd gyda’i wraig a chydweithiwr.
Dywedai’r erlyniad,o edrych ar ffilm o’r digwyddiad,bod Ruth Wood (un o’r diffynyddion) wedi galw Syr Iain Duncan Smith yn “Tory cunt”.Ond,wrth groesholi,pan ddangoswyd y ffilm I’r plismon yn yr achos,DC Foy,cytunodd y Goron mai’r hyn ddywedodd hi mewn gwirionedd oedd “Tory scum”.Ategodd y plismyn bod rhai o’r protestwyr eraill oedd yn rhan o’r grwp oedd yn dilyn Iain D“uncan Smith wedi eu harestio ond heb eu cyhuddo.
Cytunodd Ms Wood ei bod wedi taro ei drwm a’i alw’n “Tory scum”.Cofiai bod y disgrifiad hwn wedi ei ddefnyddio trwy gydol y penwythnos o brotestiadau, yn ogystal a llawer o brotestiadau diweddar eraill bu hi’n rhan ohonynt o’r blaen.
Teimlai mewn difrif ei fod mor gyffredin fel nad ystyrid ef yn atgas,ac, yng nghyd-destun protestio, nad oedd fawr o rym iddo bellach.
Cytunai Ms Wood hefyd iddi ddweud “Fuck off from Manchester”,gan y teimlai’n gryf,oherwydd polisiau’r Blaid Doriaidd,(a rhai Iain Duncan Smith yn benodol),nad oedd croeso iddo yno.
Dywedodd nad oedd ganddi unrhyw fwriad i achosi dychryn na gofid i Iain Duncan Smith nac unrhyw un arall,ac ni theimlai bod unrhyw beth o’r fath wedi digwydd.Petae hi wedi meddwl bod aflonyddu yn digwydd,byddai wedi rhoi’r gorau iddi.
Dyfarnodd y Barnwr Rhanbarth bod y protestwyr yn ddieuog.Pan aeth yr achos i apel,cytunodd yr Uchel Lys gyda’r barnwr.Wrth grynhoi,dyma safbwynt yr Uchel Lys:
“Achos o “eiriau sarhaus” oedd hwn,nid achos o eiriau neu ymddygiad bygythiol Roedd yn achos o greu,a bwriadu creu “dychryn”.Ymddygiad personol pob un oedd yn cymryd rhan (Interested Parties) oedd y drosedd yn yr achos hwn,nid gweithredoedd Trydydd Partion.
Achos ble canfuwyd bod defnyddio’r geiriau “Tory scum”yn ffordd o dynnu sylw at bolisiau Iain Duncan Smith.O edrych ar y dystiolaeth berthnasol o’r safbwynt hwn,ac o ystyried yr holl dystiolaeth a’r pwyntiau wnaethpwyd am y cyd- destun a’r amgylchiadau,nid oes unrhyw beth yn fy marn i,naill ai yn unigol nac yn dorfol,all danseilio dyfarniad terfynol y Barnwr ac iddo ddyfarnu hyn fel ymddygiad rhesymol.”
Mae’r gyfraith sydd yn ymwneud a phrotestiadau yn datblygu’n eithriadol o gyflym.Os ydych yn wynebu ymholiad neu erlyniad ynglyn a phrotestio,,dylech gael ctngor cyfreithiol cyn gynted a phosibl.
Sut gallwn helpu/ Sicrhawn bod yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac yn y gyfraith achosion,er mwyn eich cynghori yn y modd gorau posibl. Os hoffech drafod eich achos,cysylltwch gyda Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk
Image credit: “Human Lives are not political pawns - Refugee Action protest ” by John Englart (Takver) is licensed under CC BY-SA 2.0.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.