STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Swyddogion yr Heddlu a phrofi adnabyddiaeth

Train station

Dyddiad: 2020-10-29

Mae’n eithaf arferol i blismon edrych ar luniau camerau cylch cyfyng a dweud ei fod yn gallu adnabod unigolyn gyhuddwyd.Anfonir llawer achos na chafodd ei ddatrys at heddluoedd trwy’r wlad, gyda’r gobaith bydd swyddog yn llwyddo i adnabod rhywun sydd angen cael ei holi.(Smith[2008] EWCA Crim 1342).

Dro arall gall plasmon gymharu ffotograff o rywun gyda chofnod o gamera cylch cyfyng, ac o’u hastudio’n hir, ddod i’r casgliad mai lluniau o’r un person ydynt. Yn AG Cyfeiriad Rhif 2,2002[2002] EWCA Crim 2373, dyma benderfyniad y llys:

“Pan fo tyst nad yw’n adnabod y diffynydd yn treulio cryn dipyn o amser yn edrych ar, a dadansoddi,lluniau ffotograffig o’r olygfa, ac o ganlyniad yn casglu gwybodaeth arbennig nad oes gan y rheithgor, mae ganddo hawl i roi tystiolaeth o adnabod ar sail cymhariaeth rhwng y lluniau hynny a ffotograff diweddar o’r diffynydd cyn belled a bod y lluniau a’r ffotograff ar gael i’r rheithgor eu gweld.”

Mesurau diogelwch

Ond nid dyna’r cyfan; yn achos Smith, cynigiodd y llys y canllaw canlynol:

“Nid yw plismon yn edrych ar luniau camera cylch cyfyng yn yr un sefyllfa a thyst welodd rhywun yn cyflawni trosedd. Ond fel cytunodd yr erlyniad, mae’r mesurau diogelu osodwyd gan y Cod hefyd yr un mor bwysig mewn achosion pan ofynnir i blismon edrych i weld os gall adnabod unrhyw un mewn cofnod camera cylch cyfyyng. Y drwg yw ei bod yn bosibl i blismon fynnu ei fod yn adnabod rhywun, ond nad oes unrhyw ffordd wrthrychol o brofi cywirdeb ei honiad. Os defnyddir Cod D ai peidio, rhaid cael rhyw gofnod all helpu i asesu pa mor ddibynnol yw’r honiad.Mewn achosion fel hyn, amhosibl cymharu sylwadau wnaed yn wreiddiol gan dyst wrth roi ei ddisgrifiad, neu ddiffyg disgrifiad, o’r sefyllfa ar y pryd, ac awgryma hyn y dylid gwneud prawf adnabod pellach.Ni ellir yn hawdd ofyn i blismon gofio ei ddisgrifiad o rywun ddrwgdybir, cyn iddo ddewis yr unigolyn hwnnw allan o gofnodion camera cylch cyfyng. Heb ryw ddull o wirio’r ffeithiau posibl, pe buasai tyst wedi disgrifio cyflawni’r drosedd, ac yn cofio ei ddisgrifiad o’r troseddwyr, mae’n bwysig bod modd edrych yn fanwl ar ymateb gwwreiddiol y plismon i’r cofnodion. Felly os yw plismon yn methu adnabod rhywun y tro cyntaf, ond yn llwyddo yn ddiweddarach, dylid nodi’r amgylchiadau hynny. Gall geiriau’r plismon wrth fynegi ei adnabyddiaeth fod yn bwysig hefyd. Os na lwydda i ddewis unrhyw un,neu os yw’n mynegi unrhyw amheuaeth, dylid cofnodi hynny hefyd. Yn ogystal, rhaid cofnodi pa elfennau yn y llun a’i galluogodd i adnabod. Os nad oes cofnod, amhosibl asesu pa mor ddibynnol yw’r adnabod. Cawsom wybod bod protocol yn cael ei baratoi ar gyfer achosion fel hyn.

Gyda’r cynnydd mewn profi adnabyddiaeth mae cael protocol yn hanfodol. Dyma’r unig ffordd o sicrhau nad mynnu yr hyn mae’n ei ddymuno ac yn ei obeithio mae’r plismon, er nad yw’n lawn sylweddoli hynny, sef adnabod rhywun euog.”

Daeth hyn dan ystyriaeth yn achos diweddar Yaryare [2020]EWCA Crim 1314, pan wnaed y sywadau canlynol yn dilyn adolygiad manwl o nifer o awdurdodau;

Yn gyntaf, rhaid dilyn darpariaethau perthnasol Cod D mewn grym ar y pryd ( os oedd Cod D yn uniongyrchol berthnasol ai peidio, gan fod peth tyndra rhwng yr awdurdodau ar y mater hwn), ac yn enwedig wrth greu cofnod wnaed ar y pryd fyddai wedi bod o gymorth i brofi tystiolaeth y Ditectif Gwnstabl Bee o’r adnabyddiaeth. Mae fersiwn cyfredol Cod D ( sydd mewn bodolaeth ers Chwefror 23ain 2017) yn ymwneud a sefyllfa debyg iawn, oherwydd mai dyma eiriau agoriadol D 3.34 (“Adnabyddiaeth trwy ddangosiad rheoledig o ffilmiau, ffotograffau a lluniau”).Defnyddir y rhan yma o’r adran hon pan drefnir i unigolyn, gan gynnwys plismon, nad oedd yn lygad-dyst, i wylio ffilm a.y.y.b., er mwyn casglu tystiolaeth o adnabyddiaeth.

Yn ail, ffeithiau penodol yr achos dan sylw fydd yn penderfynu oedd diffyg dilyn Cod D yn gwneud y dyfarniad yn anniogel, a bydd yn rhaid i’r llys ystyried maint a phwysigrwydd torri amodau’r Cod, ac unrhyw anhegwch gyfyd o’r herwydd.

Yn drydydd, er bydd canlyniadau torri rheolau’r Cod yn amrywio o un achos i’r llall, mae heddluoedd wedi darganfod dau beth nodedig. Ar un llaw, mae achosion fel Smith a JD pan na chadwyd unrhyw gofnodion gasglwyd ar y pryd (adeg y drosedd), a’r dystiolaeth o adnabod yn hanfodol wael. Yn achos Smith seiliwyd yr adnabyddiaeth ar ei daldra a’i ddillad, a dim arall-“ y cyfan sydd yn cyfrif, nid un peth neilltuol”-, ond heb gynnwys adnabod ei wyneb.( gweler y dyfarniad yn [64] a [65]).

Yn achos JD, ni roddwyd unrhyw fanylion o nodweddion arweiniodd at y penderfyniad gan y plismon awgrymodd ei fod yn adnabod yr apelydd. Y cyfan wnaeth oedd datgan nad oedd ganddo unrhyw amheuaeth mai’r dyn yn y crys T gwyrdd oedd yr apelydd.(gweler y dyfarniad yn [7]), ar ol edrych deirgwaith ar y lluniau.

Ar y sail y dylid bod wedi gwahardd y dystiolaeth, byddai’r gollfarn yn achos Smith wedi ei dileu, onibai bod deunydd ychwanegol yn cysylltu’r apelydd a’r drosedd. Ac yn achos JD cafodd y gollfarn ei dileu.Ar y llaw arall, mewn achosion fel Cheney a Lariba, er gwaethaf peidio dilyn Cod D, ac yn achos Cheney,( er i blismyn eraill awgrymu bod lluniau neu ffilmiau camerau cylch cyfyng o’r diffynydd ar gael o bosibl), os rhoddir eglurhad manwl o sail yr adnabyddiaeth, yn enwedig os yw’n bosibl i’r rheithgor edrych ar y deunydd perthnasol, hwyrach ei bod yn deg derbyn y dystiolaeth – ond rhaid y hyn ddibynnu bob amser ar ffactorau eraill.

Cred rhai bod adnabyddiaeth gan swyddog o’r heddlu, amlinellwyd uchod, yr un fath ag unrhyw ddull arall o adnabod. Ond mae hynny’n amlwg yn anghywir.Rydym yn ymwybodol iawn bod rhaid cael dadansoddiad fforensig manwl i sicrhau bod tystiolaeth o’r fath yn hollol deg. Mae achosion fel un Yaryare yn ein hatgoffa mor hawdd gwyro oddi wrth yr ymarfer gorau, a bod angen i ni ddal i fod yn wyliadwrus ar ran ein clientau.

Sut gallwn helpu?

Os dymunwch drafod unrhyw agwedd o’ch achos, cysylltwch a Rhys Tudur ar 01758 455 500.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.