STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Sefyllfa sydd yn achosi penbleth i riant ac allasai olygu cael ei garcharu

Sefyllfa sydd yn achosi penbleth i riant ac allasai olygu cael ei garcharu

Dyddiad: 2019-01-11

Dyma hunllef y gallasai unrhyw riant ei wynebu. Plentyn yn cyrraedd adref yn gynhyrfus yn hwyr yn y nos. Brysia i ddweud ei fod wedi bod yn ymladd, nad ei fai ef ydoedd, ond bod rhywun wedi cael ei anafu’n ddrwg. Nid yw’n fodlon rhoi mwy o fanylion, ond mae’n meddwl y daw’r heddlu i’w arestio. Er mwyn ei warchod, rydych yn brysio i gymeryd ei ddillad a’u rhoi i olchi. Cyn i chi gael amser i feddwl am alibi iddo, mae’r heddlu’n cyrraedd, cicio’r drws i mewn a dod o hyd i’ch mab yn cuddio yn ei lofft. Mae’n noeth, a dim golwg o ddillad o gwmpas. Gwyr y plismon profiadol yn union beth i’w wneud, ac mae’n rhuthro i’r gegin a thynnu’r plwg o’r peiriant golchi dillad. Byddant wedyn yn mynd a’r peiriant oddiyno er mwyn gwneud dadansoddiad fforensig o’r cynnwys, yn ogystal a’r dwr.

‘Does dim rhyfedd bod eich mab yn cael ei arestio, ond beth fydd eich tynged chi?

Mae diwedd y stori yn dibynnu’n llwyr ar beth mae’r heddlu yn ei ddarganfod, ond fe brofir yn aml bod rhiant wedi ymddwyn mewn modd i warchod ei blentyn. Mae rhoi’r dillad yn y peiriant golchi, neu rhoi alibi ffug,yn gyfystyr a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dro arall gall teulu neu ffrindiau roi lloches ddiogel i rywun sydd yn dianc oddi wrth yr heddlu. Mae hyn hefyd yn drosedd ddifrifol os roedd y teulu neu’r ffrindiau yn ymwybodol o’r sefyllfa. Os cewch eich dyfarnu’n euog, mae carchar yn anorfod, a bywyd arall yn cael ei ddryllio.

Mewn rhai achosion, mae amddiffyniad posibl, ac rydym yn eich sicrhau y gallwn ganfod ffordd o’ch amddiffyn os oes amddiffyniad ar gael.Dro arall ein gwaith yw adrodd yr hanes o safbwynt y rhieni er mwyn lliniaru’r drosedd.

Beth fuasech chi yn ei wneud yn yr un sefyllfa? Nid yw’n beth a ddymunem, ond gallai unrhyw un ohonom wynebu’r hunllef hon. Gall pob math o bobl wynebu’r system gyfreithiol. Nid drwgweithredwyr a welwn, ond pobl gyffredin mewn sefyllfa unigryw.

Sut gallwn helpu?

Rhag cael eich gweld fel rhif mewn achos, fel diffynydd neu droseddwr, ond yn hytrach fel unigolyn, cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 i drafod eich achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.