STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Sally Challen: achos yn deillio o reolaeth a gorfodaeth

Dyddiad: 2019-06-13

Ym mis Chwefror 2019 cafodd collfarn Sally Challen am lofruddio ei gwr ei dileu gan y Llys Apel, a gorchmynwyd ail- dreial. Yr wythnos ddiwethaf derbyniwyd ple gan yr erlyniad am y drosedd lai o ddyn-laddiad, a golygai’r dyfarniad gafodd Challen nad oedd raid iddi dreulio mwy o amser yn y carchar.

Pam caniatawyd yr apel?

Rhoddodd Challen ddau reswm:

  1. Roedd y dystiolaeth newydd o reoli a gorfodi, a thystiolaeth seiciatryddol newydd yn cefnogi’r gosodiad bod yr apelydd yn dioddef abnormalwydd meddyliol pan laddodd ei gwr.Petae tystiolaeth arbenigol am reolaeth a gorfodaeth ar gael adeg y treial, hwyrach byddai’r dyfarniad terfynol ynglyn a’r ffaith nad oedd y diffynydd yn llawn gyfrifol wedi bod yn wahanol.
  2. Mae’r dystiolaeth newydd hefyd yn ymdrin a mater cythruddo, gan ei fod yn help i brofi y cythruddwyd yr apelydd i ladd ei gwr oherwydd ei ymddygiad ef o reoli a gorfodi ei wraig.

Yr ymddygiad yma ar ran ei gwr oedd y sail i’r sialens, ymddygiad sydd erbyn hyn yn drosedd ynddo’i hun.Yn ol Adran 76 Deddf Troseddau Difrifol 2015 mae patrwm o ymddygiad difriol yn drosedd, er nad yw elfennau unigol o’r fath ymddygiad o reidrwydd yn anghyfreithlon. Amcan hyn yw gwarchod dioddefwyr camdrin teuluol yn well. Dadleuai bargyfreithwyr Challen bod llysoedd wedi cydnabod y syniad o syndrom unigolyn ddioddefodd gael ei guro; ond mae’r syndrom hwnnw yn canolbwyntio ar effaith seicolegol camdrin teuluol mynych, tra bod rheoli a gorfodi yn canolbwyntio ar orfodaeth, iselhau a rheolaeth gyson. Golygai diffyg gwybodaeth am theori rheoli a gorfodi adeg achos yr apelydd na chynigiwyd yr amddiffyniad rhannol o gyfrifoldeb lleihaedig mor llawn ag y gellid bod wedi ei wneud, ac na chynigiodd y bargyfreithwyr, a gynrychiolai’r apelydd bryd hynny, amddiffyniad o gythruddo o gwbl. Felly ni roddwyd gweithred yr apelydd yn ei chyd-destun priodol. Oedd y llys yn cydweld? Dyma eu hymateb: “Ni pherswadiwyd ni y byddai gan yr apelydd achos apel pe byddai’r elfen gyffredinol o reoli a gorfodi yn unig wedi ei chyflwyno i ni. Ond yr oedd ffeithiau eraill. ‘Rydym wedi canolbwyntio ar ddiagnosis y meddyg ar ol y dyfarniad, bod yr apelydd yn dioddef nam personoliaeth ffiniol a nam tymer ansad difrifol, o bosibl salwch emosiynol deubegwn, a’i bod yn dioddef o’r anhwylderau hyn adeg y llofruddiaeth. Os yw hyn yn gywir, gall y theori o reoli a gorfodi fod yn berthnasol yn y cyd-destun hwn. Nid ydym yn datgan barn a oedd yr apelydd yn dioddef cael ei rheoli a’i gorfodi,nac,os oedd hynny’n wir, i ba raddau yr amharodd ar ei gallu i reoli ei hun; neu pa mor gyfrifol oedd hi am yr hyn a wnaeth. Ond, gan nad oedd tystiolaeth arbenigwr ar gael i’r cyfreithwyr oedd yn amddiffyn yn y treial, ni ymchwilwyd yn fanwl i’r posiblrwydd ei bod yn dioddef o’r ddau anhwylder, nac i effaith dioddef perthynas o gamdrin arni hi.Ni chyflwynwyd yr effaith o gael ei chythruddo o gwbl.” Oherwydd hyn gorchmynwyd ail-dreial. Yn y diwedd derbyniodd yr erlyniad ble i gyhuddiad llai difrifol o ddyn-laddiad o ystyried y dystiolaeth gref iawn ynglyn ag ymddygiad y gwr, a’r effaith ar gyflwr meddwl Challen adeg y llofruddiaeth. O safbwynt cyfreithiol dengys yr achos hwn ddau beth i ni:

  1. Wrth geisio ffyrdd o amddiffyn, mae rheoli a gorfodi rhywun yn ffactor berthnasol i’w hystyried.
  2. Fel mae disgyblaethau meddygol ac eraill yn datblygu, rhaid pwyso a mesur achosion o’r gorffennol i weld a fydd y datblygiadau hyn yn cefnogi apel newydd.

Sut gallwn helpu? Cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 os am gyngor arbenigol, a gadewch i ni helpu. Rydym yn delio’n ddyddiol a phob math o droseddau, ac mae gennym yr arbenigedd i gael y canlyniad gorau posibl i chi.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.