14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae’r gymuned gyfreithiol yn rhoi llawer o sylw ar hyn o bryd i Rybuddion Gwarchod Cymunedol (CPNs), ac mae gennym le i boeni am y modd maent yn cael eu defnyddio.
Mewn achos diweddar (Stannard v Gwasanaeth Erlid y Goron (2019) EWHC 84 (Admin), heriwyd rhybudd gwarchod fel hyn: “Mae’n rhaid i chi yn awr, yn ol y rhybudd, ufuddhau i’r amodau canlynol:
Peidio mynd i ganol tref Reading, fel nodir ar y map ar gefn y tudalen, onibai bod apwyntiad wedi ei wneud i chi ymlaen llaw yn y llys, neu gyda swyddog prawf.
Rhaid i chi hysbysu Heddlu Dyffryn Tafwys o unrhyw apwyntiad o’r fath drwy ffonio 101 o leiaf 24 awr cyn amser yr apwyntiad.
Dim mynd o fewn 100 medr i unrhyw fwyty McDonalds yn Reading.
Yn y treial, mynnai’r apelydd nad oedd achos iddo ateb i’r honiad ei fod wedi torri’r rhybuddion, , oherwydd bod y CPNs wedi cynnwys amodau afresymol nad oedd eu hangen, ac oedd yn mynd ymhell tu hwnt i’r risg allai’r apelydd fod, ac felly bod y rhybuddion wedi eu rhoi yn anghyfreithlon. O ganlyniad nid oedd y rhybudd yn ddilys ac ni ellid ei orfodi i gydymffurfio.
Gwrthododd y Barnwr Rhanbarth yr argymhelliad ar y sail nad ei gwaith hi oedd penderfynu oedd y rhybudd yn ddilys ai peidio, ac y dylid bod wedi ymdrin ag unrhyw ddadl ynghylch ei ddilysrwydd mewn apel yn erbyn y CPNs.Aeth yr achos ymlaen. Yn dilyn y dystiolaeth gafwyd, penderfynodd y barnwr ei fod wedi torri’r rhybuddion a chafwyd yr apelydd yn euog.
Y cwestiwn craidd yn yr achos apel yma oedd, pan erlidir ar sail torri Rhybudd Gwarchod Cymunedol, oes gan y diffynydd hawl i ddadlau, fel ffordd o’i amddiffyn ei hun, nad oedd ac nad yw’r rhybudd yn un dilys.
Dyma farn y llys: “Roedd y Barnwr Rhanbarth yn gywir i ddod i’r penderfyniad bod rhaid i’r apelydd ufuddhau i’r rhybuddion, onibai neu hyd nes byddent yn cael eu newid neu eu gollwng.Felly ni allai hi edrych ar y cefndir, ac nid oedd ganddi’r awdurdod i wrando ar ddadleuon yr apelydd yn erbyn dilysrwydd y rhybuddion.”
Ond aeth y llys ymhellach o lawer na hyn, a rhoi’r arweiniad canlynol gredwn ni all fod o gymorth mawr: “Wrth gwrs, os yw’r rhybudd yn aros fel y mae, a’r apelydd yn cael ei erlid eto am ei dorri, ni all gynnig y ddadl a roddodd gerbron y Barnwr Rhanbarth Toms a ninnau, fel amddiffyniad mewn treial.Credwn y byddai’n well ,ac yn cydfynd a sicrwydd cyfreithiol, i’r rhybuddion gael eu gosod am gyfnod cyfyngedig, ac i’r cyfnod hwnnw gael ei nodi’n glir yn y CPN. Yn ail, ac yn fwy cyffredinol, pwysleisiwn yr angen, cyn iddynt osod rhybuddion, dylai’r bobl sydd ag awdurdod i wneud hynny edrych yn ofalus ar y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau osodir i sicrhau nad ydynt yn mynd tu hwnt i’r hyn sydd ei angen ac sydd yn gymesur i ymdrin a’r ymddygiad alwodd am osod rhybuddion gwarchod cymunedol yn y lle cyntaf.”
Sut gallwn helpu?
Gallwn eich helpu gyda unrhyw gwestiynau yn ymwneud a Rhybuddion Gwarchod Cymunedol. Braslun cyffredinol o’r gyfraithh sydd yma. Os am gyngor manwl cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 i drafod eich achos.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.