STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

'Rheithgor crog' –nid cynddrwg ag mae’n swnio

'Rheithgor crog' –nid cynddrwg ag mae’n swnio

Dyddiad: 2019-04-08

Yr wythnos ddiwethaf daeth treial Hillsborough yn ymwneud a’r cyn-heddwas David Duckenfield i ben heb ddyfarniad; a nifer o bapurau newydd yn datgan bod y “ rheithgor wedi ei ddiddymu”.

Beth yn union yw ystyr hyn?

Mewn byd delfrydol, mae rheithgor yn penderfynu un ai bod diffynydd yn euog neu yn ddieuog. Gyda 12 aelod rhaid i 10 gytuno ar y dyfarniad.Felly os ,er enghraifft, yw 8 yn credu bod y diffynydd yn ddieuog, a 4 eisiau ei gollfarnu, ni ellir derbyn y ddedfryd honno. Os bydd rheithgor yn dweud na allant gytuno ar reithfarn yn unol a rheolau’r gyfraith, caiff y rheithgor ei ryddhau. Cyfeirir at hyn yn aml fel “rheithgor crog” yn iaith y gyfraith.

Beth sydd yn digwydd wedyn?

Gall yr erlyniad wneud cais i gynnal treial arall, a dyna ddigwydd gan amlaf. Y Barnwr yn y treial fydd yn penderfynu, gan ystyried fydd ail-dreial yn fuddiol o safbwynt cyfiawnder ai peidio. Bydd y llys yn ystyried cwestiynau yn cynnwys ( ond nid yn gyfyngiedig i ) a yw’r drosedd honedig yn ddigon difrifol i gyfiawnhau ail wrandawiad; a fyddai’r apeliwr, os byddai’n cael ei gollfarnu yr ail waith, yn debygol o dreulio cyfnod sylweddol neu gyfnod pellach yn y carchar; oed a chyflwr iechyd yr apeliwr; a dymuniadau dioddefwr y drosedd honedig. Os honnir bod camymddwyn ar ran yr erlyniad, yna fe ystyrir ffactorau eraill, sydd yn cyfateb i’r cwestiwn a yw caniatau ail-dreial yn gamddefnydd o’r proses cyfreithiol. Yn y rhelyw o achosion mae’n anodd i’r amddiffyniad wrthwynebu’r cais, ond byddem ni’n gofalu ystyried yr holl ffactorau perthnasol, a gwrthwynebu os oes modd. Beth sydd yn digwydd os yw rheithgor newydd yn methu cytuno ar ddyfarniad?Mewn sefyllfa felly ni fydd yr erlyniad fel arfer yn cynnig tystiolaeth, er gellid cynnal ail-dreial pellach mewn rhai amgylchiadau prin.

Sut gallwn helpu?

‘Rydym yn arbenigwyr ymhob agwedd o gyfraith a threfniadaeth droseddol. Os gallwn eich helpu gyda unrhyw ymchwiliad neu erlyniad, cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 am gymorth yn syth.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.