STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

HEDDLU CUDD - mynd yn rhy bell, tu hwnt i’w dyletswyddau.

HEDDLU CUDD - mynd yn rhy bell, tu hwnt i’w dyletswyddau

Dyddiad: 2019-04-30

Mae gwylwyr yn dal i ddilyn y ddrama deledu “Line of Duty”, yn eiddgar i ddarganfod pwy yw H, a’r uwch-swyddog o’r heddlu sydd yn rhan o ryw gyfundrefn o gangiau troseddol. Yn ganolog yn y ploy yn y gyfres hon, mae’r heddwas cudd John Corbett fu farw’n annisgwyl ac mewn modd erchyll ar ddiwedd Pennod 4. Wedi ei anfon i ddatgelu sut roedd gangiau troseddol o’r math yn gweithredu, ymddengys iddo “droi’n lleidr” ei hun, a bu’n rhan o ladrad arfog a llofruddiaeth, er yr ymddangosai ei fod yn gweithredu’n hollol gyfreithlon fel arall, wrth geisio argyhoeddi’r swyddog AC12 Steve Amott ei fod ar fin llwyddo i ddatgelu pwy oedd y plismon oedd yn arwain y cynllwyn.

Pa mor agos i fywyd go iawn yw’r sefyllfa hon?

Ysgrifenwyd cryn dipyn am waith swyddogion yr heddlu cudd, ond yn rhyfedd iawn ychydig o reolaeth statudol sydd ynglyn a’u hawliau, a’r hyn nad oes ganddynt hawl i’w wneud.Wrth reswm nid oes ganddynt hawl i ladd neb, onibai bod rheswm cyfreithiol, fel hunan-amddiffyn; ond mae’n rhaid iddynt fod yn rhan o ryw gymaint o droseddu, neu buan iawn y caent eu hamau ynglyn a beth oedd eu swyddogaeth mewn difrif.

Ond nid yw’r ffiniau’n eglur bob amser a dyna sydd yn creu anhawster. A yw’n bosibl dweud ai rhywun oedd yn bresennol yn gwylio, neu un sydd yn cymryd rhyw ran fach yn y drosedd, yw’r swyddog, ynteu fel yn achos John Corbett,yr ymddengys mai ef yw’r un sydd yn annog trosedd ddifrifol.

Mae archwiliad yn digwydd ar hyn o bryd i waith yr heddlu cudd, ond ni ddaw’r canlyniadau am rai blynyddoedd. Yn y cyfamser, rhaid i gyfreithwyr amddiffyn chwilio’n ofalus drwy’r haenau cyfrinachedd, i ganfod ffordd drwy’r rhwystrau i imiwnedd diddordeb y cyhoedd, wrth ymladd i ddatgelu’r gwirionedd am ran eu cleient yn y troseddu honedig.Mae hyn yn waith anodd ac araf, ond mae gwybodaeth drylwyr o’r gyfraith gan gyfreithwyr profiadol, ac maent yn hollol abl i sicrhau y cewch eich amddiffyn yn briodol.Mae llawer o bethau ynglyn a’r heddlu’n aml yn gyfrinachol, a rhaid taflu goleuni ar hyn cyn gall rheithgor ymchwilio i’r holl ffeithiau a phenderfynu ar ddedfryd deg.

Mae’n debygol bydd rhaid i’r heddlu ddibynnu mwy fyth ar yr hen dechnegau i gasglu tystiolaeth, gan fod troseddu difrifol yn mynd yn fwy cyfundrefnol a soffistigedig, a thechnegau gwyliadwriaeth traddodiadol yn cael eu llesteirio gan dechnoleg fodern ac amgryptio, sef ysgrifennu mewn cod.

Ond gwyddom hefyd bod ymddygiad pobl yn gymhleth, ac nid yw’r heddlu cudd yn dilyn y rheolau bob amser, a weithiau’n euog o droseddu eu hunain neu o annog eraill i gyflawni trosedd na fuasent wedi ei chyflawni heb yr anogaeth ( cysyniad cyfreithiol elwir yn endrapiad).

Sut gallwn helpu?

Os ydych angen cyngor arbenigol, yna cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500. a gadewch i ni helpu. Mae gennym y gallu a’r profiad i roi cymorth ynglyn ag unrhyw ymchwiliad neu erlyniad troseddol.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.