STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Gorchymyn atafaelu, Awdurdodau Lleol a Tai Aml-ddeiliadaeth.

Arian

Dyddiad: 2021-01-06

Clywodd y mwyafrif ohonom am orchmynion atafaelu, fel arfer yng nghyd-destun troseddau cyffuriau. Yn dilyn collfarn gelllir cynnal gwrandawiad elw troseddau i drefnu gorchymyn atafaelu, er mwyn casglu’r elw wnaed o ganlyniad i’r drosedd.

Hwyrach nad yw pawb yn sylweddoli mai nid Gwasanaeth Erlyn y Goron yn unig gaiff wneud cais am y gorchymyn.

Collfarnwyd Arun Bajaj o droseddau yn ymwneud a gorlenwi tai roedd yn eu gosod, o ganlyniad i gael ei erlyn gan yr awdurdod lleol. Roedd Bajaj yn rhan o fusnes teuluol yn rhentu eiddo, ac wedi gwneud cytundeb gyda dyn o’r enw Mr Ferraiulo. Y cytundeb oedd bod Ferraiulo naill ai yn gosod neu reoli tri llawr mewn ty oedd piau’r teulu Bajaj. Mewn eiddo arall, y trefniant oedd ei fod yn canfod tenantiaid ac yna’n anfon y rhenti ymlaen i’r teulu Bajaj, ac yn derbyn tal iddo’i hun yr un pryd.

Gwnaeh Mr Ferraiulo newidiadau sylweddol i’r tai, heb dderbyn hawl i wneud hynny. Cododd barwydydd i greu mwy o ystafelloedd, gyda’r canlyniad o orlenwi dybryd.Canfuwyd ugain o bobl yn byw yn y ty, lle mai wyth oedd y cyfanswm cyfreithiol, ac roedd gwaith trwsio sylweddol angen ei wneud, ynghyd a diffygion eraill.

Yn y treial canfu’r Barnwr Rhanbarth bod Bajaj yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd yn un ty. Ac o ganlyniad, disgwyliai hi y byddai wedi cadw llygad barcud ar y ty arall. Gwrthododd dderbyn amddiffyniad Bajaj, gan ddweud ei fod wedi anwybyddu’r sefyllfa, a bod yn fodlon iawn derbyn y rhenti.

Yna trosglwyddwyd yr achos i Lys y Goron er mwyn trafod atafaelu. Nid gofyn am orchymyn am gyfanswm y rhenti dderbyniwyd wnaeth yr awdurdod lleol, ond yn hytrach am atafaelu’r arian fyddai Bajaj wedi ei arbed trwy beidio darparu cartref addas a chyfreithlon i’r deuddeg, os nad i’r ugain o bobl ganfuwyd yn yr eiddo. Y swm arbedwyd oedd yn cynrychioli’r elw ariannol enillodd. Disgrifwyd y sefyllfa fel un gymhleth iawn,ac anuniongyrchol. Gwnaed popeth yn fwy cymhleth fyth pan awgrymodd yr erlyniad wahanol syniadau ar sut y gallai greu lle arall diogel i’r tenantiaid fyw—er enghraifft, codi estyniad,neu brynu neu godi ty newydd, neu rentu un ar brydles.

Cododd problem arall oherwydd geiriad y cytundebau, yn golygu mai unwaith y digwyddodd y drosedd.Cyfeirodd y Llys Apel at ddadleuon gyflwynwyd i’r barnwr, dadleuon nad oeddent yn canolbwyntio ar y mater dan sylw. Dyfarnodd y barnwr na ellid cyfri’r arbedion honedig yn elw. Roedd yr erlyniad wedi cyfeirio at yr arbedion fel yr arian arbedwyd “trwy beidio ufuddhau i’w ddyletswydd”. Roedd gan y barnwr “gryn amheuaeth”ynglyn a’r “dyletswydd” i roi lloches i denantiaid mewn ty oedd yn cyrraedd safon arbennig, fel achos fyddai’n arwain at achos troseddol. Yn dilyn y dyfarniad hwn, cytunodd y ddau barti mai £20 ddylai swm yr elw fod, ar gyfer y gorchymyn atafaelu; a‘r £20 yn cynrychioli gwerth rhenti am un diwrnod.

Roedd gan y Llys Apel nifer o gwestiynau:

  1. .Roedd rhai agweddau o ddadleuon yr erlyniad yn mynegi y dylai pobl fel Bajaj, oedd yn ddyn a digon o fodd ganddo, gael eu cosbi’n llym iawn am ganiatau gorlenwi o’r fath. Dyna yw amcan y gosb, ac ni ddylai hynny fod yn rhan o’r broses atafaelu.
  2. Pam na ddeliwyd a’r achos dan ddeddfwriaeth cynllunio? Pe byddai gorchymyn gorfodaeth wedi ei roi, a chymryd yn ganiataol nad oedd caniatad cynnlunio, gallesid bod wedi ymdrin ag achos Bajaj dan Adran 179 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a hynny’n golygu, ar ol yr achos, gallai’r achos atafaelu fod wedi ei ymestyn i gyfanswm yr holl renti dderbyniwyd, yn cynnwys rhenti’r wyth tenant oedd yn byw yno yn gyfreithlon.
  3. “Y ffordd ryfedd” ceiswyd cyflwyno’r elw.

Gwrthodwyd cais Bajaj am ganiatad i fynd i apel. Roedd hyn yn anfoddhaol ym marn y Llys Apel,ond roedd yn amhosibl iddynt hwy gywiro’r drafft anghywir, na chwaith ganiatau trafod yr elw mewn ffordd artiffisial, yn hytrach nag yn y ffordd gywir, yn unig er mwyn dangos eu bod yn anghymeradwyo’r ymddygiad.

Dywedodd y Llys hefyd dylai’r dyfarniad hwn fod yn rhybudd i unrhyw awdurdod lleol sydd yn bwriadu dwyn achos atafaelu, yn enwedig yn y ffordd yr aed ati yng nghyd-destun yr achos hwn.Dylent fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau posibl. Mae’r achos hefyd yn fodd o atgoffa am yr angen i ddrafftio cyhuddiadau perthnasol yn y ffordd gywir; ac mae’n rhybudd o’r hyn all ddigwydd os na wneir hynny.

Sut gallwn helpu?

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos chi, cysylltwch a Carys Parry, os gwelwch yn dda,Carys Parry ar carys@strainandco.co.uk neu 01758 455 500

[Image credit: ” “Money on my mind” by jo.sau is licensed under CC BY 2.0”)

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.