14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae’r syniad o gyfyngiad cyflymder yn creu dryswch a llawer yn credu mai’r cyfyngiad yw’r cyflymder lleiaf y dylech ei wneud fel arfer wrth yrru.
Cafodd y rhan fwyaf ohonom y profiad o yrrwr car blin tu ol i ni os cadwn o fewn cyfyngiad, ac os awn dan y cyfyngiad hwnnw, mae’r gyrrwr tu ol yn mynd yn wallgo.
Ond mewn gwirionedd, mae cysylltiad bob amser rhwng cyflymder a’r amodau sydd yn bodoli. Felly rhaid ystyried pa mor olau yw hi, cyflwr y ffordd a rhediad traffig a.y.y.b., ond gan gadw llygad ar y cyfyngiad cyflymder yn yr ardal yr un pryd.
Ond i ba raddau gorfodir y cyfyngiadau hyn?
Cyhoeddwyd ymchwil yn ddiweddar yng nghylchgrawn Auto Express yn dangos bod y rhan fwyaf o awdurdodau heddlu yn gweithredu polisi 10% +2; felly os mai 40 milltir yr awr yw’r cyfyngiad, ni fydd cosb benodedig nac erlyn onibai bod y cyflymder yn uwch na 46 milltir yr awr. Ond yn ddiddorol iawn, gwrthodai rhai awdurdodau gadarnhau eu polisi, yn eu mysg Manceinion a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Polisi Swydd Gaerhirfryn a’r Heddlu Metropolitan yw 10%+3. Nid yw Swydd Essex yn caniatau unrhyw ostyngiad, a gwrthododd amryw o heddluoedd eraill drafod y mater.
Hyd yn oed os caniateir lwfans, mae’n dal yn bosibl i’r heddlu erlid os dymunant. Felly cadw at y cyfyngiad cyflymder yw’r peth diogel i’w wneud onibai bod gennych wybodaeth eang o’r holl bolisiau cyflymder cyfredol ar flaenau’ch bysedd tra’n gyrru!
Yn ogystal ag ymchwilio i’r polisiau hyn, datgelodd yr ymchwiliad hefyd bod clociau cyflymder cerbydau yn debygol o ddangos 1 neu 2 filltir yr awr yn uwch na’r gwir gyflymder a wneir ar y pryd.Dyma beth arall all fod yn fanteisiol i chi ar adegau pan nad ydych wedi sylwi’n fanwl ar y cyflymder y dylech fod yn ei wneud.
O safbwynt cyfraith droseddol mae gor-yrru’n aml yn isel ar y rhestr o’i gymharu a throseddau eraill. Er mai cymharol fach yw’r gosb, buan iawn cyfyd nifer y pwyntiau cosb i 12, a’r perygl o waharddiad rhag gyrru yn digwydd i lawer.(Gall rhai gyrrwyr newydd golli eu trwydded ar ol cael 6 o bwyntiau cosb).Canlyniad gor-yrru ar gyflymder sydd ymhell dros y cyfyngiad yw cael eich gwahardd yn y fan a’r lle, neu eich cyhuddo o drosedd mwy difrifol fel gyrru’n beryglus.
Wrth drafod y troseddau mwy difrifol, yn enwedig achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal neu’n beryglus, gwelir yr erlyniad yn canolbwyntio’n aml ar y gor-yrru. Gall rhywbeth mor syml a brysio adref mewn pryd i wylio gem beldroed droi’n drasiedi anfwriadol i bawb.
Sut gallwn helpu?
Os oes arnoch angen cyngor arbenigol cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500, a gadewch i ni helpu.’RYdym yn ddyddiol yn ymdrin a throseddau gyrru a thraffig y ffyrdd, ac mae gennym yr arbenigedd i gael y canlyniad gorau posibl i chi.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.