14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae dyn yn cerdded i mewn i siop fetio neu’n defnyddio gwefan gamblo,ac yn rhoi bet o £100 ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol. Dri diwrnod yn ddiweddarach mae’r Prif Weinidog yn enwi’r dyddiad,ac mae’r dyn yn ennill ei fet.
Ar yr olwg gyntaf,nid yw hyn yn beth rhyfedd, gan fod pobl yn betio ar bob math o bethau, fel pwy fydd yn sgorio’r gol gyntaf,neu fydd hi’n bwrw eira diwrnod Nadolig.
Ond y gamblwr oedd dyn o’r enw Craig Williams,oedd yn digwydd bod yn uwch-gynghorwr I’r Prif Weinidog,ac sydd ar hyn o bryd yn sefyll fel ymgeisydd Toriaidd mewn ymgais i gael ei ethol i’r llywodraeth.
Gwrthododd Mr Williams ateb cwestiynau ynglyn ag oedd ganddo unrhyw wybodaeth gyfrinachol pan wnaeth y bet.
Dywedodd:”Ni fyddaf yn ymhelaethu ar fy natganiad oherwydd ei fod yn broses annibynnol.Mae’r Comisiwn Gamblo yn ymchwilio I’r mater ar hyn o bryd.”
Disgrifiodd y Prif Weinidog y newyddion am y bet “yn beth siomedig iawn”,ond daliai i wrthod dweud a wyddai Mr Williams am ddyddiad yr etholiad pan wnaeth y bet,gan ddweud byddai hynny’n anaddas tra roedd ymchwiliad y Comisiwn Gamblo yn parhau.
Os oes gan unrhywun wybodaeth gyfrinachol,ac yn defnyddio hynny er mwyn ennill bet,a yw’n bosibl ei fod yn euog o drosedd?
Trosedd twyllo
Yn ol Adran 42 Deddf Gamblo 2005, mae twyll wrth gamblo yn drosedd.
Gweithred anonest fwriadol yw twyllo,er mwyn creu anfantais i hawl personol unigolyn arall,ac,yng nghyd-destun gamblo,mae’n difetha’r elfen o siawns. Dyma sylwadau’r llys mewn achos diweddar o flaen yr Uchaf Lys ynglyn a’r gem casino Punto Banco:
”Gem o siawns llwyr yw elfen hanfodol Punto Banco,a’r cardiau’n cael eu rhannu ar hap,heb yn wybod i’r gamblwyr na’r ty.Yr hyn wnaeth Mr Ivey oedd gosod allan a chyflawni gweithred gynlluniwyd yn ofalus.Y ffactor allweddol oedd gosod y gwahanol baciau o gardiau yn y “shoe”a’u gosod mewn gwahanol ffyrdd fel bod y gamblwr arbennig hwn yn gwybod oedd y cerdyn nesaf yn uchel neu’n isel ei werth.Petai wedi medru agor y “shoe”yn llechwraidd ac ail-osod y cardiau ei hun,ni fuasai unrhyw un wedi ei amau o dwyll.Cafwyd yr un canlyniad yn union trwy’r hyn wnaeth y crwpier yn ddiarwybod,ond yn dilyn y cyfarwyddiadau.Cyn gynted ag y daeth datganiad am y penderfyniad i newid y cardiau,gan adfer y chwarae i hap-chwarae fel sydd i fod,cuddiodd ei weithred i ddechrau trwy wneud cais ar i’r cardiau gael eu pasio o gwmpas ar hap,ac yna rhoddodd y gorau i chwarae.Hwyrach na fyddai wedi bod yn dwyll petae chwaraewr wedi sylwi bod cefn rhai cardiau yn amlwg yn wahanol i’r lleill,ac wedi manteisio ar hynny,ond roedd Mr Ivey wedi gwneud llawer mwy na sylwi;roedd wedi cymryd camau positif i drefnu’r pecynnau ymlaen llaw.Mewn gem sydd yn ddibynnol ar rannu cardiau cudd ar hap, mae’n sicr mae twyll oedd hyn.”
Felly nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl nad yw dyn, sydd a gwybodaeth fewnol o ddyddiad etholiad cyffredinol, ac yna’n gosod bet,mewn perygl o gael ei erlyn.
Dwy flynedd o garchar yw uchafswm y gosb am y drosedd.
Sut gallwn helpu?
Sicrhawn fod yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newidiadau yn y ddeddfwrieth a chyfraith achosion,er mwyn gallu cynnig y cyngor gorau posibl i chi. Os hoffech drafod unrhyw beth am eich achos personol chi, cysylltwch,os gwelwch yn dda, gyda Michael Strain, ar 01758 455 500, neu office@strainandco.co.uk
Image credit: “gambling” by Joelk75 is licensed under CC BY 2.0.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.