14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Yr wythnos ddiwethaf rhoddodd Barnwr Rhanbarth yn Llys Ynadon Westminster hawl i roi gwys i Boris Johnson, yr aelod seneddol toriaidd amlwg. Mae’r honiadau’n ymwneud a’i ymddygiad yn ystod ymgyrch refferendwm Brexit, ac yn arbennig y slogan oedd yn addurno ochrau bysus yr ymgyrch yn addo £350m yr wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd. Onibai bod camau eraill i atal yr erlyniad, bydd rhaid i Johnson ymddangos gerbron y llys i ateb y cyhuddiadau a wynebu treial yn Llys y Goron. Wel, pa wahaniaeth?
Yr hyn sydd yn anarferol yw mai erlyniad preifat yw hwn, wedi ei ariannu gan nifer o unigolion cefnogol i’r erlyn. A yw hyn mor anarferol?
Yng Nghymru a Lloegr, Gwasanaeth Erlyn y Goron sydd yn erlyn ran amlaf. Mae nifer fawr o gyrff cyhoeddus hefyd yn erlyn achosion yn rheolaidd yn y llysoedd, fel arfer cyrff o natur arbenigol, fel Asiantaeth yr Amgylchedd, Y Swyddfa Twyll Difrifol, Awdurdodau Lleol, Awdurdod Hedfan Sifil a.y.y.b. Mae nifer fach iawn o fudiadau adnabyddus yn erlyn yn breifat yn rheolaidd; yr un mwyaf nodedig yw’r R.S.P.C.A.yn ymdrin ag achosion o greulondeb honedig i anifeiliaid.Ond mae’n bur anarferol i unigolion preifat erlyn achosion. Oes caniatad i’r math yma o erlyniadau bob amser?
Yn eithaf diweddar, mae’r Goruchaf Lys wedi atgoffa bod gan ddinasyddion preifat hawl cyfansoddiadol i erlyn troseddau honedig yn y llysoedd. Mae rhai cwmniau ac unigolion yn troi at erlyn preifat pan deimlant nad yw’r Wladwriaeth wedi gweithredu. Mae sawl ffordd o atal erlyniad allai fod yn annymunol:
Er bod y mesurau hyn ar gael i amddiffyn, mae pethau eraill yn achosi pryder, ac ‘rydym yn arbennig o wyliadwrus i sicrhau bod hawliau’r diffynydd yn cael eu gwarchod, os mai rhywun preifat sydd yn erlyn, yn enwedig o safbwynt dadlennu gwybodaeth ac arferion erlyn teg. Byddwn yn sicr o geisio ad-daliad costau llawn ar ran cleient, os na ddylid bod wedi dwyn yr achos gerbron yn y lle cyntaf. Am gyngor arbennigol cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 a gadewch i ni helpu. ‘Rydym yn ymdrin yn ddyddiol a phob math o droseddau ac mae gennym yr arbenigedd i gael y canlyniad gorau posibl i chi.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.