STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Drylliau Tanio

Gynnau pwerus, ymgynghoriad cyfraith cymru, saethu, reiffl aer

Dyddiad: 2020-11-27

Cychwynwyd ymgynghoriad ynglyn a drylliau tanio yr wythnos hon, i ganfod beh yw’r farn am gynyddu safon diogelwch ar gyfer reifflau pwerus, a chyflwyno rheolau trwyddedu i glybiau saethu bychain, a rheolau llymach ar ffrwydron.

Pam cynnal ymgynghoriad?

Bu newid eisoes i ddeddfwriaeth drylliau tanio yn y blynyddoedd diwethaf, megis troseddau newydd i osgoi addasu gynnau tanio ffug, a gwerthu gynnau heb offer tanio.Cyhoeddodd y llywodraeth hefyd byddant yn cryfhau’r rheolau fwy fyth trwy wneud defnydd mwy effeithiol o wybodaeth feddygol wrth wneud penderfyniadau trwyddedu.Ond yn ystod tradodaethau cyn pasio Deddf Arfau Bygythiol 2019, gofynwyd nifer o gwestiynau i’r llywodraeth ynglyn a diogelwch llawer o ddrylliau tanio. Ymgais yw’r cynigion i leihau’r peryglon fynegwyd.

Pa newidiadau gynygir?

A. Gynnau pwerus (high energy muzzle). Ar y cychwyn roedd Deddf Arfau Bygythiol yn cynnwys mesurau i wahardd bod yn berchennog ar y gynnau hyn.Tynnwyd y gwaharddiad o’r Ddeddf gan nad oedd tystiolaeth o’u defnydd mewn troseddau, a’i fod felly’n ddiangen.Mae’r drafodaeth yn ceisio canfod y farn ar faint mwy o ddiogelwch fyddai’n lleihau’r risg i’r arfau hyn gael eu dwyn neu eu camddefnyddio. Tybed yw’r diogelwch lefel 3 yn Llawlyfr Diogelwch Gynnau Tanio yn ddigon (dyma’r lefel uchaf ar hyn o bryd), neu oes angen mwy fyth o fesurau diogelwch.

Dyma’r amodau ychwanegol roi’r ger bron:

  1. Gosod caeadau a griliau ar bob drws a ffenestr.
  2. Gosod camerau cylch cyfyng.
  3. Gosod larwm braw yn lle cedwir y gwn.
  4. Gosod larwm braw pan ddefnyddir y gwn ar faes tanio.
  5. Cadw’r bollt, neu unrhyw ddarn peryglus arall ar wahan.
  6. Aelodau eraill o’r clwb saethu lle mae perchennog y gwn yn aelod i ofalu am ddarnau peryglus ar ran y naill a’r llall.
  7. Cadw ffrwydron mewn cwpwrdd ar wahan i’r gwn.

B.Gynnau awyr – arfau sydd yn saethu taflegrau yn cynnwys nwyon neu aer.Nid yw’r mwyafrif wedi eu trwyddedu, ond rheolir hwy gan reoliadau gynnau tanio er mwyn arbed camddefnydd. Mae’r cynigion yn ymwneud a pherchnogaeth gan rai dan 18 oed, a sicrhau bod y gynnau’n cael eu cadw mewn lle diogel dan glo.Mewn adolygiad gan y llywodraeth, canfuwyd llawer mwy o gamddefnydd ohonynt pan mae nhw gan bobl ifanc. Dyna’r rheswm am dargedu perchnogaeth gan rai dan 18 oed fel dosbarth risg allweddol.Dyma’r cynigion:

  1. Dileu’r eithriad sydd yn caniatau i rai sydd o leiaf yn 14 oed i gael gynnau awyr ar eiddo preifat heb oruchwyliaeth.
  2. Cryfhau a gwneud yn fwy eglur y drosedd o beidio cymryd “gofal rhesymol”. Byddai hyn yn cynnwys cloi’r gwn o’r golwg pan nad yw’n cael ei ddefnyddio; a chadw ffrwydron ar wahan pan fo rhai dan 18 oed yn bresennol. 3.Sicrhau bod offer diogelwch yn y cartref yn cael eu rhoi gyda phob gwn awyr newydd, ac i werthwyr egluro i’r prynwyr bwysigrwydd eu trin a’u cadw’n ddiogel.

C. Meysydd tanio bach.Nid oes angen trwydded gynnau i redeg meysydd bychain lle defnyddir reifflau a gynnau awyr calibr bychan. Ac nid oes angen trwydded ar aelodau o’r cyhoedd sydd yn defnyddio’r maes.Y cynnig allweddol yw i unrhyw un sydd eisiau rhedeg maes tanio bychan gael tystysgrif gynnau tanio, a mynd drwy’r profion angenrheidiol gyda’r heddlu. Bydd deddfwriaeth yn nodi mai gynnau .22 yn unig sydd yn ynnau bychain.

CH. Ffrwydron. Mynegwyd pryder ei bod yn rhy hawdd cael gafael ar wahanol rannau o ffrwydron, fel ei bod yn bosibl gwneud rownd gyfan ohonynt yn anghyfreithlon. Gwahoddir pobl i roi eu barn a yw’r rheoliadau ar rannau o ffrwydron yn ddigonol, neu ddylai bod yn berchen arnynt gyda’r bwriad o gynhyrchu rowndiau cyfan o ffrwydron heb ganiatad, fod yn drosedd ar wahan.

Sut gallwn helpu?

Os hoffech drafod unrhyw beth ynglyn a’ch achos, cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 neu michael@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.