14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae’r erthygl yn trafod dronau a’r fframwaith gyfreithiol sydd yn rheoli’r defnydd ohonynt.
Beth yw dron?
Mae dron yn golygu unrhyw wrthrych y gellir ei hedfan yn ddi~beilot. Gallant amrywio o wrthrychau technolegol wedi eu harfogi a ddefnyddir mewn ymgyrchoedd milwrol I declynau llai y gall aelod o’r cyhoedd eu prynu.Canolbwyntir ar y math olaf yma yn yr erthygl hon.Gellir rheoli’r teclynnau hyn o bell neu gellir eu cysylltu a chamera I roi llunau byw i’r sawl sydd yn eu rheoli..Maent yn addas at amcanion addysgol, proffesiynol a hamdden. Mae amrywiol fodelau ar gael yn amrywio mewn maint, cyflymder,cyrhaeddiad a phris. Pryd mae dronau yn creu problemau?
Maent yn creu problemau pan ymyrrant a gwrthrychau eraill sydd yn defnyddio’r un gofod yn yr awyr.Gallant fod yn broblem i awyrennau milwrol a sifil..Er mai cymharol fychan ydynt, gall gwrthdrawiad achosi canlyniadau difrifol iawn.Mae digwyddiadau o’r fath yn fwy tebygol os yw dronau yn cael eu hedfan yn rhy uchel neu yn rhy agos i safleoedd ble mae awyren yn codi a glanio yn aml
Beth yw’r rheolau?
Os ydych wedi prynu dron i’ch defnydd personol, mae gennych gyfrifoldebau ynglyn a’r defnydd ohono.Gallwch gael eich erlid am dorri’r rheolau hyn. Cynghorir chi I gyfeirio at Ddeddf Llywio Awyrennau (Air Navigation) yr Awdurdod Hedfan Sifil 2016, yn benodol Erthyglau 94,95 a 241.Gallwch lawr~lwytho y <Cod Dron> oddiar wefan. dronesafe.uk.Rhaid deall eich dyletswyddau hanfodol fel perchennog dron, a llawer o’r rhain yn synnwyr cyffredin:
1.Gwybod sut I hedfan y dron yn ddiogel, a gwneud hynny o fewn y gyfraith.
Deall fod y sawl sydd yn ei hedfan yn gyfrifol o fewn y gyfraith am bob hediad.
Gofalu eich bod yn gallu gweld y dron -trwy’r amser ; aros o dan 400 troedfedd.
5.Peidio byth a hedfan o fewn 50 llath I berson, cerbyd neu adeilad nad yw dan eich rheolaeth chi.
6.Sicrhau nad yw unrhyw luniau a gewch wrth ddefnyddio’r dron yn torri rheolau preifatrwydd.
Os torrwch y rheolau, gallech fygwth bywydau a hefyd wynebu cael eich erlyn,ac mewn rhai achosion carchar neu ddirwy sylweddol.
A oes rheolau ychwanegol wrth hedfan dronau I ddibenion masnachol?
Os oes angen defnyddio dron I ddibenion masnachol,er enghraifft fel gwerthwr eiddo I dynnu lluniau o’r awyr o eiddo ar werth,rhaid cael caniatad yr Awdurdod Hedfan Sifil. Disgwylir I chi hefyd ddilyn cwrs awdurdodedig fydd yn profi’ch gwybodaeth a’ch meistrolaeth o dronau.
Beth am ddefnydd milwrol dronau?
Rheoli’r defnyddio dron i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gan Awdurdod Hedfan Milwrol Mae’r amodau yma yn cynnwys ymchwiliadau a wneir o uchder, ffotograffiaeth a gweithgareddau amlgyfryngol,a dylid edrych ar Erthyglau Rheoleiddio 1600,2320 a 2321 am y gofynion penodol.
I Grynhoi: Felly gall dron fod yn fodd I gael hwyl ac hefyd yn ddefnyddiol, ond mae cryn dipyn o gyfrifoldebau ynghlwm a hwy.Os dilynwch y canllawiau a nodir uchod,byddwch yn llawer llai tebygol o dorri’r amodau sydd yn rheoleiddio’r dechnoleg newydd gyffrous hon.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.