14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae Calan Gaeaf a Noson Tan Gwyllt drosodd, a nosweithiau tywyll gaeafol wedi cyrraedd; bydd y Nadolig yma cyn bo hir, a thymor partion yn dechrau.Heb amheuaeth dyma’r union adeg bydd ymgyrch yr heddlu cenedlaethol ynglyn ag yfed a gyrru yn digwydd, pan fydd heddluoedd ar draws y wlad yn paratoi i gynyddu’r nifer o bobl gaiff eu profi a’u harestio am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Hwyrach nad yw’r troseddau hyn yn ymddangos yn rhai difrifol iawn o’u cymharu a throseddau eraill, ond yn aml nid ydym yn sylweddoli gwir effaith y ddedfryd. Dengys ymchwil bod colli trwydded yn arwain mewn llawer achos i golli swydd, a hynny yn ei dro i golli cartref am nad yw biliau yn cael eu talu, a weithiau gall chwalu perthynas Bydd y costau ariannol i’w teimlo am flynyddoedd gan bydd cynnydd mawr yn y taliadau yswiriant. Gwelwn lawer o bobl o flaen y llys gyda lefel alcohol gweddol isel, a’r troseddau wedi eu canfod (y bore wedyn), troseddau gyflawnwyd hwyrach o ganlyniad i anwybodaeth yn hytrach na difaterwch.Gall un camsyniad o’r fath gael canlyniadau difrifol iawn.
Beth yw’r lefel ddiogel o alcohol, os wyf yn bwriadu gyrru?
Y lefel mwyaf diogel yw dim, gan mai dyma sydd yn sicrhau na fydd dim byd o gwbl i amharu ar eich gallu i adweithio i unrhyw sefyllfa pan fyddwch yn gyrru cerbyd.Mae’n hanfodol cadw at y rheol yma i atal y damcaniaethu sydd yn aml yn arwain at gymaint o bobl yn ymddangos o flaen y llys.
Mae wedi ei brofi ers talwm bod y gred boblogaidd bod (2 beint yn iawn) yn anghywir; fel y dyfalu faint o amser mae’n gymryd I alcohol fynd o’r corff.
Mae gwahanol bobl yn ymateb yn wahanol i alcohol,ac nid yw unigolyn hyd yn oed yn ymateb yr un fath bob tro gan fod yr effaith yn dibynnu ar nifer fawr o ffactorau. Ni allwch ddibynnu ar y ffaith syml eich bod yn teimlo’n iawn i yrru er mwyn profi eich bod dan y lefel gyfreithiol neu beidio.
Wrth ddechrau teimlo’n feddw a mynd i hwyl, hawdd iawn gwneud penderfyniadau ffol fydd yn arwain at ganlyniadau costus, nid yn unig yn ariannol,ond o safbwynt anafiadau a hyd yn oed golli bywydau.
Nid yn aml y clywch gyfreithiwr yn dweud hyn–ond nid ydym yn dymuno eich gweld y Nadolig yma! Arhoswch i feddwl cyn yfed a gyrru.
Sut gallwn ni helpu?
Os byddwch mewn trafferthion, mae llawer y medrwn ei wneud I helpu.
Rhaid i’r heddlu ddilyn trefn gymhleth cyn gallu dwyn achos yn eich erbyn–gallwn ni sicrhau fod y drefn yma wedi ei dilyn yn gywir.
Gallwn hefyd ymchwilio I broblemau fel (alcohol wedi ei ychwanegu I ddiod) yn ddiarwybod I chi, a (rhesymau arbennig) eraill.
Gall datganiad lliniarol wedi ei gyflwyno;n dda wneud gwahaniaeth mawr i’r canlyniad, a hyd yn oed , pan na ellir osgoi colli trwydded, gallwn yn aml sicrhau cyfnod llai o waharddiad.
Cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 I drafod unrhyw faterion yn ymwneud a gyrru.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.