14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ddydd Sul Mehefin 7fed dymchwelodd protestwyr gerflun Edward Colston ym Mryste, a’i daflu i’r harbwr lleol. Bu’r cerflun yno ers 125 o flynyddoedd, ond bu galw am ei dynnu i lawr o’r blaen, trwy ddeiseb gyda dros 10,000 o enwau, oherwydd cysylltiad agos Colston a’r fasnach caethweision.
Dyma sylw wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref:” Mae fandaliaeth llwyr ac anhrefn yn hollol annerbyniol, a dylai’r heddlu ymdrin a’r mater a sicrhau cyfiawnder.” Ond ym marn Maer Bryste:”Credaf bod hyn yn gyfle anhygoel i gael trafodaeth, a phenderfynu beth, yn ein tyb ni, ddylai gael ei roi ar blinth yn y ddinas, i ddangos pwy ydym.Ac nid yn unig pwy ydym, ond pwy hoffem fod, a defnyddio hynny fel man i ddathlu rhywbeth amdanom ein hunain, gyda’r pwyslais ar y gorau ynom.Hoffwn i gael trafodaeth yn y ddinas yn y dyfodol. Yn y cyfamser mae’n debyg bydd cerflun Colston yn cael ei osod yn un o’n amgueddfeydd.”
A gyflawnwyd trosedd?
Ymddengys mai eiddo Dinas Bryste yw’r cerflun, a chymryd bod hynny’n wir, rhaid gweithredu’r Ddeddf Difrod Troseddol 1971.Anodd gweld unrhyw amddiffyniad synhwyrol i’r cyhuddiad;(gweler Kelleher [2003]EWCA Crim 3525).Bydd ei werth yn llawer mwy na phum mil o bunnoedd, ac felly bydd y drosedd yn wynebu’r gosb fwyaf, sef carchar am hyd at 10 mlynedd.Yn ychwanegol gallai hawl am iawndal wynebu unrhyw un geir yn euog, er mwyn trwsio unrhyw ddifrod.
Tra bydd llawer o bobl yn cwestiynu pam bod y cerflun yn dal yn ei le o ystyried maeddu enw da Colston, mae’r llysoedd yn debygol o anghymeradwyo gweithredoedd y protestwyr, a cheisio rhybuddio rhag cyflawni mwy o weithredoedd tebyg, yn arbennig oherwydd bod yna gannoedd, os nad miloedd, o gerfluniau tebyg mewn safleoedd cyhoeddus.Mae’n debygol mai’r elfen hanfodol wrth ddyfarnu fydd atal troseddau o’r fath.
Yn 2003, dedfrydwyd Paul Kelleher ar ol iddo ddifroddi cerflun o’r cyn-brifweinidog, Margaret Thatcher.Recordiwyd y ffeithiau canlynol gan y llys:”Ar Orffennaf 3ydd 2002 aeth ar ymweliad a Galeri’r Guildhall lle mae casgliad celfyddydol Corfforaeth Llundain, wedi ei arfogi a bat criced, a’i fwriad oedd torri pen cerflun y Fonesig Thatcher.Roedd y cerflun ar fenthyg ar y pryd o’r Ty Cyffredin.Ni lwyddodd gyda’r bat criced ac felly cydiodd Mr Kelleher mewn bar metel oedd yn dal y gordres o gwmpas y cerflun, a gyda hwnnw llwyddodd i gyflawni ei fwriad. Deallwn nad oes modd trwsio’r cerflun, ac y byddai’n costio cant a hanner o filoedd i wneud un arall yn ei le.”Cafodd Kelleher ddedfryd o 3 mis o garchar, ond ni fu trafod unrhyw apel (yn groes i’r gollfarn), ac felly ni wyddom beth oedd barn y Llys Apel am y ddedfryd. Ar y pryd, credai llawer o sylwebyddion bod y ddedfryd yn rhy drugarog.
O ddilyn canllawiau dedfrydu presennol, gallwn weld bod graddfa euogrwydd yn uchel yn yr achos hwn ( llawer o gynllunio, meddwl ymlaen llaw gyda’r bwriad o greu difrod difrifol i eiddo), ac mae’n bosibl bod y drosedd yn y categori uchaf o greu niwed;( effaith economaidd neu gymdeithasol difrifol o ganlyniad i’r drosedd).A chaniatau y gellir cael dadl lwyddiannus ar y pwynt olaf, mae’r ddedfryd yn debygol o fod yn 6 mis o garchar o leiaf, felly yn fwy nag a gafodd Kelleher, ond nid yn sylweddol fwy.Mae unrhyw un geir yn euog o’r drosedd hon, felly, mewn perygl o gael ei garcharu, heb unrhyw sicrwydd o ddedfryd ataliedig.
Sut gallwn helpu?
Cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455500 am gyngor arbenigol. Gallwn roi cyngor ar bledio ac amddiffyn, a’r dedfrydau posibl mewn ystod eang o amgylchiadau.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.