14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae’n eithaf arferol cyfarfod pobl sydd dan amheuaeth a diffynyddion yn teimlo’n ddig iawn o gael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol.Weithiau ymleda’r dicter hwnnw i’r byd cyhoeddus, ac mae cyfryngau cymdeithasol megis Gweplyfr a Thrydar, sydd o fewn gafael pawb mor hawdd, yn gallu bod yn ffordd rhy gyfleus o lawer i fynegi rhwystredigaeth.Os oes yn yr hyn fynegir unrhyw awgrym o gwyn am yr achwynydd, gall hyn gael ôl-effeithiau os daw cyhuddiad. Felly peth doeth fel arfer i unigolion gyhuddir, ac i’w teulu a ffrindiau agos, yw cadw’n dawel, waeth pa mor anodd yw hynny.
Cythruddwyd y Llys Apêl gan y cyn-gyflwynydd teledu, Stuart Hall, oherwydd yr hyn ddywedodd mewn datganiad cyhoeddus. Cyfeiriodd at yr honiadau yn ei erbyn fel rhai “ niweidiol, dideimlad, creulon, ac yn fwy na dim yn honiadau ffug.”
Dyma sylwadau’r llys:”Waeth pa gyngor roddwyd i’r troseddwr, gwyddai ef y gwir. Gwyddai ei fod yn euog o folestu’r achwynyddion. Mae dweud anwiredd yn fwriadol yn dwysau’r achos yn ddifrifol.68. Roedd y troseddwr yn arbenigo yn nulliau’r cyfryngau, ac yn hollol ymwybodol o’r manteision posibl o ganlyniad i’w camddefnyddio.Y pryd hwnnw gobeithiai osgoi cyfiawnder, ac, yn ein tyb ni, defnyddio’r cyfryngau er mwyn dylanwadu o bosibl ar rai fuasai hwyrach yn aelodau o’r rheithgor.Beth bynnag fu, neu na fu’r dylanwad ar unrhyw reithiwr, gwyddom yn iawn yr effaith ar rai o’r dioddefwyr. Disgrifiad un ddioddefwraig oedd iddi wylltio’n gandryll o wrando ar ei eiriau ffrwydrol a’i gelwyddau noeth. Ac mae ymateb tebyg gan ddioddefwr arall.”
Yn achos Max Clifford siaradodd yn gyhoeddus nifer o weithiau i ddatgan ei fod yn ddieuog, dyma sylwadau’r llys:” Wrth roi ei ddedfryd, cyfeiriodd y barnwr at ymddygiad y diffynydd ac effaith rhai o’r agweddau hynny ar y dioddefwyr.Roedd hyn wedi creu gofid iddynt. Dywedodd y barnwr bod “ yr elfen ychwanegol o drawma” achoswyd gan “agwedd ddirmygus” y ceisydd,dan ystyriaeth wrth basio’r ddedfryd”.
Yn ei ddatganiad cyntaf hawliai Clifford ei fod yn ddieuog, ac adlewyrchwyd hyn yn ddiweddarach yn yr amddiffyniad, ond heb gyfeirio’n uniongyrchol at y dioddefwyr. Ail-adrodd ei fod yn ddieuog wnaed yn yr ail ddatganiad, ac yna mynd ymlaen i wneud cwyn chwyrn oherwydd hawl y dioddefwyr i aros yn ddi-enw.Unwaith eto tra’n ail-adrodd ei fod yn ddieuog, nid oedd yn lladd ar y dioddefwyr yn uniongyrchol.Mae’r cwynion am yr hawl i fod yn anhysbys yn rhan o’r broses droseddol, ac yn fater sydd yn achosi dadlau cyhoeddus o dro i dro; ac ar wahanol adegau yn ennyn gwahanol safbwyntiau yn y senedd.
Mae’n ddealladwy bod sylwadau o’r fath yn peri gofid i ddioddefwyr, er eu bod yn cael cyfiawnder yn y diwedd.Ond credwn y dylai llysoedd dyfarnu fod yn ofalus iawn nad ydynt yn cynyddu cosb oherwydd y gwadu, er mor ddyfal ydyw, onibai bod enllibio’r dioddefwyr yn fwy pendant.Wrth gwrs mae gan y llys berffaith hawl gwrthod unrhyw ystyriaethau lliniarol oherwydd hyn, ac am na ddangosodd y troseddwr unrhyw edifeirwch. Yn yr un modd, bydd troseddwr sydd yn herio’r achos yn colli’r credyd sylweddol am bledio’n euog.
Credwn bod y sylwadau hyn, o’u trafod yn gywir, yn sicr yn cyfiawnhau gwrthod lliniaru’r gosb, ond ni ddylid eu defnyddio fel ffordd sicr o ddwysau’r gosb chwaith”.
O ystyried y ddau achos, ymddengys mai ffin denau iawn sydd rhwng datganiadau allasai leihau lliniaru’r gosb, a datganiadau allasai’n hawdd iawn waethygu’r drosedd.Y naill ffordd a’r llall, gall fod pris uchel i’w dalu am wneud datganiadau cyhoeddus.Cyn gwneud hyn mae’n hanfodol cael cyngor cyfreithiol yn gyntaf. Rydym yn gyfarwydd iawn a’r hyn sydd o blaid ac yn erbyn cyhoeddi sefyllfa i’r byd; gallwn roi cyngor ar y ffordd orau i ymateb.
Sut gallwn helpu?
Gallwn roi cyngor ar bob agwedd o ymholiadau ac erlyniadau troseddol. Cysylltwch a Bethan Williams ar 01758 455 500 a gadewch i ni helpu os ydych angen cyngor arbenigol.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.