14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ym mis Mawrth caewyd bron i 50% o lysoedd, a rhoddwyd gorau i gynnal treialon o flaen rheithgor er mwyn lleihau’n sylweddol y cyswllt rhwng defnyddwyr y llys. Er bod 90% o lysoedd wedi ail-agor, mae llwyth o achosion yn aros i’w trafod.Cyhoeddodd y llywodraeth gyfres o fesurau newydd i fynd i’r afael a’r oedi presennol yn y llysoedd troseddau. Er byddai rhai cyfreithwyr yn dadlau bod oedi eisoes yn bodoli yn y system, mae’n amlwg i’r pandemig achosi sialensau pellach, yn cynnwys gallu Llys y Goron i gynnal treial gyda rheithgor ar gyfer pob diffynydd o fewn yr amser y gellir ei gadw yn y ddalfa.
Er bod 66 o’r 81 o lysoedd y Goron wedi ail-ddechrau cynnal treialon gerbron rheithgor erbyn diwedd Awst, mae cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol yn golygu na chyrhaeddir lefelau’r achosion cyn Cofid am gryn amser eto. Ers Ebrill 1af 2020 codi’n raddol wnaeth yr achosion lle roedd diffynydd wedi ei gadw dan glo, er rhoddwyd blaenoriaeth os oedd cyfyngiad amser ar ei gadwraeth.
Dechreuwyd defnyddio’r “Protocol Feirws Corona” ar ddechrau’r pandemig i sefydlu fframwaith dros dro i ymdrin yn effeithiol a chyflym gyda’r achosion oedd gyda chyfyngiad amser.Mae’r protocol fabwysiadwyd yn cydnabod bod y pandemig yn sefyllfa eithriadol, a bod gohirio treialon o ganlyniad i gyngor meddygol y llywodraeth a chyfarwyddiadau’r Arglwydd Brif Ustus yn reswm “da a digonol” i ohirio achosion gyda chyfyngiad i hyd yr amser cadw yn y ddalfa.Mesur tymor byr oedd diben y trefniant presennol o ymestyn cyfyngiad amser ar sail pob achos yn unigol, a bod angen ei adolygu yn ol maint effaith y pandemig ar waith y llysoedd, a’r posiblrwydd o gynnydd yn nifer yr achosion coronafeirws.
Cyfyngiadau cyfnod cadwraeth
Mae’n debyg mai’r peth pwysicaf o safbwynt cleient yw penderfynu ymestyn ei gyfnod cadwraeth, sef y cyfnod y gall gael ei gadw dan glo yn disgwyl am ei dreial.Gosodwyd y cyfyngiad rhag i ddiffynyddion gael eu cadw ar remand am gyfnod rhy hir cyn eu treial. Mae cyfyngiadau yn weithredol ar y diwrnod ar ol y tro cyntaf i’r cyhuddedig gael ei roi ar remand. Ar hyn o bryd, 182 diwrnod yw’r cyfyngiad ar gyfer troseddau difrifol. Cyhoeddodd deddfwriaeth dros dro bod hyn yn ymestyn i 238 diwrnod, sydd yn golygu 56 diwrnod neu 8 wythnos yn fwy,cyfanswm o 8 mis.Mewn rhai achosion cynyddir y cyfyngiad o 112 i 168 diwrnod, felly o 16 i 24 wythnos.(Ni ddigwydd hyn onibai bod bil ditiad gwirfoddol yn cael ei ffafrio, neu bod y Llys Apel wedi gorchymyn cynnal treial newydd.)Daw’r cyfyngiadau newydd i rym ar Fedi 28ain 2020, ond dim ond ar gyfer unigolyn fydd yn cael ei gadw am amser cyfyngedig ar, neu ar ol y dyddiad yma.Ni fwriedir i hwn fod yn fesur parhaol, a bydd yn dod i ben ymhen naw mis yn awtomatig.
Gall barnwr ymestyn cyfyngiad amser cadwraeth tu hwnt i’r dyddiadau hyn, ac,yn rhannol, pwrpas ychwanegu’r 8 wythnos at y cyfyngiad amser presennol yw i leihau’r perygl i farnwyr fod yn amharod i gydnabod Cofid-19 fel rheswm da i gadw pobl yn y ddalfa am gyfnod hir cyn cael treial.Mae’r newid yn cydnabod yr oedi pellach i restru achosion oherwydd Cofid. Bydd yn cynnig mwy o sicrwydd i ddioddefwyr ac i’r cyhoedd mewn achosion lle mae perygl i ddiffynydd ddianc neu gyflawni mwy o droseddau wrth gael ei ryddhau ar fechniaeth.
Cynllun cynhwysfawr
Cyhoeddwyd “cynllun cynhwysfawr” hefyd, gyda chronfa o 80 mil o bunnoedd i sicrhau mwy o le mewn llysoedd troseddau. Mae hyn yn cynnwys:
Cyflogi 1600 o weithwyr newydd i gefnogi mesurau adfer, megis mwy o lanhawyr.
Sefydlu llysoedd dros dro fel “llysoedd Nightingale”. Mae deg o’r llysoedd hyn eisoes yn gweithredu, a bwriedir agor wyth arall yn fuan.
Ehangu technoleg i ddefnyddio technoleg fideo pan fo hynny’n addas, er mwyn gwrando achosion o bell.
Gwneir newidiadau i gynllun llysoedd hefyd, er mwyn lleihau risg,er enghraifft gosod paneli plecsiglas i wahanu rheithwyr; bydd hyn yn caniatau defnyddio mwy o ystafelloedd llys.Bydd y rhwystrau hyn yn cael eu gosod mewn 160 ystafell llys, a 80 o ystafelloedd ymgynghori’r rheithwyr.
Trafod “oriau gwaith Cofid”. Mae’r llywodraeth yn ystyried cynyddu oriau gwaith y llys, yn golygu byddai modd i lysoedd agor am fwy o oriau na’r 10a.m.tan 4p.m. presennol, er mwyn gwneud mwy o ddefnydd o lysoedd. Mae cynllun peilot yn gweithredu ar hyn o bryd yn Llys y Goron, Lerpwl, gyda chynlluniau tebyg ar y gweill yn Hull, Stafford, Caerdydd, Reading, Portsmouth a Snaresbrook. Mae sesiwn y bore o 9 o’r gloch tan 1, a’r prynhawn o 2 tan 6 o’r gloch.
Yn ychwanegol, cyhoeddodd y llywodraeth bydd buddsoddiad o 142 o filoedd o bunnau ar draws y system llysoedd i foderneiddio ystafelloedd llys, a chyflymu gwelliannau technolegol.
Sut gallwn helpu?
Am gyngor arbenigol cysyllrwch a Carys Parry ar 01758 455 500. Gallwn roi cyngor ar bledio ac amddiffyn, ynghyd a rhoi gwybodaeth am y dedfrydau posibl mewn ystod eang o amgylchiadau.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.