14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Mae Deddf Cyfrinachau Swyddogol yn gwarchod y Deyrnas Gyfunol rhag ysbio. Mae’r ddeddfwriaeth yn dyddio’n ol i 1911,1920,1939 ac fe’i diweddarwyd ddiwethaf ym 1989. Ers hynny mae llawer o ddatblygiadau ym maes casglu data technolegol a chysylltiadau yn ymwneud a natur rhyddhau gwybodaeth ac ysbio diawdurdod. O ganlyniad mae Comisiwn y Gyfraith wedi paratoi adroddiad i’r Llywodraeth yn tynnu sylw at y ffaith bod y ddeddfwriaeth wedi dyddio, ac yn argymell ffyrdd i’w diweddaru i gwrdd a bygythiadau cyfoes.
Beth yw’r awgrymiadau?
IAITH: Mae’r iaith ddefnyddir yn y Deddfau Cyfrinchau Swyddogol yn hen-ffasiwn. Awgrymir defnyddio “pwerau tramor” yn hytrach na “ gelynion”, i gynnwys mudiadau terfysgol a chwmniau yn dod dan reolaeth gwladwriaeth.Disodli’r termau “ braslun, cynllun, model,nodyn a chyfrinair cyfrinachol swyddogol ac arwyddair” gyda “dogfen, gwybodaeth neu erthygl arall”, gan byddai hyn yn cynnwys unrhyw raglen neu ddata mewn ffurf electroneg.
YSBIO: Ar hyn o bryd, ni chyflawnir trosedd o ysbio os nad yw’r unigolyn yn Brydeiniwr neu yn was sifil Prydeinig, ac os yw’r ysbio yn digwydd dramor. Yr awgrym yw bod trosedd yn digwydd pa un a yw’r unigolyn yn ddinesydd Prydeinig ai peidio..Ond er .hynny,dylai bod cysylltiad “sylweddol” rhwng ymddygiad yr unigolyn a buddiannau’r Deyrnas Gyfunol.
RHYDDHAU GWYBODAETH: Mewn achosion o ryddhau gwybodaeth, awgrymir dileu gorfod profi bod datgelu’r wybodaeth wedi achosi niwed. Yn hytrach, byddai’n rhaid profi cyflwr meddwl penodol, megis y gred neu’r wybodaeth y byddai’r datgelu yn achosi niwed.Yn yr un modd ag mewn achosion o ysbio, ni chyflawnir trosedd wrth ryddhau gwybodaeth os gwneir hyn gan rhywun nad yw’n was y goron neu’n ddinesydd Prydeinig.Awgrymir newid y Ddeddf er mwyn ei gwneud yn drosedd i unrhyw un sydd yn gweiithio ar ran y llywodraeth ryddhau gwybodaeth, pan fo mewn gwlad dramor, waeth beth fo ei ddinasyddiaeth.
AMDDIFFYN: Byddai amddiffyniad er budd y cyhoedd ar gael i’r sawl gyhuddir o ddadlennu gwybodaeth heb ei awdurdodi. Ni fyddai’r unigolyn yn euog os darganfyddid bod datgelu o fudd i’r cyhoedd. Mae’r Comisiwn yn awgrymu seilio’r amddiffyniad ar ofynion Erthygl 10 yr hawl i ryddid barn. Dylai’r amddiffyniad fod ar gael i unrhyw un gyhuddir o drosedd, a byddai dwy ran i’r prawf.Byddai’n ofynnol i’r testun a dull ei ddatgelu fod er lles y cyhoedd. Cwestiwn politicaidd i’r Llywodraeth a’r Senedd ei ddiffinio yw’r ffactorau sydd yn diffinio lles y cyhoedd.
COMISIYNYDD ANNIBYNNOL: Byddai comisiynydd annibynnol statudol ar gael i dderbyn unrhyw bryderon gan weision sifil neu sifilwyr, mewn achosion pan fo posiblrwydd i ddatgelu’r pryderon hynny fod yn drosedd.Wedyn byddai’r comisiynydd yn ymchwilio i’r cyfryw bryderon.Mewn achosion ble na byddai datgelu’r pryderon i’r comisiynydd yn amddiffyn hawliau’r unigolyn dan Erthygl 10, byddai modd iddo gynnig amddiffyniad o safbwynt lles y cyhoedd. Dyna ddigwyddai hefyd petae gwybodaeth heb awdurdod wedi ei datgelu, pa run bynnag.
DEDFRYDU: Dwy flynedd yw’r gosb uchaf am ddatgelu diawdurdod ar hyn o bryd.Daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad nad oedd hyn bob amser yn adlewyrchu’r niwed allai’r drosedd ei achosi, nac euogrwydd y troseddwr.Awgrymir cynyddu’r ddedfryd uchaf, er nad awgrymodd y Comisiwn faint ddylai hynny fod.
Beth sydd am ddigwydd yn awr?
Rhaid i’r llywodraeth ymateb i’r argymhellion ar ol cynnal adolygiad llawn o’r adroddiad.
Sut gallwn ni helpu?
Cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 am gyngor arbenigol. Gallwn roi cyngor ar bledio ac amddiffyn, a’r dedfrydau posibl mewwn ystod eang o sefyllfaoedd.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.