14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Y stori fawr yn y newyddion dros y Sul oedd y newydd syfrdanol fod y Gweinidog Carchardai yn trafod dileu yr hawl i garcharu am gyfnod byr, cyfnodau o 6 mis neu lai. Gan ddadlau bod angen newid dywedodd Mr Stewart wrth Gylchgrawn y Daily Telegraph:” Rydych yn carcharu pobl am dair wythnos neu fis; collant eu ty, eu gwaith, eu teulu a’u henw da. Deuant i’r carchar, cyfarfod cymeriadau diddorol ( i’w roi mewn ffordd boleit!), ac yna gollyngir hwy ar y stryd eto. Os oes gennym gynllun cosb gymunedol effeithiol, mae’r cyhoedd yn fwy diogel, a byddai hyn yn tynnu llawer o bwysau oddiar garchardai.
Nid yw dedfrydau byr yn effeithiol gan nad oes amser i ail-sefydlu troseddwr, ac mae’n amharu’n fawr ar ei fywyd, ac yn arwain at ail-droseddu ar raddfa hyd yn oed yn fwy. Mae cefnogwyr dedfrydau byr o garchar yn cyfeirio at fanteision “sioc lem, sydyn”, a chyfnod heb neb yn troseddu yn y gymdogaeth.
Mae tystiolaeth ar gael i gefnogi’r ddwy ochr yn y ddadl hon, ond rhaid gofyn y cwestiwn ehangach, sef beth yw diben carchar. Ai atal, cosbi, ail-sefydlu, neu rywbeth arall, neu gyfuniad o bethau.Ar ol penderfynu beth yr ydym am ei gyflawni trwy garcharu troseddwyr, rhaid gofyn wedyn a yw hyn yn gweithio.
Dyma enghraifft drafodwyd yr wythnos hon; dau frawd yn y carchar am 3 mis am drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder ( ceisio osgoi pwyntiau cosb am drosedd gyrru cerbyd). Wnaeth ofn gorfod mynd i’r carchar eu hatal? Naddo mae’n amlwg. Mi fydd hyn yn gosb wrth reswm,ond a fydd hi’n gosb gymesur os collant eu cartrefi a’u swyddi? A fuasai cosb hollol wahanol a mwy buddiol fel gwaith di-dal yn y gymuned wedi bod yn well?
Aeth trafod gwahanol agweddau o bolisi cosb ymlaen ers amser maith, ac yn draddodiadol mae pleidiau politicaidd wedi osgoi unrhyw ddadl sydd yn tueddu at fod yn rhy feddal wrth drin troseddau.Felly da gweld gweinidog yn y llywodraeth yn barod i fynd i’r afael a’r materion cymhleth hyn, er lles pawb.
Bydd rhaid deddfu cyn cael unrhyw newid, felly nid yw’n debygol bydd unrhyw beth yn digwydd am flwyddyn o leiaf.Ond yn y cyfamser rhydd gyfle i’r rhai sydd o blaid hyrwyddo newid drafod y dadleuon gyda barnwyr sydd yn dedfrydu.
Ond efallai bydd cyflwyno’r ddadl,hyd yn oed, yn arbed rhai diffynyddion rhag gorfod treulio cyfnodau byr o garchar diangen a niweidiol.Byddwn ni yn ceisio sicrhau hyn beth bynnag.
Sut gallwn helpu?
Os oes arnoch eisiau cyngor cyfreithiol ynglyn ag unrhyw erlyniad, cysylltwch os gwelwch yn dda a Bethan Williams ar 01758 455 500 mor fuan a phosibl.
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.