STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Cyffuriau yn gysylltiedig a threisio, ac ymateb y gyfraith.

Cyffuriau yn gysylltiedig a threisio, ac ymateb y gyfraith.

Dyddiad: 2020-01-13

Dedfrydwyd Reynhard Sinaga i garchar am oes am dreisio ac ymosod yn rhywiol ar 48 dioddefwr. Credir i’r myfyriwr roi’r cyffur GHB yn eu diodydd i’w gwneud yn anymwybodol, ac felly ni fuasent yn cofio dim am beth ddigwyddodd.Gwadodd y troseddau, gan honni eu bod wedi cydsynio i’r hyn ddigwyddodd, ac mai “cymryd arnynt” gysgu roedd y dynion, er mwyn bodloni ei ffantasiau ef.

Ambell waith cyfeirir at GHB fel cyffur “date rape”, ac fe’i defnyddir yn aml i leihau ofnau. Os cymerir dos mawr ohono, gall arwain at wneud rhywun yn anymwybodol, fel yn achos dioddefwyr Sinaga. Nid oes fawr o oglau ar y cyffur, a dim ond ychydig o flas halen a sebon, sydd yn ei gwneud yn haws ei guddio mewn diod. Gofynnodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, i’r Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnydd Cyffuriau adolygu dosbarthiad y cyffur. Yn ei llythyr i’r Cyngor, cyfeiria at ddefnydd Sinaga ohono, yn ogystal a Stephen Port a Gerard Matovu, dau ddedfrydwyd am lofruddiaeth. Cyffuriau Dosbarth C yw GHB (gamma-hydroxybutyric) a GBL (gamma-butyrolactone) ar hyn o bryd. Mae defnydd cyfreithlon iddynt, felly mae hawl eu mewnforio, allforio, cynhyrchu, cyflenwi, cynnig eu cyflenwi, neu eu cael yn eich meddiant; ond nid yw’n gyfreithlon i bobl eu llyncu, onibai fel rhywbeth i ychwanegu blas i fwyd.

Gofynnir i’r Cyngor ymchwilio ar frys i ddosbarthiad GHB a GBL dan Ddeddf Camddefnydd Cyffuriau 1971, a’u rhestru dan Reoliadau Camddefnydd Cyffuriau 2001.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae eisoes yn drosedd cyflenwi neu bod a’r cyffur yn eich meddiant os gwyddoch neu os credwch ei fod am gael ei lyncu.Mae’n debygol bod yr Ysgrifennydd Cartref eisiau i hyn fod yn drosedd fwy difrifol.Yn gyffur Dosbarth C, 2 flynedd o garchar yw’r gosb uchaf am ei gael yn eich meddiant, a 14 blynedd am ei gyflenwi. Fel cyffur Dosbarth B, er enghraifft, mae’r gosb am gael cyffur yn eich meddiant yn 5 mlynedd,ond y gosb am ei gyflenwi yn aros yn 14 blynedd.Mwy o gosb am gael y cyffur yn eich meddiant fyddai’r unig wahaniaeth gwirioneddol.

Oes angen newid ei ddosbarthiad?

Yn achos Sinaga, y mater dan sylw oedd i’r cyffur gael ei ddefnyddio i wneud ei ddioddefwyr yn analluog i ymateb, ac nid yn unig bod a GHB yn ei feddiant neu ei gyflenwi.Mae trosedd arall ar wahân dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2005, sef rhoi sylwedd i unigolyn er mwyn ei drechu, a hynny’n caniatáu cyflawni gweithred rywiol.Byddai GHB ymysg y sylweddau hynny, gan nad yw’r dosbarthiad yn amharu ar y drosedd, oherwydd mai at sylwedd y cyfeirir, ac nid at gyffur. Mae uchafswm o 10 mlynedd o garchar am y drosedd honno.Ond mewn gwirionedd, pan mae diffynydd yn wynebu honiadau o dreisio neu lofruddio, annhebygol y byddai angen dedfryd ar wahân am roi rhyw sylwedd neu gyffur i’r dioddefwr.Tueddir i ddedfrydu trosedd o roi cyffur yn fwriadol, pan fo cyffur wedi ei roi mewn diod, er enghraifft, gyda’r bwriad o gael rhyw; ond nid yw’r drosedd yn mynd mor bell a gweithred rywiol.Yn ddiamau, byddid yn ymdrin a’r ffaith bod cyffur wedi ei roi fel ffactor oedd yn gwaethygu’r sefyllfa.Mae canllawiau dedfrydu am dreisio yn cyfeirio’n benodol at y ffactor waethygol o roi alcohol neu gyffuriau i ddioddefwr er mwyn hwyluso’r drosedd.Am fod ffactor waethygol, mae mwy o euogrwydd, ac o ganlyniad mae man cychwyn y ddedfryd am y drosedd yn uwch.

Sut gallwn helpu?

Cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 am gyngor arbenigol, a gadewch i ni helpu. Gallwn roi cyngor ar sut i bledio,ar amddiffyniad ac ar ddedfrydau posibl mewn nifer fawr o amgylchiadau.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.