STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Cwmniau a Llwgrwobrwyo

Cwmniau a Llwgrwobrwyo

Dyddiad: 2018-10-04

Dan Adran 7 Deddf Llwgrwobrwyo 2010, mae’n drosedd i un cwmni lwgrwobrwyo arall er mwyn cael mwy o fusnes, neu i gael mantais mewn busnes. Y gollfarn gyntaf yn dilyn treial am drosedd dan yr Adran hon oedd yn achos Skansen Interiors Ltd. gafwyd yn euog am nad oeddent wedi trefnu darpariaeth ddigonol i atal llwgrwobrwyo. Carcharwyd dau gyfarwyddwr dan Ddeddf 2010, a wynebai’r cwmni’r drosedd dan Adran 7.eu hawli

Beth yn union wnaethant?

Honnwyd i’r cwmni dalu swm mawr o arian er mwyn cael gwybodaeth gyfrinachol fyddai’n rhoi mantais iddynt wrth gynnig pris am gynllun adnewyddu swyddfeydd.Trefnodd CEO newydd ymchwiliad pan glywodd am y trefniant, a ffurfiodd bolisi gwrth-llwgrwobrwyo newydd. Er bod y polisi newydd mewn grym ceisiodd un o’r cyfarwyddwyr anfon y taliad olaf, ac o ganlyniad fe wnaeth y cwmni ei hun hybysu’r heddlu a’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol.

Beth ddigwyddodd i’r Cyfarwyddwyr?

Cafwyd y ddau yn euog o’r troseddau dan Adrannau 1 a 2 o’r Ddeddf; carcharwyd un am 12 mis a’r llall am 20 mis, a diddymwyd eu hawl i ddal swydd cyfarwyddwr, y naill am 6 blynedd, a’r llall am 7 mlynedd.

A oedd dewis ar wahan i erlyn?

Gan fod y cwmni ei hun wedi hysbysu’r heddlu gellid cynnig iddynt dalu dirwy i arbed cael eu herlyn ( Cytundeb Erlyn Oededig).Yn yr achos hwn roedd y cwmni’n segur erbyn hyn ac felly ni ellid talu.Er bod Barnwr wedi cwestiynu’r erlyn, penderfynwyd mynd ymlaen a’r achos er mwyn rhybuddio cwmniau bychain bod llwgrwobrwyo yn fater difrifol, ac iddynt sicrhau ffurfio polisiau a dulliau o weithredu iawn.

Beth oedd eu hamddiffyniad?

Mae’r drosedd ( dan Adran 7) yn ymwneud a chwmni yn methu atal llwgrwobrwyo; ceisiodd y cwmni ei amddiffyn ei hun trwy ddweud fod ganddo “ gynlluniau addas” i ymdrin a hyn, ond yn dilyn treial fe’i cafwyd yn euog.

Oes modd cael arweiniad pan yn rhedeg busnes?

Mae arweiniad ar gael gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder am ddulliau osgoi llwgrwobrwyo y dylai pob cwmni eu dilyn: https:/www.justice.gov.uk/downloads/legislation/bribery-act-2010-guidance.pdf

Sut gallwn helpu?

Os ydych yn wynebu ymchwiliad neu achos llys ynglyn a’r Ddeddf Llwgrwobrwyo,neu unrhyw drosedd fel cwmni, cyfarwyddwr neu weithiwr, cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk am gyngor.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.