STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Carchar yn brofiad anodd

Carchar yn brofiad anodd

Dyddiad: 2019-06-21

Mae cael eich carcharu yn brofiad anodd,ac wrth gwrs mae hynny’n wir gan mai cosb yw’r amcan wedi’r cyfan.Ond mae hefyd yn anelu at gael pobl i wella’u hymddygiad a’u hatal rhag ail-droseddu.Nid yw carcharu’n gweithio os yw’n arwain at fwy o droseddu.

Tynnwyd sylw’n ddiweddar at broblemau penodol merched yn Arolwg o Ferched gan Farmer.Gobaith yr Arglwydd Farmer yw gwella profiad merched o fewn y system cyfiawnder troseddol, gyda’r bwriad o leihau ail-droseddu. Ond nid carcharorion yn unig sydd dan sylw. Mewn ymchwiliad blaenorol gan yr Arglwydd Farmer ar garcharorion gwrywaidd, daeth i’r amlwg bod 63% o feibion y dynion hyn yn troseddu maes o law, a bod plant carcharorion benywaidd, wedi iddynt hwy dyfu’n oedolion, yn fwy tebygol o gael eu dedfrydu am droseddu. Y prif reswm am y problemau hyn yw bod perthynas deuluol yn chwalu o ganlyniad i gyfnod dan glo, pa un ai ar remand neu yn y carchar, yn enwedig gan mai merched yn aml yw’r prif ofalwyr.

Canfuwyd yn ol yr Adroddiad bod merched 39% yn llai tebygol o ail-droseddu os daw teulu i ymweld a nhw yn y carchar, ac felly mae’n amlwg mor bwysig lliniaru’r problemau hyn.

Beth yw’r problemau?

Gall unrhyw gyfnod dan glo, pa un ai’r noson gyntaf mewn cell neu ddedfryd o bum mlynedd o garchar, gael effaith andwyol ar sawl agwedd o fywyd unigolyn.Mae perthynas gyda theulu, ac yn enwedig gyda phlant a phartneriaid, yn dioddef yn enbyd os dygir un aelod o’r uned deuluol yna i ffwrdd am gyfnod hir; ffaith sydd yn creu mwy fyth o ddioddef gan fod merched ar gyfartaledd yn cael eu carcharu 63 milltir o’u cartrefi, a hyn yn gwneud ymweld yn anos fyth.

Mae pryder mamau a phrif ofalwyr yn cynyddu o gael eu gwahanu oddi wrth eu plant, yn enwedig os mai’r fam yw’r unig ofalwr. Y plant sydd bwysicaf mewn sefyllfa o’r fath, a darganfu’r Adroddiad mai ychydig iawn o gynnydd ellir ei wneud gyda’r carcharor, nes bod rhywun yn ymdrin a’r pryder hwn.

Cydnabyddir bod trais domestig hefyd yn cael effaith ar berthynas a phobl eraill, a hwyrach yn achosi troseddu.

Beth ellir ei wneud i helpu?

Mae’r Adroddiad yn cydnabod bod modd osgoi troseddu trwy ymyrryd yn gynnar mewn nifer fawr o sefyllfaoedd, yn cynnwys salwch meddwl, chwalu perthynas, camddefnydd cyffuriau, addysg a dyled.Gwneir nifer o argymhellion i gryfhau perthynas merch sydd wedi troseddu a’i theulu ac eraill, er mwyn atal ail-droseddu a lleihau troseddu rhwng dwy genhedlaeth.

Argymhellion

Ymyrryd yn gynt, er mwyn ymdrin a gwendidau rhai merched all eu harwain i gysylltiad a’r system cyfiawnder troseddol, a’u cael i ymddwyn yn wahanol. Petae gwasanaethau a rhwydwaith o gefnogaeth dda ar gael yn hawdd i ferched, gellid osgoi troseddu, ac arbed y plant rhag dilyn yr un patrwm o droseddu.

Un argymhelliad penodol yw creu ffeil o’i sefyllfa bersonol i wraig fel gellir rhannu’r wybodaeth drwy gyrff dibynadwy, fel yr heddlu a’r awdurdod lleol, y gwasanaeth iechyd a Chymorth i Ddioddefwyr.

Mae angen canolbwyntio o’r newydd ar fath arall o lety. Ar hyn o bryd, mae hostelau mechniaeth yn fwy addas ar gyfer dynion, ac ni chaiff plant fyw ynddynt nac ymweld.

Rhaid i’r llywodraeth adolygu’r cyfyngiadau hyn, a rhaid cyfeirio merched mewn hostelau at wasanaethau all eu helpu gyda gofalu am eu plant, neu gyda phroblemau perthynas pan fo hynny’n addas.

Dylai adroddiad cyn dyfarnu fod yn orfodol i bob merch (ac i ddynion sydd yn brif ofalwyr) os oes posiblrwydd iddynt gael eu dedfrydu i gyfnod dan glo.Byddai’r adroddiad yn dangos pa effaith fyddai dyfarniad o garchar yn ei gael ar rai sydd yn ddibynnol ar y carcharor, ac yn rhoi manylion am ffactorau lliniarol megis camdrin domestig.

Rhaid i ferched ddedfrydwyd i garchar neu i remand gael cyfle i gysylltu ar y ffon gyda’r rhai sydd yn ddibynnol arnynt, a chael trefnu gofal plant cyn cael eu cario i ffwrdd.Dylid rhoi ystyriaeth i brif ofalwr neu gysylltiadau eraill cyn rhoi merch ar remand, oherwydd gall hyd yn oed cyfnod byr ar remand gael effaith andwyol ar deuluoedd, ar denantiaeth a’r gallu i ofalu am deulu.

Dylid cael strategaeth hir-dymor i ddatblygu canolfannau carcharu ar gyfer merched gyflawnodd drosedd digon difrifol i haeddu carchar, ond eu bod yn ddigon risg isel i gael dal i ofalu am eu plant.

Pan fo cyfnod o garchar yn anochel mae nifer o awgrymiadau ar sut i ehangu yn hytrach na chwalu cysylltiadau teuluol, er enghraifft, gwelliannau i’r Cynllun Ymweliadau Carchar, a gofod i ymweliadau teuluol preifat.

Rhai o’r problemau oedd yn poeni merched yn y carchar amlaf oedd hawl i gael eu rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL), a thrwydded ail-sefydlu plant(CRL). Gellid defnyddio ROTL yn amlach o lawer ac yn fwy creadigol i helpu merched gyflawni cyfrifoldebau gofal a helpu ail-sefydlu.Gellid ymestyn CRL i gynnwys sefyllfaoedd teuluol eraill ac nid yn unig statws prif ofalwr.

Er mwyn gwneud cyfathrebu’n haws yn ystod cyfnod o garchar, rhaid i gynlluniau e-byst i garcharorion fod yn gyson, a phob merch i ddatblygu system ateb trwy e-bost, fel nad yw plant yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu os na dderbyniant ateb.Dylid defnyddio ymweliadau cyswllt fideo, a ffon yn y gell, i gymryd lle ymweliadau wyneb yn wyneb.

Casgliad

Gellir cydbwyso’r costau yn hyn i gyd; er enghraifft, trwy’r arbedion wneir wrth gadw merched allan o’r system carchardai, a’r arbedion o beidio rhoi plant mewn gofal cymdeithasol.

Yn sicr mae yma nifer o argymhellion diddorol; amser a ddengys os cant eu gweithredu.Yn y cyfamser, bydd ein cyfreithwyr yn sicrhau bydd darlun cyflawn o’r sefyllfa’n cael ei gyflwyno i unrhyw lys fydd yn dyfarnu.

Sut gallwn helpu?

Os am gyngor arbenigol cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500, neu office@strainandco.co.uk a gadewch i ni helpu. Gallwn roi cyngor ar bob agwedd o’ch achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.