STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Canllawiau dedfrydu newydd ar gyfer drylliau tanio

Gwn

Dyddiad: 2020-12-09

Yn dilyn trafodaethau blaenorol cyhoeddwyd wyth canllaw newydd ar gyfer troseddau yn gysylltiedig a gynnau, ddaw i rym ar Ionawr 1af 2021. Bydd rhaid i’r rhai sydd yn dedfrydu eu dilyn, onibai bod Barnwr neu Ynadon yn meddwl nad yw er lles cyfiawnder.

Mae’r wyth canllaw newydd ar gyfer y troseddau canlynol:

2) 1) Bod yn berchennog, prynu neu gael gwn neu ffrwydron sydd wedi eu gwahardd. 2) Bod yn berchennog, prynu neu gael gwn neu ffrwydron heb dystysgrif. 3) Gwn neu ffrwydron ym meddiant rhywun sydd wedi ei wahardd oherwydd collfarnau blaenorol. 4) Cario gwn mewn lle cyhoeddus. 5) Bod a gwn yn eich meddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd. 6) Bod a gwn neu wn ffug yn eich meddiant gyda’r bwriad o godi ofn bod trais am ddigwydd. 7) Defnyddio gwn neu wn ffug i osgoi cael eich arestio;bod a gwn neu wn ffug yn eich meddiant tra’n cyflawni trosedd Rhestr 1; cario gwn neu wn ffug gyda’r bwriad o droseddu. 8) Gwneud, gwerthu neu drosglwyddo arfau neu ffrwydron sydd wedi eu gwahardd; bod a rhai yn eich meddiant er mwyn eu gwerthu neu eu trosglwyddo; prynu neu gael rhai er mwyn eu gwerthu neu eu trosglwyddo.

Pam bod angen canllawiau newydd?

Ar hyn o bryd nid oes canllawiau dedfrydu ar gyfer troseddau drylliau tanio yn Llys y Goron, a dim ond un yn y Llys Ynadon.Er nad yw’r troseddau hyn yn digwydd yn aml,maent yn rhai difrifol, a bwriad y canllawiau yw sicrhau cysondeb wrth ymdrin a hwy.

Dyma esiamplau o rai o’r materion dedfrydu godwyd yn ystod y trafodaethau:

Gofynwyd am ganllawiau pellach petae amgylchiadau eithriadol yn codi lle na byddai’n bosibl rhoi’r gosb leiaf. Cytunodd y Cyngor Dedfrydu eu bod yn cydymdeimlo i raddau a’r rhai oedd yn gofyn am ganllawiau mwy penodol, ond “gan mai prawf o amgylchiadau eithriadol yw, ni ellir eu diffinio.”

Wrth roi dedfryd am fod ag arf wedi ei wahardd yn eich meddiant, rhannwyd yr asesiad risg yn ddau. Yn gyntaf,a yw gwn wedi ei lwytho yn golygu, ohono’i hun,risg uchel o niwed, waeth beth yw amgylchiadau’r achos. Yn ail, sut mae barnwyr yn asesu risg ar sail beth all, neu na all, ddigwydd yn ddiweddarach.

Ystyriwyd pa mor euog yw diffynydd bregus y gofynwyd iddo ddal gwn ar ran rhywun arall. Mae’n bosibl bod gwahaniaeth sylweddol yn euogrwydd unigolyn na wyddai mai dal gwn tanio yr oedd, a rhywun sydd yn gwybod mai gwn ydyw, a’i fod am gael ei ddefnyddio i gyflawni trosedd.

Ail-ddrafftiwyd y ffactorau euogrwydd i gynnwys llai o euogrwydd pan nad oedd defnydd, na bwriad o ddefnyddio’r gwn.

Anghysondeb mewn dedfrydau

Adolygwyd anghysondebau amlwg yn y canlyniadau dedfrydu gan y Cyngor Dedfrydu. Canfuwyd arwyddion cryf bod llysoedd yn trin troseddwyr croenddu,Asiaidd, a rhai o gefndiroedd ethnig eraill am droseddau gynnau tanio, yn fwy llym na throseddwyr gwyn eu croen.Ystyriwyd y rhesymau posibl am yr anghysondeb, megis gwahaniaeth mewn collfarnau blaenorol. Nododd y Cyngor na sylwid ar gefndir ethnig bob amser, ac na chymerid pryd a gwedd personol i ystyriaeth.

Sut trafodwyd hyn?

Ychwanegwyd rhannau newydd at y canllaw gan ofyn i ddedfrydwyr fod yn ymwybodol o’r anghysondebau. Mae’r rhan hon yn egluro y bu gwahaniaethau, a gall fod sawl rheswm am hynny; ac atgoffwyd hwy o’r wybodaeh a’r arweiniad yn Llyfr

Triniaeth Gyfartal y Fainc.

Camau nesaf: Cyhoeddwyd y canllaw newydd ar Ragfyr 9fed 2020, a daw i rym ar ionawr 1af 2021.Bydd trafodaeth y flwyddyn nesaf ar ganllawiau pellach yn ymwneud a throseddau mewnforio gynnau.

Sut gallwn helpu?

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos, cysylltwch os gwelwch yn dda a Bethan Williams ar 01758 455 500 neu Bethan@strainandco.co.uk

[Image credit: “Hand Gun” by Lala Photography at JoLi Studios Colchester is licensed under CC BY-SA 2.0)

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.