STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Ariannu’r Heddlu

Dyddiad: 2021-12-20

Cyhoeddodd y llywodraeth gynnydd o 7% i ariannu cyllideb yr heddlu,hyd at £1.1 biliwn,sydd yn golygu cyfanswm o hyd at £16.9 biliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022- 2023.Gwneir hyn er mwyn cefnogi gweithredu’r Cynllun Trechu Trosedd,sef dull strategol y llywodraeth i leihau trosedd.

Mae’r cynllun yn cynnwys manylion am y mannau hynny y canolbwyntir arnynt,y lleoliadau,y bobl a’r mentrau troseddol sydd yn hyrwyddo’r fasnach cyffuriau.

Mae’r cynllun yn cynnwys rhestr o’r “mesurau newydd eofn i atal trosedd”:
  1. Ail-gysylltu’r heddlu gyda’r cyhoedd drwy roi mynediad digidol at yr heddlu i bob unigolyn,trwy lwyfan ar-lein.Bydd gwasanaethau heddlu rhyngweithiol ar gael mewn un safle,gyda enwau a manylion cyswllt ar gyfer heddweision mewn ardaloedd cyfagos.
  2. Gwella’r ymateb i alwadau 101 a 999.Ffurfir tablau i gymharu safon ateb galwadau,a sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod pa mor atebol yw eu heddlu lleol.
  3. Cydweithio gyda phobl ifanc er mwyn eu diogelu rhag trais. Canolbwyntio ar rai anfonwyd i Adran Ddamweiniau ysbyty gyda anafiadau cyllyll,neu yn dilyn cyswllt gyda’r heddlu.Anfonir timau arbenigol i ysgolion mewn ardaloedd lle mae trais difrifol yn broblem,er mwyn cefnogi pobl ifanc i ail-afael yn eu haddysg.
  4. Bydd monitro electronig yn cael ei ymestyn i 13 ardal heddlu ychwanegol,er mwyn atal a darganfod troseddau meddiangar difrifol.(h.y.dwyn a.y.y.b.)
  5. Defnyddir tagiau alcohol ar unigolion gyflawnodd “drosedd dan ddylanwad diod” pan gant eu rhyddhau o garchar yng Nghymru.Mae’r tagiau’n canfod alcohol yn chwys defnyddwyr,a defnyddir hwy er mwyn helpu i newid ymddygiad a lleihau trais a throseddau cysylltiedig ag alcohol.
  6. Anogir unigolion yn gadael carchar i gael gwaith gyda’r gwasanaeth sifil.Y bwriad yw cyflogi 1,000 o gyn-garcharorion erbyn diwedd 2023.
  7. Troseddau gyda chyllyll.Bydd yr amodau ynghlwm ag ymchwiliadau dan Adran 60 yn cael eu llacio’n barhaol er mwyn galluogi’r heddlu i gymryd mwy o gyllyll oddiar y strydoedd.
  8. Bydd gwaith Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn cael ei ymestyn,gan roi iddynt yr offer angenrheidiol i atal trosedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Yn dilyn ymdrech i dargedu troseddwyr dangosodd adroddiad diweddar gan y llywodraeth ostyngiad o 14% mewn trosedd yn gyffredinol.Cyflogwyd 11,053 o blismyn ychwanegol;caewyd 1,500 o linellau sirol;cliriwyd bron i 16,000 o gyllyll oddiar y strydoedd,a chysylltwyd gyda 300,000 o bobl ifanc trwy’r Unedau Cwtogi Trais.

Ychwanegir £796 miliwn at gyllid Comisiynwyr yr Heddlu os manteisir yn llawn ar hyblygrwydd y praesept.Am y tair blynedd nesaf bydd ganddynt hyd at £10 o hyblygrwydd praesept i’w ddefnyddio ar gyfer pob eiddo Band D.Praesept yr heddlu yw’r ffordd mae pob heddlu yn codi arian ychwanegol ar gyfer cyflawni eu gwaith trwy drethi’r cyngor.

Yn 2022 bwriad y llywodraeth yw:

  1. Mwy o blismyn i ddelio’n benodol a throsedd gyfundrefnol ddifrifol.
  2. Creu Labordy Trosedd Genedlaethol i hybu’r defnydd o ddata gwyddonol dyfeisgar,a lleihau trosedd.
  3. Profi dulliau ymchwilio i drais rhywiol.
  4. Peidio cadw dioddefwyr trais neu droseddau rhywiol difrifol heb ffon symudol am fwy na 34 awr.
  5. Mwy o fonitro pa mor atebol yw galwadau ffon 101 a 999.
  6. Buddsoddi mewn cudd-ymchwiliadau ac ymholiadau cyfraith orfodi er mwyn mynd i’r afael a throsedd economaidd.
  7. Gwella’r ffordd o gasglu gwybodaeth yn ymwneud a gynnau.
  8. Buddsoddi er mwyn mynd i’r afael a thwyll.
  9. Buddsoddi mewn rhaglenni sylweddol ar gyfer gorfodaeth i ufuddhau i’r gyfraith.

Gyda chyhoeddi’r darpar gytundeb ariannu,bydd cyfnod o ymgynghori yn cychwyn,a bydd angen dadl yn y senedd cyn gellir cyhoeddi’r gyllideb derfynol i’r heddlu.

Sut gallwn ni helpu?

Sicrhawn bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth neu yn y gyfraith achosion,er mwyn rhoi’r cyngor gorau posibl i chi.Os dymunwch drafod unrhyw agwedd o’ch achos,cysylltwch gyda Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.